eusebio a ddywedodd:
(1) Doedd Gilligan ddim yn Iraq, felly mae adrodd ei fod wedi dweud geiriau tebyg i Comical Ali yn gelwydd noeth.
Oeddwn i dan yr argraff ei fod wedi bod yn Irac .
eusebio a ddywedodd:(2) Doedd y BBC ddim yn pro-Iraqi ac Anti-American - mewn arolwg cafwyd mae'r BBC oedd y gwasanaeth darlledu Prydeinig oedd yn cefnogi'r llywodraeth fwyaf.
Mater o farn?
eusebio a ddywedodd:(3) Yr unig 'gelwydd' yn adroddiad Gilligan oedd fod y llywodraeth wedi rhoi'r honiad am 45 munud i fewn yn yr adroddiad gan wybod ei fod yn anghywir * - mae dweud fod y BBC yn gelwyddgwn ar sail hyn yn hollol anghywir.
Ond roedd hyn yn honiad eithaf allweddol. Efallai fod Gilligan yn iawn yn ôl yr Independent ddoe, ond yn ôl ei gyfaddefiad ei hun doedd o dim yn gywir i ddatgan fod ei 'source' sef David Kelly, wedi dweud fod y llywodraeth yn gyfrifol am y pwynt re. 45 munud.
Gyda llaw, sda fi ddim problem mawr efo'r BBC - dwi jyst yn gwrando arnyn nhw efo pinsiad o halen. A ti dal heb egluro sut ti'n gallu cael yr amser i ddarllen cymaint o bapurau newydd pob dydd - tell me the secret!