Fox News yn son am adroddiad Hutton...

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan eusebio » Iau 05 Chw 2004 1:23 pm

Boris a ddywedodd:A dwi'n sylwi fod dy ddadl re. SW o Newsnight wedi syrthio.


:? Ti ddywedodd mai stwff Hutton oedd hyn ac yn amherthnasol i'r ddadl, felly tydw i heb ei ddilyn i fyny ...

... neu eisiau i mi droi'n diwn gron fel Pogon a Ret wyt ti?

:rolio:

Plîs, dwi'n dy barchu am ddadlau'n rhesymol - paid a gadael dy hun i lawr gyda 'dig' hurt fel yr uchod.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cwlcymro » Iau 05 Chw 2004 2:02 pm

(2) Doedd y BBC ddim yn pro-Iraqi ac Anti-American - mewn arolwg cafwyd mae'r BBC oedd y gwasanaeth darlledu Prydeinig oedd yn cefnogi'r llywodraeth fwyaf.


Mater o farn?


Na ddim rili. Arolwg yng Ngholeg Caerdydd oedd o, yn cymharu gwahanol adroddiada o Iraq gan y BBC, Sianel 4, ITV, Sianel 5 (dwnim os natha nhw Sky hefyd) a mi ddoth BBC allan fwy o blaid y Llywodraeth na neb arall, tra roedd Sianel 4 yn 'wrth-ryfel'.

Felly onid ydi deud fod y BBC yn 'pro-Iraqi' yn gelwydd pur yng ngolau yr unig dystiolaeth sydd ganddom?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan kamikaze_cymru » Iau 05 Chw 2004 5:06 pm

wedi gweld y clip. afiach. enwedig y darn yn y diwedd lle oeddo'n pwysleisio fod o'n gwisgo baner ar ei lapel. fel tasa'r ffaith i fod o'n genedlaetholwr yn gwneud ei bropaganda'n gyfiawn. mi oedd o'n hynod o smyg am y peth hefyd.

mi oedd FOX yn neud fi fod isho chwdu yn ystod y rhyfel. fel arall o'n i'n i wylio fo am laff. un o ddau begwn yn anffodus.
peidiwch bod ofn gofyn y cwestiwn dwl
ymddiheuriadau am y malu awyr

http://kamikaze-cymru.blog-city.com/
Rhithffurf defnyddiwr
kamikaze_cymru
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 471
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 6:18 pm
Lleoliad: Fy ngwely

Postiogan Macsen » Iau 05 Chw 2004 5:19 pm

Boris a ddywedodd:Mae'r BBC yn gorff sy'n hawlio treth o £114 y flwyddyn gan bob perchennog teledu ym Mhrydain felly fe fyddwn yn disgwyl gwell ganddynt. Anheg falle, ond dwi'n dewis PEIDIO tanysgrifio i Sky a Fox News ond does gen i ddim dewis ond talu am y BBC felly mae gen i hawl i disgwyl safonau uwch (megis cywirdeb ffeithiol).


Rwyt ti'n talu y pres yma am ragleni da sydd heb ei sbwylio gan hysbysebion.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Boris » Iau 05 Chw 2004 5:22 pm

eusebio a ddywedodd:Mae tri chwarter o'r hyn sydd yn ymddangos ar orsaf Fox yn stwff fel yr uchod - opinion pieces a rhagleni phone-in lle mae'r rhan fwyaf o'r cyfranwyr yn gwneud i Genghis Khan ymddangos fel commie-leftie-pinko :ofn:


Digon teg, y clip uchod yw'r unig glip i mi erioed ei weld o Fox News ac felly ar sail hwn yn unig dwi di dadlau. Ond dwi'n iawn i ddweud (dwi'n meddwl) fod Fox yn falch o werthu ei gwasanaeth fel un poblogaidd ar y dde yn wleidyddol - mae'r BBC yn honni bod yn ddi-duedd ac felly mae'r allweddol fod safonau y BBC yn uwch. Yn anffodus doedd adroddiad Gilligan ddim yn gywir - agor y drws i ymosodiadau gan elynion y gwasanaeth yn syth megis yr AS Llafur Newydd Sion Simon sydd wedi galw am breifateiddio y gwasanaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Iau 05 Chw 2004 5:24 pm

eusebio a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:A dwi'n sylwi fod dy ddadl re. SW o Newsnight wedi syrthio.


:? Ti ddywedodd mai stwff Hutton oedd hyn ac yn amherthnasol i'r ddadl, felly tydw i heb ei ddilyn i fyny ...

... neu eisiau i mi droi'n diwn gron fel Pogon a Ret wyt ti?

:rolio:

Plîs, dwi'n dy barchu am ddadlau'n rhesymol - paid a gadael dy hun i lawr gyda 'dig' hurt fel yr uchod.


Doedd yna ddim bwriad i gael 'dig' fel ti'n ddisgrifio. Dwi o ddifri yn meddwl fod y ffaith i SW wrthod amddiffyn adroddiad Gilligan yn dweud cyfrolau. Dim sgorio pwyntiau oedd fy mwriad yn y dyfyniad uchod.

