Fox News yn son am adroddiad Hutton...

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mega-Arth » Mer 04 Chw 2004 6:25 pm

Ma hyn yn hollol insane! dwi'n meddwl y byddain bosib gael Fox News wedi ei dynnu oddi ar gwasanaeth Sky Prydain am dweud clwyddau mor amlwg. Rhaid eu bod nhw'n torri rheolau broadcastio Ewropiaidd o leiaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Mega-Arth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 162
Ymunwyd: Llun 25 Awst 2003 7:19 pm
Lleoliad: Alaska

Postiogan RET79 » Mer 04 Chw 2004 6:44 pm

a mae'r sylwadau yma'n dod gan y bobl 'well-rounded' hynny sydd ddim yn meiddio darllen tu allan i'r guardian neu'r morning star
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Cwlcymro » Mer 04 Chw 2004 6:56 pm

RET, paid a troi'r ddadl. Ydi'r darn yna o newyddiaduro yn ddibynadwy, teg a chytbwys?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Mer 04 Chw 2004 6:58 pm

Mega-Arth a ddywedodd:Ma hyn yn hollol insane! dwi'n meddwl y byddain bosib gael Fox News wedi ei dynnu oddi ar gwasanaeth Sky Prydain am dweud clwyddau mor amlwg.


Enghraifft arall o hoffter y chwith tuag at sensro.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Boris » Mer 04 Chw 2004 7:04 pm

Cwlcymro a ddywedodd:RET, paid a troi'r ddadl. Ydi'r darn yna o newyddiaduro yn ddibynadwy, teg a chytbwys?


Na, yn bendant ddim yn ddibynadwy, teg na chytbwys OND yw'r BBC yn haeddu un o'r disgrifiadu uchod?

Prif haeriad yr eiten yw fod Gillingam(?) wedi dweud celwydd. Mae o wedi cyfaddef hynny, felly er yn OTT mae'r adroddiad yn sicr yr un mor ffeithiol gywir ac adroddiad gwreiddiol Gillingham.

Os dwi'n deallt yn iawn mae'r BBC ac eraill yn dadlau fod Hutton yn anheg gan fod 90% o'r sylwadau wnaeth Gillingham yn gywir. Wel mae'n deg dweud fod prif fyrdwn yr eitem hon yn nodi fod Gillingham wedi dweud celwydd. Mae'n anodd condemio hyn gan fod Gillingham wedi cyfaddef hynny (h.y. fod ei atgof o'r cyfarfod yn ddiffygiol).

Dwi hefyd yn credu mae 'Opinio Piece' oedd hwn nid adroddiad, ond gall Eusebio gadarnhau neu fy nghywiro ar y pwynt hwn debyg (dwi ddim yn deall digon ar dechnoleg i wneud yr ymchwil perthnasol a sda fi ddim Sky)
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Dan Dean » Mer 04 Chw 2004 7:23 pm

RET79 a ddywedodd:a mae'r sylwadau yma'n dod gan y bobl 'well-rounded' hynny sydd ddim yn meiddio darllen tu allan i'r guardian neu'r morning star


Ia, mae'r guardian lot llai balansd na Foxnews, The Sun a'r Daily Mail tydi RET!!! A gyda llaw, dwin edrych ar wefan Foxnews a Newsmax bron bob diwrnod, yn ogystal a BBC, Independent a'r Guardian.
Felly dwi yn un o'r lleiafrif sydd di bod yn ddigon dewr i feiddio darllen rhywbeth sydd ddim yn bapur leffdi egsdrimust, yn ol dy feddwl di.

Ti'n cytuno efo Fox am y BBC ta, yn lle malu cachu am y chwith ETO?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan RET79 » Mer 04 Chw 2004 7:41 pm

Dan Dean a ddywedodd:Ti'n cytuno efo Fox am y BBC ta, yn lle malu cachu am y chwith ETO?


I fod yn onest wnes i ddim trafferth clicio'r linc gan gen i bethau gwell i'w wneud na chwilio am ddyfyniadau dros bobl eraill a trio dyfalu beth yw eu dadl.

Dwi ddim yn gwylio fox news. Ar raddfa o 1 i 10 (10 =pwysig iawn, 1 = ddim y bwysig o gwbl) mae testun yr edefyn yma'n cael... 1 gen i.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dr Gwion Larsen » Mer 04 Chw 2004 7:51 pm

Be tin ddisgwyl gan Yank syn gweithio i Australian adain dde?
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan eusebio » Mer 04 Chw 2004 8:34 pm

RET79 a ddywedodd:a mae'r sylwadau yma'n dod gan y bobl 'well-rounded' hynny sydd ddim yn meiddio darllen tu allan i'r guardian neu'r morning star


Yn bersonol fyddai'n darllen y Daily Post,Western Mail, Independent, Guardian a'r Telegraph bob dydd.

So Yah Boo Sucks :P
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Mer 04 Chw 2004 8:40 pm

RET79 a ddywedodd:I fod yn onest wnes i ddim trafferth clicio'r linc gan gen i bethau gwell i'w wneud na chwilio am ddyfyniadau dros bobl eraill a trio dyfalu beth yw eu dadl.

Dwi ddim yn gwylio fox news. Ar raddfa o 1 i 10 (10 =pwysig iawn, 1 = ddim y bwysig o gwbl) mae testun yr edefyn yma'n cael... 1 gen i.


Mae gen ti ddawn uffernol o fychanu pawb a phopeth, RET.
Os ti heb glicio'r linc sut alli di gyfranu i'r sgwrs? Ti'n beirniadu'r 'lefties' yn ein mysg am beidio darllen y pethau ti'n grybwyll ond eto'n teimlo'n ddigon hapus i frwydro ymlaen â'th agenda heb hyd yn oed fynd i draferth i wrando ar yr hyn yr ydyyn drafod yn y lle cyntaf :ofn:

Mae gen i lot fawr o barch tuag at Boris a Newt - er nad ydw i'n cytuno 100% efo popeth maent yn ei ddweud, mae nhw'n barod i wrando ac o leiaf yn deall fy safbwynt.

Os ydi'r sgwrs yma mor ddibwys, pam uffar nes di drafferth ymateb?

:drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 40 gwestai

cron