Cymru Rydd = Cymru Niwtral

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru Rydd = Cymru Niwtral

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 19 Maw 2003 9:04 pm

Er fod San Steffan wedi pledleisio'n weddol sylweddol o Blaid y rhyfel neithiwr fe bledleisiodd 22 allan o 40 o aelodau Seneddol Cymru yn erbyn y Rhyfel!!!!!!!!!!!!

OS BYSE CYMRU YN RHYDD (neu o leiaf a mwy o rym lywodraethol) BYDD CYMRU'N MEDRU DATGAN NIWTRALIAETH FEL YR IWERDDON A GWARIO'R ARIAN AR YR ECONOMI FEL YR IWERDDON!!!!!!!!!!!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 20 Maw 2003 11:53 am

Gwir iawn. Ond am y dyfodol gweladwy, bydd y tymer yng Nghymru'n cael ei benderfynu gan llywodraeth Loegr.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Huw T » Sul 25 Mai 2003 3:50 pm

Fin gwbod bo fi dri mis yn hwyr, a hefyd bach yn hypocritical gan mod i wedi gwrthwynebu'r rhyfel (oherwydd fy ngwrthwynebiad i hegemony filwrol America).

Fodd bynnag - nad oedd Saddam Hussein yn euog o orthrymu'r Kurds (mewn dull llawer gwaeth na beth mae'r Saeson yn neud i Gymru).

Sut allwch chi gondemnio gorthrymu o Lundain, gan ofyn am Senedd ein hunain, ac yna peidio rhyfel sydd a chyfle i ddod a'r un peth i boblogaethau Iraq sy'n cael ei gorthrymu??

Dwy ddim yn ymosod ar eich safiad heddychol (spot the pun!), rwy'n ymosod ar hypocratiaeth mynnu niwtraliaeth gymreig.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Ramirez » Sul 25 Mai 2003 3:59 pm

Huw T a ddywedodd:Sut allwch chi gondemnio gorthrymu o Lundain, gan ofyn am Senedd ein hunain, ac yna peidio rhyfel sydd a chyfle i ddod a'r un peth i boblogaethau Iraq sy'n cael ei gorthrymu??


achos fod y gormes o Lundain yn disgyn yn uniongyrchol arnom ni, ni fel y 'dioddefwyr' sy'n gwrthryfela.
Be ffwc sgen Iraq i'w neud efo'r US na'r UK go iawn? Dim byd mond olew, dylia nw bytio allan a gadal pobl i ymladd eu brwydrau eu hunain, a dim trio cyfleu rhyw ddarlun hyfryd ohonynt fel gwarchodwyr yr holl fyd.

Dumb fuckers.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Gruff Goch » Sul 25 Mai 2003 4:24 pm

Huw T a ddywedodd:Sut allwch chi gondemnio gorthrymu o Lundain, gan ofyn am Senedd ein hunain, ac yna peidio rhyfel sydd a chyfle i ddod a'r un peth i boblogaethau Iraq sy'n cael ei gorthrymu??


Dwi'n synnu fod ti'n methu gweld rhywbeth mor amlwg Huw. Does dim 'hypocratiaeth' yn perthyn i gondemnio rhyfel fel dull o waredu pobl o orthrwm, tra bod, ar y llaw arall, yn galw am i orthrwm yn Irac ac mewn gwledydd eraill i ddod i ben.

Nid y weithred o 'ryddhau' pobl o orthrwm yw'r hyn sy'n cael ei farnu, ond y modd y mae'r UDA a Prydain yn mynd ati i 'ryddhau' y bobl hyn- drwy fynd gyda bomiau, bwledi ac arfau ymbelydrol i blith pobl gyffredin.

Petai ti wedi bod efo dy ben yn y tywod am y 15 mlynedd diwethaf, gelli di efalli fod wedi dadlau mai grym milwrol yw'r unig ffordd o dod a gorthrwm i ben, ond, gan gymryd nad wyt ti'n estrys, ga i dy atgoffa di am gwymp wal Berlin, y chwyldro felfed yn y weriniaeth Siec a cwym Caucescu yn Rwmania.