Dal i ddisgwyl eglurhad o dy drefniadau gwaith re pump papur dyddiol :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Iau 05 Chw 2004 5:26 pm

Macsen a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Mae'r BBC yn gorff sy'n hawlio treth o £114 y flwyddyn gan bob perchennog teledu ym Mhrydain felly fe fyddwn yn disgwyl gwell ganddynt. Anheg falle, ond dwi'n dewis PEIDIO tanysgrifio i Sky a Fox News ond does gen i ddim dewis ond talu am y BBC felly mae gen i hawl i disgwyl safonau uwch (megis cywirdeb ffeithiol).


Rwyt ti'n talu y pres yma am ragleni da sydd heb ei sbwylio gan hysbysebion.


Ac i mi mae rhaglen dda yn cynnwys adroddiadau sy'n gywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Iau 05 Chw 2004 9:05 pm

Tydw i ddim yn deall y farn nad yw ots beth mae FOX yn ddweud gan bod eu gwasanaeth yn un mae'n rhaid ei dalu amdano - newyddiadurieth yw newyddiaduriaeth.

Wyt ti wir yn credu yr hyn mae'r boi yma yn ei ddweud am BBC a Gilligan ...?

:ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Macsen » Iau 05 Chw 2004 11:00 pm

Y peth oedd, iawn, roedd bai ar y BBC. Ond un camgymeriad mewn record sydd bron yn hollol di gamgymeriad oedd hyn. Y ffaith yw, mae'r FOX report yna'n dweud mwy o gelwydd mewn tri deg eiliad na mae'r BBC wedi ei ddweud ers dyddiau Lord Reith. Bydd y rhai sydd am weld diwedd i public service broadcasting, a'r rhai sydd am weld y BBC dan adain y llywodraeth unwaith eto, yn defnyddio'r un camgymeriad yma fel ecsgiws i ddyrnu'r BBC. Afiach.

(Sori os oedd fy mhost neithiwr ychydig yn rambling ac anealladwy. Roedd y morwr yn y lleuad wedi meddwi; Dwi'n disgwyl rywbeth gwell i ddod. Beth bynnag, wedi ailddarllen be ysgrifennais i dwi'n meddwl bod y prif bwyntiau yn gwbwl glir.)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Boris » Gwe 06 Chw 2004 9:53 am

eusebio a ddywedodd:Tydw i ddim yn deall y farn nad yw ots beth mae FOX yn ddweud gan bod eu gwasanaeth yn un mae'n rhaid ei dalu amdano - newyddiadurieth yw newyddiaduriaeth.


Na, dwi ddim yn cytuno. Dwyt ti ddim yn condemio y Sun achos fod canran uchel o straeon y papur hwnnw yn cael ei greu 'on the hoof'. Ti'n gorfod ystyried be ydi cefndir y gwasanaeth ti'n wrando arno. Efo Fox News, ti'n prynu un olwg ar y byd o safbwynt America. Mae hynny yn hollol amlwg OND gyda'r BBC ti'n talu am wasanaeth cyhoeddus di-duedd - felly mae disgwyliadau yn uwch.

Mae ymchwil yn dangos nad yw pobl yn credu y Sun - ond mae nhw yn credu y BBC, felly mae yna ddyletswydd ar y BBC i fod yn gywir. A dwi'n dod not at y pwynt gwreiddiol - ar sail 'Opinion Piece' o Fox News fe ddatganwyd fod Americans yn thick - bron gymaint o or ddweud a chyfranwr yr opinion piece :winc:

eusebio a ddywedodd:Wyt ti wir yn credu yr hyn mae'r boi yma yn ei ddweud am BBC a Gilligan ...?

:ofn:


70% o'r cyfraniad - nac ydw. Fod Gilligan wedi camarwain yn ei adroddiad - yndw. Dwi hefyd ddim yn gweld y BBC fel corff di-duedd. Fel aelod o Business for Sterling dwi wedi profi rhagfarnnau y BBC ynghylch y ddadl Ewropeaidd a debyg dy fod hefyd yn cofio noson Etholiadau lleol Lloegr 2003. 'Disaster for IDS' oedd y stori trwy'r noson hyd yn oed wrth i gyngor ar ôl cyngor syrthio i ddwylo'r blaid a swing o 8% gael ei gofnodi. Fe ymddiheurodd y BBC yn gyhoeddus am 'serious flaws' a chyfaddef fod y rhaglen wedi dewis lein ymlaen llaw. Yn anffodus wrth i'r dystiolaeth ddangos fod y lein yn anghywir ddaru nhw ddim cywiro ei hunain. Pam?

Yn yr un modd mae Greg Dyke bellach yn arwr i lawer, ond yw cyfaddefiad ganddo na fu iddo ymchwilio i sail stori Gilligan nac hyd yn oed gwrando ar y stori tra'n amdiffyn cywirdeb yr adoddiad yn adlewyrchiad o gorff sy'n rhoi cywirdeb ffeithiol ar dop ei agenda?

Nol at yr Opinion Piece - prif bwynt oedd 'the BBC lied'. Fair comment.
Ail bwynt - 'BBC are smug and superior' - mae'r dystiolaeth uchod yn enghreifftiau o hyn.

Ac i orffen gai ddweud eto nad wyf am weld y BBC yn cael ei ddarnio gan New Labour - ond y ffordd o scirhau dyfodol y gorfforaeth yw safonau newyddiadurol uchel - yn rhy aml dros y blynyddoedd diwethaf da ni ddim wedi cael hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron