Dyfyniad:
Ymhen 50 mlynedd bydd y nesaf peth i ddim olew ar ol ar y blaned, a dwr fydd y 'liquid gold'
Fel ti'n gweithio hyn mas? Gyda'r ffordd mae'r byd yn twymo fydd y pegynau yn toddi a lefel y mor yn codi. Bydd problem bach fod y dwr yma yn ddwr hallt. I gywiro'r problem yma a'i droi yn ddwr croyw yfadwy gwaith syml iawn fyddai ei ddistyllu e' gan greu cyflenwad o ddwr croyw a chyflenwad o halen.
Paid cymryd gormod o sylw o Water World!!
yn dilyn fy rhagdybiad y byddai rhyfeloedd yn cael eu ymladd am ddwr yn y dyfodol.
Rhaid nodi nad wedi gweithio'r peth mas fy hunan odw i, ond wedi bod yn darllen nifer o weithiau gan bobl yn y maes (yn cynnwys sylwadau gan Cymorth Cristnogol/Oxfam/Blue Planet Project ac eraill).
Mae'n ymddangos yn ol y gwybodusion yma nad yw pethau, fel arfer, mor stret fforward a'r ateb a gynnigir uchod.
Mae yna erthygl dda yn y guardian heddiw (gan Maude Barlow, sylfeinydd Blue Planet Project) yn trafod sut mae cwmniau mawr y byd yn rheoli dwr, ac sut fod prinder dwr naturiol ffresh eisioes yn bodoli.