Huw T a ddywedodd:Sut allwch chi gondemnio gorthrymu o Lundain, gan ofyn am Senedd ein hunain, ac yna peidio rhyfel sydd a chyfle i ddod a'r un peth i boblogaethau Iraq sy'n cael ei gorthrymu??
Dwi'n synnu fod ti'n methu gweld rhywbeth mor amlwg Huw. Does dim 'hypocratiaeth' yn perthyn i gondemnio
rhyfel fel dull o waredu pobl o orthrwm, tra bod, ar y llaw arall, yn galw am i orthrwm yn Irac ac mewn gwledydd eraill i ddod i ben.
Nid y weithred o 'ryddhau' pobl o orthrwm yw'r hyn sy'n cael ei farnu, ond y modd y mae'r UDA a Prydain yn mynd ati i 'ryddhau' y bobl hyn- drwy fynd gyda bomiau, bwledi ac arfau ymbelydrol i blith pobl gyffredin.
Petai ti wedi bod efo dy ben yn y tywod am y 15 mlynedd diwethaf, gelli di efalli fod wedi dadlau mai grym milwrol yw'r unig ffordd o dod a gorthrwm i ben, ond, gan gymryd nad wyt ti'n estrys, ga i dy atgoffa di am gwymp wal Berlin, y chwyldro felfed yn y weriniaeth Siec a cwym Caucescu yn Rwmania.
Ond wrth gwrs, efallai dy fod ti fel comiwnydd wedi bod yn ceisio anghofio am hynny...