Ond wrth gwrs, efallai dy fod ti fel comiwnydd wedi bod yn ceisio anghofio am hynny... ;)
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Huw T » Sul 25 Mai 2003 5:34 pm

Ond wrth gwrs, efallai dy fod ti fel comiwnydd wedi bod yn ceisio anghofio am hynny...
- Hehe, dyddiau da :winc:

Petai ti wedi bod efo dy ben yn y tywod am y 15 mlynedd diwethaf, gelli di efalli fod wedi dadlau mai grym milwrol yw'r unig ffordd o dod a gorthrwm i ben


Gallai ddadlau hynny ta beth - fe fethodd y gwrthryfel yn Basra wedi'r Gulf War 1 am i luoedd milwrol y cyngrheiriaid beidio a'u cefnogi. Fe ddisodlwyd Milosevic fel canlyniad uniongyrchol i fomio NATO. Hefyd ma achos Afghanistan. Felly dyw'r ddadl yn erbyn gweithredu milwrol ddim yn union yn dal dwr. Y broblem fawr yw pwy sy'n dal y grym milwrol.


Fi ddim yn siwr Gruff a ydwi'n bod yn ddall drwy son am hipocratiaeth. Fin deall y pwynt tin neud. Ond, doedd dim gobaith gyda'r Kurds/ Shiahs fod yn rhydd na chael unrhyw fath o lais llywodraethol dan Saddam. A ma'r 9 mlynedd o sancsiynnau yn profi mai rhyfel oedd yr unig ffordd o'i ddisodlu e. Felly fi yn teimlo fod na 'double standards' o fynnu rhyddid i'n hunen, ond gwrthwynebu'r rhyfel, gan felly atal pobl erill rhag cael rhyddid (neu oleia y cyfle o ryddid).
Fin dweud eto, sai da problem gyda gwrthwynebu'r rhyfel, fe wnes i e'n hunan. Ond allwch chi ddim troi'r rhyfel mewn i ddadl am Gymru rydd/autonmous.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Huw T » Sul 25 Mai 2003 5:52 pm

Ffyc. Does na ddim teimlad gaeth na dechre meddwl falle eich bod chin wrong :? Wedi darllen erthygl a bostiwyd gan Chris yn y fforwm hyn, falle bydde hi wedi bod yn beth da petai Cymru wedi cyhoeddi niwtraliaeth. Fuck, I dunno. Yr unig beth byddwn i'n ychwanegu fydde - i gofio sut bydde'r milwyr o Gymru'n teimlo, petai gwleidyddion Cymru yn gwrthod eu cefnogi?
Hefyd meddyliwch petai'r bleidliais yn y Senedd wedi bod yn agosach, mor agos fel y byddai presenoldeb pleidleisiau Cymru wedi golygu dim rhyfel, a dim presenoldeb y Cymry wedi rhoi'r fuddugoliaeth i Blair - byddwn i'n teimlon itha stupid wedi golygu fod annibyniaeth Cymru yn golygu fod Prydain gyfan yn cefnogi UDA.

Damio Bush a'i hanner mennydd, damio Blair a'i dueddiadau coc-sugno.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 25 Mai 2003 11:14 pm

hehe

Wel, dwin gobeithio bydd Gwladwriaeth Gwrdaidd yn cael ei sefydlu o ganlyniad i'r rhyfel.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan ceribethlem » Llun 26 Mai 2003 12:06 am

Felly fi yn teimlo fod na 'double standards' o fynnu rhyddid i'n hunen, ond gwrthwynebu'r rhyfel, gan felly atal pobl erill rhag cael rhyddid (neu oleia y cyfle o ryddid).


Ni elli dadlau'r pwynt yma yn iawn, yn syml oherwydd nid yw Cymru/y Cymry yn defnyddio dull treisgar/rhyfelgar o fynny rhyddid.
Fe fyddai 'double standards' pe bau'r Cymry wedi bod yn ymladd (gyda chymorth wrth yr UDA) yn erbyn gormes y Saes. Dyw hyn hwb digwydd.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan RET79 » Llun 02 Meh 2003 10:32 pm

Niwtraliaeth = eistedd ar y ffens = cachwrs
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai