Cymru Rydd = Cymru Niwtral

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Huw T » Llun 02 Meh 2003 11:41 pm

Lle fyddet ti'n dewis byw, Iraq o dan Saddam neu yr UDA?


Mi fyddai wirioneddol wir-yr raid i mi feddwl yn ddwys cyn ateb y cwestiwn yna.

Os oes unrhyw un dal mas yna sydd dal yn credu fod yr U$A yn 'force for good'. Dyle nhw ddarllen 'Rouge State' gan William Blum. Scary tu hwnt

Mae na extracts i'w gael fan hyn - http://members.aol.com/superogue/homepage.htm
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 03 Meh 2003 9:35 am

Ar dy ran di Huw T, er na fyddet ti'n cael mynegi dy farn yn Irac, fel rhywun sydd mor eithafol i'r chwith dwi'n amau'n gryf y byddet ti'n cael yr hawl i fynegi hynny yn yr UDA!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cardi Bach » Maw 03 Meh 2003 11:13 am

RET, ble fyddet ti'n byw?
Irac pre-1990 - un o wledydd cyfoethocaf y byd, infant-mortality isel, 90% literate, digon o fwyd, digon o feddyginiaeth

neu Irac post-1990 - un o wledydd tlotaf y byd, infant mortality o hyd at 60%, llai na 50%literate, afiechydon di-ri (colera yn eu plith), bomiau UN yn disgyn o amgylch (yn enwedig yn ne Irac), ysbytai heb adnoddau a life-expectancy isel?

Do, mi wnath Saddam wneud pethau erill i rai o'i bobl pre-1990, ac fe laddodd nifer, ond dim canrhan uwch na'r rhai sy'n cael eu lladd yn America naill ai oherwydd 'death row' (y rhan fwyaf ohonynt yn dod o gefndiroedd difreintiedig tu hwnt, neu a nam meddyliol neu o gefndir ethnig gwahanol i Ewropead gwyn), neu o ganlyniad i bolisiau gwallgof gynnau'r Amerig, neu'r polisiau sy'n golygu fod 40% yno yn gorfod byw mewn tlodi cymharol. Y gwahaniaeth yw fod 'ffars democrisi' yr USA yn gwneud i'r dioddefaint yno ymddangos yn gyfreithlon, tra fod techneg Saddam o rhoi bwled ym mhen pobl tipyn fwy blatant - byswn i'n dadlau mai'r un yw'r drosedd yn erbyn dynoliaeth yn y ddwy wlad.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 04 Meh 2003 9:57 pm

cael eu lladd yn America naill ai oherwydd 'death row' (y rhan fwyaf ohonynt yn dod o gefndiroedd difreintiedig tu hwnt, neu a nam meddyliol neu o gefndir ethnig gwahanol i Ewropead gwyn),


Sail feiblaidd hen destament sydd i hyn, yebyg i gyfiawnhad Bush am y rhyfel. Sai'n cytuno gyda.

Ti di cyffwrdd a rhywbeth fan hyn. Rhwbeth sy'n agos at fy nghalon i fel cristion. Y broblem i yw bod Cristnogaeth adain dde America (southern Baptists a Bush ei hun) i weld fel bod nwn seli ei gwerthoedd moesol/gwleidyddol ar yr eglwys yn yr hen destament yn hytrach nar eglwys oleuedig yn y testament newydd mar symudiad cenedlaethol/cristnogol Cymreig yn ei ddilyn.

Ma cyfeillion i mi yn fy eglwys, sy'n bobl hyfryd gyda llaw, OND mae eu cred wleidyddol nw yn unol a christnogion America. Bum yn gosod y peth mewn i'r cydestun - efallai yn wir fod Bush yn Gristion OND fel cyd Gristion a ddyliwn ei gefnogi? Dylet oedd ymateb fy nghyfoedion.

Dwi'n amlwg yn anghytuno a hwynt am ddau reswm. Dydy bod yn gristion ddim yn neud chi'n berson Moesol a chyfiawn, ma Bush wedi dangos hynny!

Pwy fydde well da chi fod yn rheoli gwlad fwy pwerus y byd Bush (cristion) Gahndi (ddim yn Gristion).
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Huw T » Mer 04 Meh 2003 10:25 pm

Pam ddim dileu'r hen destament fellly?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 04 Meh 2003 10:38 pm

Pam ddim dileu'r hen destament fellly?


Fel hanesydd ma hwna yn statment itha gwamal Huw.

Pam ddim dileu Hanes?

Rhaid astudio y gorffenol i ddeall y presenol a llunio y dyfodol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Huw T » Mer 04 Meh 2003 10:49 pm

I ddileu e o'r beibl o ni'n feddwl. Os yw'r eglwys "oleuedig" yn dilyn y testament newydd, beth yw'r pwynt cael yr hen destament?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 04 Meh 2003 11:06 pm

Oherwydd fod hanner y ffydd Cristnogol yn yr hen Destament.

Yr unig beth sydd yn y testament newydd yw'r efengyl a hanes cristnogion cynnar ac yna datguddiad.

Yn yr hen destament ceir y proffwydi, y salmau, hanesion y llwythi iddewig, hanesion am aberthu (sef arwydd or aberth eithaf sef y croesholiad yn y tes newydd), heb son am Genesis sy'n gosod y cyfan allan.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Huw T » Iau 05 Meh 2003 11:48 am

Beth bynnag yw dy ffydd di, mae'r testament newydd yn rhoi esiampl o'r ffordd y dylai pawb ar y ddaear geisio byw, mae hynny'n ddigwestiwn.

Mae'r hen destament, ar y llaw arall, braidd yn fwy dodgy. Er enghraifft, mae'r hen destament yn caniatau lladd menywod a phlant mewn rhyfel (dinistrio muriau Jericho). Yn wir mae hyd yn oed yn dweud i Dduw helpu'r Iddewon i ymladd ei rhyfeloedd.

Ymysg y pethau eraill mae'r hen destament yn ei ddweud yw - ei bod hi'n iawn gwerthu dy ferch mewn i gaethweisiaeth. Ei bod hi'n iawn cadw caethweision o wlad arall. Y dylai rhywun sy'n gweithio ar y Saboth gael ei ladd. Os yw rhywun yn rhegi, dylai'r pentref daflu cerrig arno. A bod bwyta shellfish yn abomination.

Nid dyma yw Cristnogaeth. Nid fy Nghristnogaeth i ta beth, felly pam ei gydnabod fel rhan o'r Beibl?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Cardi Bach » Iau 05 Meh 2003 11:56 am

Achos y byddai 'Cymru Rydd yn Gymru Niwtral' :!: :winc: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai