Mawrth 22 ain yn Llundain

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mawrth 22 ain yn Llundain

Postiogan GlâsSW17 » Maw 18 Maw 2003 12:58 pm

Mi fydd 'na orymdaith arall yn cymryd lle, yn dechrau o orsaf Embankment ac yn mynd i Hyde Park - neu dyna beth 'dwi wedi clywed.
Rhithffurf defnyddiwr
GlâsSW17
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 21 Ion 2003 5:27 pm
Lleoliad: De Llundain (yn anffodus)

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 18 Maw 2003 8:06 pm

Forget it!

Dewch i Orymdaith ABER!

10:30 tu allan ir orsaf Heddlu ac at yr Hen goleg!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Maw 18 Maw 2003 8:57 pm

sdim pwynt protestio mwy, pan fydd y rhyfel yn dechre, wneiff neb bacio allan....
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 18 Maw 2003 9:02 pm

Roedd hi'n ofer protestio o'r dechrau un, Mistar 20C-O-O. Roedd y rhyfel yma'n anochel o'r dechrau, a hynny dim ond oherwydd penderfyniad y Iancs i'w wneud a Phrydain i ymddwyn fel cwn bach. Fel arfer.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Blair, Bush

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 18 Maw 2003 10:08 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Roedd hi'n ofer protestio o'r dechrau un, Mistar 20C-O-O. Roedd y rhyfel yma'n anochel o'r dechrau, a hynny dim ond oherwydd penderfyniad y Iancs i'w wneud a Phrydain i ymddwyn fel cwn bach. Fel arfer.


Yn anffodus, ti'n llygad dy le Hogyn. Er y gall people power dymchwel Gwladwriaeth, fel a ddigwyddodd yn nifer o wledydd Dwyrain Ewrop yn yr 80au hwyr - neiff hyn ddim digwydd yng Ngwladwriaeth Prydain. Ar ddiwedd y dydd, mae mentality "I'm allright Jack" yn perthyn i'r mwyafrif. Os oedd y fyddin yn lladd pobl diniwed ar y strydoedd a pobl yn llwgi i farwolaeth yn sgil cwymp economaidd dirfawr, yna, efallau, a dim ond efallai, y byddai uprising poplog. Ond fel mae hi nawr, mae'r Wladwriaeth Brydeinig ym mhell o fod yn Albania Dotaliteraidd neu'n Wlad Pwyl Gomiwnyddol. Mae'r dyn cyffredin ar y stryd yn anghytuno gyda'r rhyfel, ond dydi e ddim mynd i effeithio arno yn uniongyrchol. Serch hynnu, mi fydd y rhyfel anorfod hyn yn siwr o effeithio ar berfformiad y Blaid "Lafur" yn etholiadau'r Cynulliad. Dwi'n gweld nhw'n colli nifer o seddi i Blaid Cymru ac i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn sgil.

Sut all doctoriaid sbin Millbank droi hwn o gwmpas, dwi'm bod, ond dwi'n fawr obeithio fydd Blair mas. Os oes gymaint o wrthwynebiad i rhyfel gan Genedlaethau Cymru, Yr Alban a Lloegr yna fe ddylse y bobl ddefnyddio ei Pleidlais yn yr Etholiadau Seneddol nesaf i gael gwared o'r Blaid "Lafur". Modd llawer mwy effeithiol na cherdded i lawr strydoedd Llundain gyda rhyw hipis yn taro ffycin bongos... Efallai bod gobaith i'r Democratiad Rhyddfrydol enill grym neu efallai yn sgil Y Weithred Hyn o Frad bydd y Blaid "Lafur" yn holltu i fod yn "Lafur" Newydd a Phlaid Sosialaidd go-iawn?

Faint fydd cost ariannol y rhyfel anghyfiawn hyn i Wladwriaeth Prydain? Faint o bobl di-niwed, plant a gwragedd sydd mynd i farw yn y Dwyrain Canol? Efallai bod Saddam yn arweinydd rhyfelgar a gwallgof yn feddw ar rym a'i fod yn anghenrheidiol i gael ei wared - ond allwch chi ddweud yr un peth am Bush. A Blair.

Tro nesaf dy chi'n bwrw'ch pleidlais, meddyliwch yn ofalus am yr hyn nath Blair yn enw'r Blaid "Lafur". Gwarth arno ef ac ar weddill y gwleidyddion yn San Steffan sydd yn daeogion i Ymerodraeth barus a rhyfelgar yr Unol Dalaethau.

"Things can only get better ...?" Ffyc off Blair. Ti wedi bradychu dy bobl a holl egwyddorion dy Blaid. Ti 'di gwerthu dy enaid i'r dollar. Damia di. Gobeithio cei dy gondemio i'r cachdy uchaf yn uffern.

Mihangel Macintosh
18 Mawrth 2003

[/datganiad]
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan nicdafis » Maw 18 Maw 2003 11:38 pm

Wel, bydda i'n bwrw fy mhleidlais dros Plaid Mici Mac yn yr etholiad nesa. Gyda ein cewri-robotiaid fyddan ni'n dod â chyfiawnder a heddwch i boblach y byd.

20-canrif-o-opresiwn a ddywedodd:sdim pwynt protestio mwy, pan fydd y rhyfel yn dechre, wneiff neb bacio allan....


Mae eironi bach bod rhywun gyda enw defnyddiwr fel hwnna yn gallu dweud rhywbeth fel'na. Dw i'n enwebu 20-c am weinidog i Ddatblygu Rhyngwladol yn ein llywodraeth newydd. Gyda chysondeb fel hynny, ei di yn bell, gyfaill.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 19 Maw 2003 9:22 am

DEWCH I HWN!

Delwedd

Gyda llaw 20-canrif-o-opresiwn bolycs i pa gymdeithas?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron