Tudalen 1 o 1

GWEITHREDU DROS HEDDWCH > ABERYSTWYTH > SADWRN > 22

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2003 1:08 pm
gan Cardi Bach
Hon fydd y brotest Genedlaethol gyntaf yng Nghymru i wrthwynebu'r rhyfel anghyfiawn yn Irac -
Dewch yn llu!

Gweithredu Dros Heddwch, Sadwrn, 22 Mawrth, ABERYSTWYTH.

:saeth: 10.30am - Gorymdaith Fawr.
Ymgynnull ym Maes Parcio Park Avenue, Aberystwyth.

:saeth: 11.45 - llu o siaradwyr yn annerch y dyrfa yn yr hen Goleg.

:saeth: 1.00pm - cinio

:saeth: 2.00 - Fideo o ymweliad diweddar a Irac a thrafodaeth

:saeth: 3.00 - Gweithdai (gweithredu uniongyrchol ddi-drais, ffydd, lobio ac eraill)

:saeth: 4.00 Casgliad terfynnol


Yn yr hwyr

GIG
Texas Radio Band
Mojas
Mozz

Clwb Pel-Droed Aberystwyth 9yh, £4


DEWCH YN LLU I DDANGOS NAD YW'R RHYFEL GWLLGOF YMA YN CAEL EI YMLADD YN EICH ENW CHI!

Mae pob posibilrwydd y bydd rhyfel wedi cychwyn erbyn dydd sadwrn. Er y bydd yna orymdaith fawr yn Llundain hefyd, bydd cael tyrfa gref yn Aber hefyd yn dangos cryfder y gwrthwynebiad!

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2003 9:00 pm
gan Rhys Llwyd
3.00 - Gweithdai (gweithredu uniongyrchol ddi-drais, ffydd, lobio ac eraill)


Dwi ar ddeall mae'r Gymdeithas sydd wei eu gwahodd i gymryd y gweithdy 'gweithredu'. Pwy or Gymdeithas fydd yn arwain?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2003 12:00 pm
gan Cardi Bach
Sian Howys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fydd yn arwain y gweithdy Gweithredu Uniongyrchol.
Ond pwy a wyr, efallai y bydd yna weithdy 'practical' ar weithredu uniongyrchol...!

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2003 5:03 pm
gan Rhys Llwyd
rili?