Tudalen 9 o 11

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 3:23 pm
gan Boris
Macsen a ddywedodd:Ti wedi camddeall, Boris. Ma 70% o bobl ym Mhrydain yn credu bod y BBC yn dweud y gwir, ond yn America FOX yn prif ffynhonell newyddion mwyafrif o'r bobl.


Dwi'n hynod amheus fod Fox News yn brif ffynhonell newyddion mwyafrif pobl UDA. Mae natur gwasgaredig y wlad + y nofer hurt o sianeli teledu yn awgrymu i mi na fyddai dylanwad Fox mor amlwg a dylanwad y BBC.

Serch hynny, amheuaeth yw'r uchod. Dwi'n credu i ti ddweud dy fod yn astudio 'media' felly falle y gallet daflu ychydig ffeithiau ataf i brofi dy ddadl.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 3:28 pm
gan Macsen
Boris a ddywedodd:Dwi'n hynod amheus fod Fox News yn brif ffynhonell newyddion mwyafrif pobl UDA.


Gwna search bach ar y we. Dyma'r peth cyntaf ddaeth i fyny ar goggle i fi: Click!

The number one rated cable news channel. Mewn geiriau eraill, yr un gyda'r ratings ucha.

Rho eiliad i fi a mi wnai fynd i chwilota am ffeithiau mwy cadarn.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 3:34 pm
gan Sioni Size
Mae 70% o bobl yn trystio'r BBC i drio dweud y gwir. Mae nhw'n aml yn dweud celwydd yn anfwriadol neu'n llwyddo i adrodd chwarter y stori, fel y ffwl naif John Simpson, ond mae pobl yn eu trystio.

Lle mae'r canol? A ydi Boris dan yr argraff fod y BBC yn rhy 'wrth-brydeinig', neu gwrth-sefydliadol? Os hynny mae'n gwbl anghywir. Y man canol, y 'balans', sef y lleoliad mae'r bbc yn glynu wrtho'n gadarn, yw bod yn pro-brit.

Be oedd y ffigwr hefo'r llywodraeth? 10% yn trystio'r llywodraeth i ddweud y gwir?

Boris. Boris Boris Boris. Oherwydd fod Hutton yn dweud rwyt yn rhoi'r farn fod Gilligan wedi dweud celwydd fel ffaith, tra fod pawb arall yn gwybod fod Gilligan yn berffaith gywir yn ei honiad. Bolocs oedd yr honiad 45 munud, bolocs oedd y WMD a bolocs oedd y rhyfel.

Pwdl y sefydliad oedd Hutton, fel wyt ti wedi dweud dy hun.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 3:35 pm
gan Boris
Macsen a ddywedodd:The number one rated cable news channel.


Ond nhw sy'n dweud hyn.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 3:38 pm
gan Macsen
Os wyt ti am arnofio mewn mor a ratings, tria hwn.

Mi wna'i bopio rownd yr llyfyrgell yn ddiweddarach i nol y ratings list. Tydi'r we ddim yn ddibynol iawn ar ratings cadarn. Beth bynnag, mae'n amlwg bod FOX naillai yn gyntaf neu ail, gyda dim llawer rhwng y Tri Mawr.

Sioni Size a ddywedodd:Mae nhw'n aml yn dweud celwydd yn anfwriadol neu'n llwyddo i adrodd chwarter y stori, fel y ffwl naif John Simpson, ond mae pobl yn eu trystio.


Fyswn i ddim yn galw John Simpson yn 'fwl naif' mewn unrhyw ffordd. Bydd rhaid i ti bacio hyn fyny, Sioni. O be dwi'n gwybod am y boi, mae o'n gwybod eithaf tipyn am lot o'r byd. Iawn, mae'n cael mewn i drwbwl yn reit aml, ac yn rhu barod i roi ei fywyd o (ai'i ddyn camera) yn y 'danger zone', fel pytai. Ond fwl naif tydi o ddim.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 4:42 pm
gan Boris
Sioni Size a ddywedodd:Boris. Boris Boris Boris. Oherwydd fod Hutton yn dweud rwyt yn rhoi'r farn fod Gilligan wedi dweud celwydd fel ffaith, tra fod pawb arall yn gwybod fod Gilligan yn berffaith gywir yn ei honiad. Bolocs oedd yr honiad 45 munud, bolocs oedd y WMD a bolocs oedd y rhyfel.

Pwdl y sefydliad oedd Hutton, fel wyt ti wedi dweud dy hun.


Sioni bach, cariad, ti di cam ddeall eto. Dwi di dweud fwy nag unwaith fod adroddiad Hutton yn unochrog (darllen yr edefyn cyn cyfrannu yn syniad da sti) ond ar y pwynt am AG - fo dwedodd ei fod wedi camarwain, fo a neb arall. Efallai fod yr honiad 45 munud yn anghywir, efallai fod y WMD yn anghywir ond nid dyna ddywedodd AG. Dweud wnaeth AG fod y llywodraeth yn gwybod fod y rhybudd 45 munud yn anghywir gan fod 'senior intelligence source' wedi dweud hynny wrtho. Pan ddaeth hi'n fater o gadarnhau hyn fe gyfaddefodd nad oedd neb wedi honni hyn wrtho ac felly roedd ei adroddiad gwreiddiol yn gamarweiniol.

Be felly oedd Hutton i fod i ddweud? "AG states that he mis-quoted Dr Kelly and that his initial report was incorrect, but on the basis of a conversation with Sioni I have decided to over rule AG's own evidence and find that he was 100% accurate" Byd ffantasi Sioni, byd ffantasi.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 4:45 pm
gan Sioni Size
wps

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 4:45 pm
gan Sioni Size
Hels Bels. Wyt ti'n meddwl fod Gilligan yn cyfadde hynny oherwydd ei fod yn coelio ei fod wedi dweud celwydd? Roedd yn disgyn ar ei gledd er mwyn arbed trafferth iddo ef a'i gyflogwyr, oedd yn amlwg dan y lach er fod eu ffeithiau oll yn gywir. Mae'r byd yn mynd yn wallgof.

Felly mae slagio Gilligan am ddweud celwydd yn lon dwp i'w dilyn. Nid dweud celwydd wnaeth o - dweud celwydd am ddweud celwydd. Felly stopia ei gyhuddo.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 5:18 pm
gan Boris
Sioni Size a ddywedodd: Roedd yn disgyn ar ei gledd er mwyn arbed trafferth iddo ef a'i gyflogwyr, oedd yn amlwg dan y lach er fod eu ffeithiau oll yn gywir.


O dwi'n gweld, trwy beidio profi fod ei stori yn wir 'roedd AG druan yn arbed trafferth i'r BBC - dallt rwan

Sioni Size a ddywedodd:Mae'r byd yn mynd yn wallgof.


Mae dy fyd bach di yn ymddangos yn lle diddorol iawn :winc:

Sioni Size a ddywedodd:Nid dweud celwydd wnaeth o - dweud celwydd am ddweud celwydd. Felly stopia ei gyhuddo.


Hyd yn oed i dy safonau di Sioni mae hon yn glasur. Felly ti'n derbyn fod AG yn dweud celwydd ond gan mai dweud celwydd am ddweud celwydd mae o mae pob peth yn iawn?

Dwi di dallt yn iawn ta ti wedi cholli hi'n llwyr?

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 5:26 pm
gan Macsen
Mae rhaid derbyn, Sioni, bod bai wedi bod ar y BBC yn yr achos hwn. Roedd Gilligan ar fair, a mae hynny'n amlwg yn awr. Roedd y llywodraeth ar fai hefyd. Ond i fynd yn ol at y pwnc, does dim posib dadlau bod FOX news yn gwneud dim llai na camarwain ei torf yn y fan yma, er ei mwyn ei hunain ac er mwyn Mr. Murdoch.