Fox News yn son am adroddiad Hutton...

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Boris » Iau 05 Chw 2004 11:30 am

eusebio a ddywedodd:
(1) Doedd Gilligan ddim yn Iraq, felly mae adrodd ei fod wedi dweud geiriau tebyg i Comical Ali yn gelwydd noeth.


Oeddwn i dan yr argraff ei fod wedi bod yn Irac :rolio: .

eusebio a ddywedodd:(2) Doedd y BBC ddim yn pro-Iraqi ac Anti-American - mewn arolwg cafwyd mae'r BBC oedd y gwasanaeth darlledu Prydeinig oedd yn cefnogi'r llywodraeth fwyaf.


Mater o farn?

eusebio a ddywedodd:(3) Yr unig 'gelwydd' yn adroddiad Gilligan oedd fod y llywodraeth wedi rhoi'r honiad am 45 munud i fewn yn yr adroddiad gan wybod ei fod yn anghywir * - mae dweud fod y BBC yn gelwyddgwn ar sail hyn yn hollol anghywir.


Ond roedd hyn yn honiad eithaf allweddol. Efallai fod Gilligan yn iawn yn ôl yr Independent ddoe, ond yn ôl ei gyfaddefiad ei hun doedd o dim yn gywir i ddatgan fod ei 'source' sef David Kelly, wedi dweud fod y llywodraeth yn gyfrifol am y pwynt re. 45 munud.

Gyda llaw, sda fi ddim problem mawr efo'r BBC - dwi jyst yn gwrando arnyn nhw efo pinsiad o halen. A ti dal heb egluro sut ti'n gallu cael yr amser i ddarllen cymaint o bapurau newydd pob dydd - tell me the secret!
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Iau 05 Chw 2004 11:52 am

Boris a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
(1) Doedd Gilligan ddim yn Iraq, felly mae adrodd ei fod wedi dweud geiriau tebyg i Comical Ali yn gelwydd noeth.


Oeddwn i dan yr argraff ei fod wedi bod yn Irac :rolio: .


Ond dim pam waneth yr adroddiad ar Today ...

Boris a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:(2) Doedd y BBC ddim yn pro-Iraqi ac Anti-American - mewn arolwg cafwyd mae'r BBC oedd y gwasanaeth darlledu Prydeinig oedd yn cefnogi'r llywodraeth fwyaf.


Mater o farn?




Be 'frothing at the mouth anti-Americanism' es dywed y boi yn y clip?
:rolio:

Boris a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:(3) Yr unig 'gelwydd' yn adroddiad Gilligan oedd fod y llywodraeth wedi rhoi'r honiad am 45 munud i fewn yn yr adroddiad gan wybod ei fod yn anghywir * - mae dweud fod y BBC yn gelwyddgwn ar sail hyn yn hollol anghywir.


Ond roedd hyn yn honiad eithaf allweddol. Efallai fod Gilligan yn iawn yn ôl yr Independent ddoe, ond yn ôl ei gyfaddefiad ei hun doedd o dim yn gywir i ddatgan fod ei 'source' sef David Kelly, wedi dweud fod y llywodraeth yn gyfrifol am y pwynt re. 45 munud.

Gyda llaw, sda fi ddim problem mawr efo'r BBC - dwi jyst yn gwrando arnyn nhw efo pinsiad o halen. A ti dal heb egluro sut ti'n gallu cael yr amser i ddarllen cymaint o bapurau newydd pob dydd - tell me the secret!


AG [gan ddyfynnu ei ffynnonell]: "The classic example was the statement that weapons of mass destruction were ready for use within 45 minutes. That information was not included in the original draft. It was included in the dossier against our wishes because it wasn't reliable. Most things in the dossier were double source, but that was single source, and we believed that the source was wrong."

cymharwch hwn ag adroddiad Susan Watts ar Newsnight - adroddiad sydd heb gael ei feirniadu o gwbwl gan y llywodraeth.

SW: "The problem is that the 45 minutes point was not corroborated."
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Boris » Iau 05 Chw 2004 12:19 pm

eusebio a ddywedodd:
Ond dim pam waneth yr adroddiad ar Today ...


Ac ddaru dyn Fox News ddim honni hynny.....

[/quote]

Be 'frothing at the mouth anti-Americanism' es dywed y boi yn y clip?
:rolio: [/quote]

Swnio fel barn i mi :winc:

Mae gweddill dy gyfraniad yn ail bobi adroddiad Hutton. Anodd yw cytuno efo casgliad Hutton am y llywodraeth ond o ran y cwestiwn syml 'a oedd adroddiad Gilligan yn gywir' - wel fe ddwedodd AG ei hun nad oedd yr honiad yn wir.

Na, chafwyd dim condemniad o stori SW i Newsnight - ond ddaru hi hefyd wrthod cefnogi fersiwn AG gan fod hi'n credu fod ei stori yn gamarweiniol ac yn anghywir.

A DWI DAL AM WYBOD DY GYFRINACH RE DARLLEN PUMP PAPUR DYDDIOL!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Iau 05 Chw 2004 12:22 pm

Boris a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
Ond dim pam waneth yr adroddiad ar Today ...


Ac ddaru dyn Fox News ddim honni hynny.....



Felly ti'n coelio bod Gilligan wedi bod ar yr awyr o Bagdhad y clodi byddinoedd arwrol Iraq yn erbyn byddin 'incompetent' America?

:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan RET79 » Iau 05 Chw 2004 12:29 pm

Dwi ddim yn gwylio Fox News. Dwi ddim wedi amddiffyn Fox News (gaf i ymddiheuriad gan y sawl wnaeth fy ngyhuddo o hyn plis?). Yr oll dwi wedi ei wneud yw trio dangos rhagrith y rhain sy'n trio chwythu'r stori ddibwys hon mewn i ryw scandal fawr, trwy bwyntio allan fod eu ffynhonellau nhw o newyddion yn eitha biased.

Mae steil dadlau rhai pobl mor hynod o sal ar y maes. Mae rhai yn meddwl mai y mwyaf mae nhw'n sgwennu y gorau yw eu dadl, wel ddim felly, mae eu dadl yn mynd yn fwy diflas a hirwyntog ond ddim tamaid gwell.

Cryno ac i'r pwynt ac falle wnaf drafferth darllen eich 'dadleuon'. Os chi am bostio linc, iawn, ond i fi gymryd sylw wnewch chi plis bastio'r dyfyniad (cryno) pwysig ar y neges, neu fe gaiff ei anwybyddu.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Chwadan » Iau 05 Chw 2004 12:31 pm

RET79 a ddywedodd:Yr oll dwi wedi ei wneud yw trio dangos rhagrith y rhain sy'n trio chwythu'r stori ddibwys hon mewn i ryw scandal fawr, trwy bwyntio allan fod eu ffynhonellau nhw o newyddion yn eitha biased hefyd.

Ond ma na wahaniaeth rhwng jingoism pur a rhoi slant asgell chwith/dde ar stori swn i ddeud.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan eusebio » Iau 05 Chw 2004 12:51 pm

RET79 a ddywedodd:Dwi ddim yn gwylio Fox News. Dwi ddim wedi amddiffyn Fox News (gaf i ymddiheuriad gan y sawl wnaeth fy ngyhuddo o hyn plis?). Yr oll dwi wedi ei wneud yw trio dangos rhagrith y rhain sy'n trio chwythu'r stori ddibwys hon mewn i ryw scandal fawr, trwy bwyntio allan fod eu ffynhonellau nhw o newyddion yn eitha biased.


Roeddwn i'n credu dy fod wedi amddiffyn gorsafoedd newyddion America yn y gorffenol - does gen i ddim mynadd mynd i chwilio trwy'r holl archif felly fe ymddiheuraf os wyt ti'n dweud nad yw hyn yn wir.

Allai ddim am eiliad dderbyn bod yr adroddiad yn un dibwys, yn enwedig os yw Americanwyr twp sydd yn cael eu newyddion gan y fath sianel, yn derbyn e adroddiad fel un cywir a chytbwys.

... neu wt ti'n ceisio dweud ei fod yn gytbwys (ti wedi ei wylio?)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Boris » Iau 05 Chw 2004 1:11 pm

eusebio a ddywedodd:
Felly ti'n coelio bod Gilligan wedi bod ar yr awyr o Bagdhad y clodi byddinoedd arwrol Iraq yn erbyn byddin 'incompetent' America?

:rolio:


Na, ond fe fuodd ar yr awyr o Irac ac fe fuodd yn darogan problemau sylweddol i fyddin America.

Felly nol at y pwynt - oedd na sail i Opinion Piece Fox? Oedd yn fy meddwl i.

A dwi'n sylwi fod dy ddadl re. SW o Newsnight wedi syrthio.

Un pwynt pwysig arall, mae Fox News yn wasanaeth masnachol sy'n falch o hawlio eu bod yn cyflwyno neges 'boblogaidd' i'r gwylwyr. Mae'r BBC yn gorff sy'n hawlio treth o £114 y flwyddyn gan bob perchennog teledu ym Mhrydain felly fe fyddwn yn disgwyl gwell ganddynt. Anheg falle, ond dwi'n dewis PEIDIO tanysgrifio i Sky a Fox News ond does gen i ddim dewis ond talu am y BBC felly mae gen i hawl i disgwyl safonau uwch (megis cywirdeb ffeithiol).
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Iau 05 Chw 2004 1:13 pm

eusebio a ddywedodd:Allai ddim am eiliad dderbyn bod yr adroddiad yn un dibwys, yn enwedig os yw Americanwyr twp sydd yn cael eu newyddion gan y fath sianel, yn derbyn e adroddiad fel un cywir a chytbwys.


Rhagfarnllyd braidd?

Go brin fod ti'n credu pob dim sydd ar y BBC neu yn dy BUMP papur dyddiol - ti'n ffurfio barn. Ai awgrymu wyt ti nad yw Americanwyr yn gallu ffurfio barn?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Iau 05 Chw 2004 1:22 pm

Boris a ddywedodd:Go brin fod ti'n credu pob dim sydd ar y BBC neu yn dy BUMP papur dyddiol - ti'n ffurfio barn. Ai awgrymu wyt ti nad yw Americanwyr yn gallu ffurfio barn?


Mae gan Fox mwy o wylwyr na CNN ac MSNBC - y ddau brif orsaf newyddion arall.
Mae Fox wedi mynd o fod yn jôc i drechu'r ddwy orsaf arall yn sylweddol yn y ratings.
Mae CNN yn cael eu cyhuddo'n ddi-baid o fod yn rhy liberal - sydd yn chwrthinllyd i rhywun adain chwith sydd yn gwylio'r sianel! - ac yn ystod y rhyfel roeddent ofn trwy eu tinau o gael eu cyhuddo o fod yn anti-Americanaidd gan Fox.
O'r herwydd mae gorsafoedd newyddion yn cerdded ar hyd linell denau iawn rhwng cefnogi America a jingo-istiaeth.
Mae tri chwarter o'r hyn sydd yn ymddangos ar orsaf Fox yn stwff fel yr uchod - opinion pieces a rhagleni phone-in lle mae'r rhan fwyaf o'r cyfranwyr yn gwneud i Genghis Khan ymddangos fel commie-leftie-pinko :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron