Dyfyniad trist o wir Nwdls -
Does dim pwynt gwrando ar unrhywbeth sy'n cael ei ddweud ar y teledu o hyn ymlaen tan ddeufis ar ol diwedd y rhyfel. Chawn ni ddim o'r gwir, chawn ni ddim o realaeth y sefyllfa. Mae popeth a fwydir i ni wedi ei ffiltro, da ni fel pysgod aur yn bwyta pob tameidyn o wybodaeth a ddaw atom ni, ond mae na lawer mwy yn mynd mlaen.
Canlyniadd credu'n Slafaidd ein newyddion
Huw Waters:
ar y noson 1af ond un sydd wedi. Mae effeithlonrwydd y teflegrynod i'w weld yn dda, ac yn taro'u targedau ble y dylien nhw.
Clywais fod yn wedi bod ymladd rhwng mab Saddam ac amddiffynwyr Saddam. Fyny i chi be ddigwyddodd. Ei fab yn trio'i ladd neu'r amddiffynwyr yn trio lladd ei fab?
Mae'n rhaid darllen yn eang iawn i gael rhyw syniad o beth sy'n digwydd yn Irac heddiw - c er mor eang y bydd y darllen hwnnw mi fydd wedi ei liwio gan bropoganda milenig America/Prydain.
Mae'r frwydyr yma yn erbyn y rhyfel yn parhau.
YMUNWCH A NI:
YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH
Bellach, mae Bush a Blair wedi cychwyn ar eu cyflafan yn Irac. OND, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros gymryd cam o'r fath a fydd yn arwain at ladd miloedd o bobl ddiniwed. Rhaid i ni godi llais dros heddwch!
Un ffordd syml o wneud hynny yw trwy ymuno mewn ympryd 24 awr a gynhelir ddydd Llun yma, Mawrth 24.
Trwy ymrwymo i fynd heb fwyd o 8.30am ar fore dydd Llun hyd at 8.30am y bore canlynol, gallwn bwysleisio, mewn modd tawel a di-drais, ddifrifoldeb ein gwrthwynebiad i'r rhyfel anghyfiawn hwn. Ar yr un pryd, bydd yn fodd i ni uniaethu gyda phobl Irac wrth iddynt wynebu cyfnod argyfyngus.
Os ydych yn dymuno cymryd rhan, rhowch wybod trwy ddanfon ebost i
hedd@cymdeithas.com neu trwy ffonio (01970) 624501. Bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr genedlaethol ac yn cael ei ddanfon ymlaen i Tony Blair yn 10 Downing Street ac hefyd at Rhodri Morgan yn y Cynulliad Cenedlaethol. Wrth gysylltu, dylech nodi eich enw llawn a'ch cyfeiriad.
Yn ogystal, os ydych yn cymryd rhan, dylech ddanfon neges at eich A.S. ac A.C. lleol, gan nodi eich bod wedi ymprydio ac eich bod yn disgwyl iddynt hwythau hefyd i godi llais dros heddwch.
Noder - trwy ymuno yn yr ympryd, rydych yn ymrwymo i beidio bwyta unrhyw fwyd nac yfed diodydd melys am gyfnod o 24 awr. Byddwch ond yn medru yfed dwr.
Cyhoeddwyd gan: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Pen Roc, Rhodfa'r Mor, Aberystwyth, SY23 2AX -
dafydd@cymdeithas.com - (01970) 624501
Mae Gwleidyddion eisioes wedi dweud y byddan nhw'n ymuno!
Dewch i Aber fory!
Wyddoch chi fod y gall yr arian sy'n cael ei wario bob diwrnod ar ryfel y Gwlff ddatrus problemau dwr y byd? Ac mae 11,000,000 ar fin dioddef o syched a llwgu yn Ethiopia wrth fod y rhyfel gwallgo, anghyfrifol, anghfreithlon yma'n mynd yn ei flaen!!!!