eusebio a ddywedodd:Tydw i ddim yn deall y farn nad yw ots beth mae FOX yn ddweud gan bod eu gwasanaeth yn un mae'n rhaid ei dalu amdano - newyddiadurieth yw newyddiaduriaeth.
Na, dwi ddim yn cytuno. Dwyt ti ddim yn condemio y Sun achos fod canran uchel o straeon y papur hwnnw yn cael ei greu 'on the hoof'. Ti'n gorfod ystyried be ydi cefndir y gwasanaeth ti'n wrando arno. Efo Fox News, ti'n prynu un olwg ar y byd o safbwynt America. Mae hynny yn hollol amlwg OND gyda'r BBC ti'n talu am wasanaeth cyhoeddus di-duedd - felly mae disgwyliadau yn uwch.
Mae ymchwil yn dangos nad yw pobl yn credu y Sun - ond mae nhw yn credu y BBC, felly mae yna ddyletswydd ar y BBC i fod yn gywir. A dwi'n dod not at y pwynt gwreiddiol - ar sail 'Opinion Piece' o Fox News fe ddatganwyd fod Americans yn thick - bron gymaint o or ddweud a chyfranwr yr opinion piece
eusebio a ddywedodd:Wyt ti wir yn credu yr hyn mae'r boi yma yn ei ddweud am BBC a Gilligan ...?
70% o'r cyfraniad - nac ydw. Fod Gilligan wedi camarwain yn ei adroddiad - yndw. Dwi hefyd ddim yn gweld y BBC fel corff di-duedd. Fel aelod o Business for Sterling dwi wedi profi rhagfarnnau y BBC ynghylch y ddadl Ewropeaidd a debyg dy fod hefyd yn cofio noson Etholiadau lleol Lloegr 2003. 'Disaster for IDS' oedd y stori trwy'r noson hyd yn oed wrth i gyngor ar ôl cyngor syrthio i ddwylo'r blaid a swing o 8% gael ei gofnodi. Fe ymddiheurodd y BBC yn gyhoeddus am 'serious flaws' a chyfaddef fod y rhaglen wedi dewis lein ymlaen llaw. Yn anffodus wrth i'r dystiolaeth ddangos fod y lein yn anghywir ddaru nhw ddim cywiro ei hunain. Pam?
Yn yr un modd mae Greg Dyke bellach yn arwr i lawer, ond yw cyfaddefiad ganddo na fu iddo ymchwilio i sail stori Gilligan nac hyd yn oed gwrando ar y stori tra'n amdiffyn cywirdeb yr adoddiad yn adlewyrchiad o gorff sy'n rhoi cywirdeb ffeithiol ar dop ei agenda?
Nol at yr Opinion Piece - prif bwynt oedd 'the BBC lied'. Fair comment.
Ail bwynt - 'BBC are smug and superior' - mae'r dystiolaeth uchod yn enghreifftiau o hyn.
Ac i orffen gai ddweud eto nad wyf am weld y BBC yn cael ei ddarnio gan New Labour - ond y ffordd o scirhau dyfodol y gorfforaeth yw safonau newyddiadurol uchel - yn rhy aml dros y blynyddoedd diwethaf da ni ddim wedi cael hyn.