Cymru Rydd = Cymru Niwtral

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 05 Meh 2003 12:21 pm

Mae'r hen destament, ar y llaw arall, braidd yn fwy dodgy. Er enghraifft, mae'r hen destament yn caniatau lladd menywod a phlant mewn rhyfel (dinistrio muriau Jericho). Yn wir mae hyd yn oed yn dweud i Dduw helpu'r Iddewon i ymladd ei rhyfeloedd.

Ymysg y pethau eraill mae'r hen destament yn ei ddweud yw - ei bod hi'n iawn gwerthu dy ferch mewn i gaethweisiaeth. Ei bod hi'n iawn cadw caethweision o wlad arall. Y dylai rhywun sy'n gweithio ar y Saboth gael ei ladd. Os yw rhywun yn rhegi, dylai'r pentref daflu cerrig arno. A bod bwyta shellfish yn abomination.


Yn union, nar gwahaniaeth rhwng yr eglwys oleuedig ar eglwys yn yr hen destament.

Nath yr Iddewon (Moses,Noha,Abraham etc...) sy a son amdanynt yn yr hen destament droi at Gristnogaeth wedir croeshoeliad a byw yn y modd 'goleuedig'. Maer Iddewon sy a son amdanynt heddiw oedd yr Iddewon nath gadw at eu hen ffyrdd heb addasu a derbyn Iesu fel eu gwaredwr.

Y pwynt yw mae 'deddfau iddewig' yw y rhai fwndamental sydd yn cael ei rhestri yn yr hen destament. Os na fasa nw yna bydde y rhai goleuedig yn yr test newydd ddim yn oleuedig.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Chwadan » Iau 05 Meh 2003 1:05 pm

Ma angen yr Hen Destament fel sail hanesyddol i'r Testament Newydd dwi'n meddwl. O be dwi di weld ma'r HD yn dipyn mwy amwys na'r TN gan ei fod o'n gwrth-ddeud ei hun ac weithiau hyd yn oed yn rhagrithiol, sy'n golygu fod na le i chi ddadansoddi ei ystyr o. Dwi'm yn gweld hyn fel peth drwg - tasa chi'n ei ddarllen o fel cyflwyniad i'r TN, erbyn i chi gyrradd y TN mi fasa chi wedi dod i ryw gasgliad ynglyn â be da chi'n gredu. Ma'n ddigon hawdd cymeryd y TN fel ag y mae o - does dim angen meddwl am be mae o'n ddeud, mond trio gneud fel mae o'n ddeud, ond ma'r HD yn caniatau i chi ddod i'ch casgliada eich hun.

Pam bo ni'n sôn am y Beibil?

Dwnim os di hyn di cael ei ddeud eisioes - ond fedrai'm gweld sut y basa Cymru rydd ddim yn Gymru niwtral. Oce, mi fasa ni angen byddin rhag ofn ond mi fasa'r pres fasa'n cael ei arbed wrth beidio cael byddin, llu arfog, llu awyr ac ati yn gallu cael ei ddefnyddio i gryfhau'r economi, sef (ynghyd â cadw'r Iaith yn fyw) y peth pwysicaf i'w wneud yma heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 05 Meh 2003 1:34 pm

Pam bo ni'n sôn am y Beibil?


Oherwydd fod Bush yn defnyddio ysgrythur yr hen destament i gyfiawnhau rhyfel.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Chwadan » Iau 05 Meh 2003 1:37 pm

Aah - diolch. Am lembo. Troi pob dwr i'w felin ei hun :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 06 Meh 2003 10:17 pm

Troi pob dwr i'w felin ei hun


Pwy? Bush ta fi?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron