gan Macsen » Mer 04 Chw 2004 10:08 pm
Sori, RET79. Os wyt ti am amddiffyn FOX am y celwydd hollol a uchod dw i wedi colli bob parch tuag atat ti fel person. Wir i ti, dw i ddim hyd yn oed am gonsidro unrhyw safbwynt wyt ti yn ei gymeryd unrhywbyd eto! Rwyt ti fel person dall yn ceisio dweud wrth gweddill y byd fod ei syniad nhw o'r lliw oren yn anghywir! Os wyt ti hyd yn oed am geisio dadlau o blaid FOX yn yr achos yma does gen ti ddim ymenydd! Dim ymosodiad personol yw hwn, ond ymosodiad ar y mwyafrif o bobl syn derbyn y byd fel mae'r cyfryngau yn dweud wrthynt y mae o; sydd ddim yn gwybod sut i feddwl dros ei hunain, hyd yn oed pam bo FOX yn dweud rywbeth sydd mor amlwg yn peil o gachu gwirion. Mae gen i ychydig mwy o barch tuag at Boris, a dwi'n cyfaddau roedd y BBC ar fai gymaint ag oedd y llywodraeth. Ond all neb yn y byd (sydd yn gallu meddwl tu allan i sphere malu cachu FOX news) ddadlau ei bod nhw'n gwneud dim byd llai na plygu'r gwir yn yr achos yma. RET, wyt ti'n gwybod pwy ydi Rupert Murdoch? Wyt ti'n gwubod ei hanes o? Wyt ti'n gwybod ei fod o'n casau'r BBC ers oes am ei bod nhw'n cael pres gan y public, ac ddim yn fodlon dangos hysbysebion? Wyt ti'n deall ei fod o am wneud popeth yn ei bwer i gael gwared o public service broadcasting? Wir, Ret, wyt ti esiau cael hysbysebion bod saith munud fel sydd genyn nhw yn America? Fydda ddim well genyt ti gael rhagleni da, heb hysbysebion, fel mae'r BBC yn ei rhoi i ni? Dwyt ti ddim yn selweddoli bod safon rhagleni yn disgyn oherwydd hysbysebu, am fod rhagleni yn cael ei ysgrifennu i gyd fynd a hysbysebion a tynnu mewn yr torf mae'r hysbysebwyr ei eisiau yn unig? Wyt ti ddim yn sylwi bod y BBC yn ceiso bod yn objectif ymhob achos, yn cynnwys yr un dan gwestiwn? Wyt ti wir yn meddwl bod FOX yn gytbwys yn ei dehongliad nhw o'r BBC? Pa sail yn union sydd gen ti i gredu'r boi yma ar FOX? Mae'r ffaith dy fod ti am ddadlau o blaid FOX yn yr achos yma… yn dangos bod FOX wedi curo! Wedi medru creu ei supersoldier fel pytai! Person sydd yn anwybyddu popeth o'i gwmpas ac yn mynd ar ol be maen nhw (yr media right-wing) yn dweud yn unig. Wyt ti erioed wedi cael yr awydd, ret, i ffurfio dy farn dy hun am unrhywbeth? Wyt ti erioed wedi darllen unrhyw ffynhonell ar y mater? Erioed? Ta ydi o yn 'ddyfyniad rhu hir i ti' bob tro? Ti wedi sticio i'r dde fel superglue heb hydynoed dweud wrthyn ni pam wyt ti'n fodlon hongian yn yr unfan, yn hollol ddimymateb ir byd o dy gwmpas di. Dwyt ti ddim hyd yn oed yn adain dde yn y bon, am nad wyt ti hyd yn oed gwybod beth yw ei polisiau a'i dadlaeuon nhw! Felly paid a dadlau o blaid FOX yn yr achos yma, RET, neu bydd rhaid i fi golli pob gobaith yn y ddynoliaeth a torri fy arddwn gyda razor blades fel yr hen Dr Kelly.