Rhyfel...

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhyfel...

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Iau 20 Maw 2003 9:26 am

Wow! Rhyfel Iraq [Gwlff Mark 2.] wedi dechrau...

Rhaid dweud, dwi wedi cael fy surpreiso fod Bush wedi aros more hir ac yr oedd e ar ol y deadline....90 munud!

Se ni wedi meddwl ei fod e a'i fysedd brysyr wedi ysu i wasgu'r botwm "ATTACK IRAQ".
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 20 Maw 2003 9:52 am

Ar y ffordd i'r gwaith bore 'ma, roedd rhywun wedi paentio hwn mewn geiriau anferth ar wal ar Heol Casnewydd:

CYMRU - BOYCOTT UDA USA
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Chris Castle » Iau 20 Maw 2003 2:47 pm

90 munud wedi'r dedlein - ond yn union mewn pryd i'r dedleins y wasg teledu yn America.

Hollol Synicaidd ydyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 20 Maw 2003 8:32 pm

CYMRU - BOYCOTT UDA USA


Sgwn i pwy? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan huwwaters » Iau 20 Maw 2003 10:47 pm

Wel, er fy mod ddim yn cytuno efo rhyfel, rydw i'n hapus o'r ffordd y mae wedi mynd hyd yn hyn. Ni fedrwch cael rhyfel heb o leiaf rhywyn yn cael ei lladd, ac ar y noson 1af ond un sydd wedi. Mae effeithlonrwydd y teflegrynod i'w weld yn dda, ac yn taro'u targedau ble y dylien nhw.

Clywais fod yn wedi bod ymladd rhwng mab Saddam ac amddiffynwyr Saddam. Fyny i chi be ddigwyddodd. Ei fab yn trio'i ladd neu'r amddiffynwyr yn trio lladd ei fab?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan ceribethlem » Iau 20 Maw 2003 11:56 pm

neu propaganda arferol rhyfel?
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 21 Maw 2003 2:41 am

Does dim pwynt gwrando ar unrhywbeth sy'n cael ei ddweud ar y teledu o hyn ymlaen tan ddeufis ar ol diwedd y rhyfel. Chawn ni ddim o'r gwir, chawn ni ddim o realaeth y sefyllfa. Mae popeth a fwydir i ni wedi ei ffiltro, da ni fel pysgod aur yn bwyta pob tameidyn o wybodaeth a ddaw atom ni, ond mae na lawer mwy yn mynd mlaen. Cofiwch y rhyfel cyntaf yn y gwlff lle roedd Schwarzkopf yn bwydo celwyddau a pseudo-tactics i'r cyfryngau er mwyn rheoli'r sefyllfa. Da ni'n ddall i'r sefyllfa, dyw'r bbc ddim yn lo aur o newyddiaduriaeth objective, da ni'n ddall i'r gwirionedd o nawr tan ddiwedd y rhyfel anghyfiawn hwn. Boicotiwch nwyddau Americanaidd, gwnewch eich safiad chi. Yr unig ffordd allith unigolyn wneud ei bwynt ydi trwy ymwrthod ag ariannu y wlad fwyaf bydredig yny byd ar hyn o bryd. Mae Tony Blair yn warth yn cysgodi tactics imperialiadd Bush a tasa ni'n Gymru cadarn mi fasa ni'n niwtral yn yr holl ladd yma. Mae hwn yn 'precedent' peryglus iawn. Does na ddim byd yn stopio Cheney a Rumsfeld (be di rhan Bush yn hyn oll beth bynnag) rhag ymososd ar UNRHYW wlad sydd yn mynd yn erbyn moesau America. Da ni'n byw mewn byd lle mae na opression rhyngwladol gan yr US, yn cychwyn o hyn. Mae nhw wedi osgoi'r UN, pa obaith sydd gan unrhyw wlad wrth-Americanaidd o ran gwleidyddiaeth neu grefydd o hyn ymlaen. Byddwch yn barod am wrthwynebiad cryf gan bobl bach y byd. Mae America'n darget hawdd fel mae OBL wedi profi. Os mae nhw'n disgwyl heddwch a democratiaeth o'r ffiasco yma, mae nhw'n gneud camgymeriad mawr. Mae Blair nid yn unig yn peryglu bywyd y soldiwrs o Gymru a gweddill Prydain sydd allan yno yn yr anialwch ond yn peryglu bywyd trigolion sifil dinasoedd Prydain. Bydd y gwaed ar ei ddwylo o.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 21 Maw 2003 9:22 am

Ydi, mae'n wir iawn nad oes pwynt gwrando ar y newyddion yn y lleiaf. Mae 'na military blackout ar y cyfryngau a 'sdim pwynt ymddiried yn nghyfryngis Saddam.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Y noson gynta'

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Gwe 21 Maw 2003 9:48 am

Ar ol i George Dubya Bwsh rhoi'r orchymyn i anfon taflegrau 'cruise' i mewn i Iraq y noson gynta', fe gafodd 40 ei danio.

40....

Mae'n costi £1m am bob taflegryn 'cruise'...

£40m ar y noson gynta'...

Meddyliwch, gyda'r arian yna, yn hytrach na'i defnyddio mewn rhyfel ai rhoi i wella safon byw pobl yn y trydydd byd, faint o wahaniaeth y gall hwna wneud.

Oeddech chin gwbod mae ond £27 biliwn mae'n costi i BAWB YN Y BYD BYW GYDA SAFON DERBYNIOL - bwyd, diod, a meddygaeth.... pa mor bell all £40m fynd i helpu....


Gwarth yw'r rhyfel, a gwarth yw George...
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan Cardi Bach » Gwe 21 Maw 2003 12:25 pm

Dyfyniad trist o wir Nwdls -

Does dim pwynt gwrando ar unrhywbeth sy'n cael ei ddweud ar y teledu o hyn ymlaen tan ddeufis ar ol diwedd y rhyfel. Chawn ni ddim o'r gwir, chawn ni ddim o realaeth y sefyllfa. Mae popeth a fwydir i ni wedi ei ffiltro, da ni fel pysgod aur yn bwyta pob tameidyn o wybodaeth a ddaw atom ni, ond mae na lawer mwy yn mynd mlaen.



Canlyniadd credu'n Slafaidd ein newyddion

Huw Waters:

ar y noson 1af ond un sydd wedi. Mae effeithlonrwydd y teflegrynod i'w weld yn dda, ac yn taro'u targedau ble y dylien nhw.

Clywais fod yn wedi bod ymladd rhwng mab Saddam ac amddiffynwyr Saddam. Fyny i chi be ddigwyddodd. Ei fab yn trio'i ladd neu'r amddiffynwyr yn trio lladd ei fab?




Mae'n rhaid darllen yn eang iawn i gael rhyw syniad o beth sy'n digwydd yn Irac heddiw - c er mor eang y bydd y darllen hwnnw mi fydd wedi ei liwio gan bropoganda milenig America/Prydain.

Mae'r frwydyr yma yn erbyn y rhyfel yn parhau.

YMUNWCH A NI:

YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH

Bellach, mae Bush a Blair wedi cychwyn ar eu cyflafan yn Irac. OND, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros gymryd cam o'r fath a fydd yn arwain at ladd miloedd o bobl ddiniwed. Rhaid i ni godi llais dros heddwch!

Un ffordd syml o wneud hynny yw trwy ymuno mewn ympryd 24 awr a gynhelir ddydd Llun yma, Mawrth 24.

Trwy ymrwymo i fynd heb fwyd o 8.30am ar fore dydd Llun hyd at 8.30am y bore canlynol, gallwn bwysleisio, mewn modd tawel a di-drais, ddifrifoldeb ein gwrthwynebiad i'r rhyfel anghyfiawn hwn. Ar yr un pryd, bydd yn fodd i ni uniaethu gyda phobl Irac wrth iddynt wynebu cyfnod argyfyngus.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan, rhowch wybod trwy ddanfon ebost i hedd@cymdeithas.com neu trwy ffonio (01970) 624501. Bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr genedlaethol ac yn cael ei ddanfon ymlaen i Tony Blair yn 10 Downing Street ac hefyd at Rhodri Morgan yn y Cynulliad Cenedlaethol. Wrth gysylltu, dylech nodi eich enw llawn a'ch cyfeiriad.

Yn ogystal, os ydych yn cymryd rhan, dylech ddanfon neges at eich A.S. ac A.C. lleol, gan nodi eich bod wedi ymprydio ac eich bod yn disgwyl iddynt hwythau hefyd i godi llais dros heddwch.

Noder - trwy ymuno yn yr ympryd, rydych yn ymrwymo i beidio bwyta unrhyw fwyd nac yfed diodydd melys am gyfnod o 24 awr. Byddwch ond yn medru yfed dwr.

Cyhoeddwyd gan: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Pen Roc, Rhodfa'r Mor, Aberystwyth, SY23 2AX - dafydd@cymdeithas.com - (01970) 624501



Mae Gwleidyddion eisioes wedi dweud y byddan nhw'n ymuno!

Dewch i Aber fory!

Wyddoch chi fod y gall yr arian sy'n cael ei wario bob diwrnod ar ryfel y Gwlff ddatrus problemau dwr y byd? Ac mae 11,000,000 ar fin dioddef o syched a llwgu yn Ethiopia wrth fod y rhyfel gwallgo, anghyfrifol, anghfreithlon yma'n mynd yn ei flaen!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai