Cymru Niwtral

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dylai Cymru datgan niwtraliaeth yn erbyn rhyfel Iraq?

Dylai
11
92%
Na ddylai
1
8%
Sai'n becso dam!
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 12

Cymru Niwtral

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Gwe 21 Maw 2003 11:59 am

Gyda 22 o'r 40 Aelod Seneddol yng Nghymru wedi pleidleisio yn erbyn rhyfel gyda Iraq, mae hynny'n golygu drwy ddulliau democrataidd fod Cymru eisioes wedi datgan niwtraliaeth.

Beth ych chi'n credu...

Os ydych chi'n credu y dylai Cymru datgan ei niwtraliaeth yn uniongyrchol, danfonwch ebost at Rhodri Morgan yn y Cynulliad yn gofyn iddo gynnal pleidlais yn y siambr, ac yna i datgan i Tony Blair...

- <a href="mailto:Rhodri.Morgan@wales.gov.uk?subject=Cymru Niwtral">rhodri.morgan@wales.gov.uk</a>

- <a href="http://www.cymru.gov.uk/contacts/contactwelsh.jsp?area=assemblymember" target="_blank">gallwch clicio yma i gysylltu drwy'r gwefan gyda'ch aelod cynulliad lleol.</a>

- <a href="http://www.faxyourmp.com/" target="_blank">neu allwch chi glicio yma i ffacsio eich aelod seneddol.</a>
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan nicdafis » Gwe 21 Maw 2003 12:25 pm

Dim un o'r uchod. Dydy hyn ddim yn mynd i ddigwydd. Does dim lot o bwynt gwlad heb fyddin datganu bod nhw'n niwtral mewn unrhyw rhyfel. Mae Blair yn gwybod bod y rhan fwya o bobl Cymru yn erbyn y rhyfel a does dim diawl o ots 'da fe. Yr unig ffordd gall pobl Cymru gael unrhyw effeith ar bolisiau'r llywodraeth (yng Nghaerdydd ac yn Llundain) yw i bleidleisio yn eu herbyn ym mis Mai ac yn y cyfamser dangos ein gwrthwynebiad mewn protestiadau.

Wrth gwrs, sai Plaid Cymru yn ennill mwyafrif yn y Cynulliad ym mis Mai, bydden ni'n cam agosach at democratiaeth yng Nghymru.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Gwe 21 Maw 2003 3:42 pm

gyda meddylfryd fel yna, se lot o ddim wedi digwydd yfe...
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 21 Maw 2003 3:51 pm

Sa datgan ein bod yn niwtral yn wych nic. Yn dangos i bawb beth fydde anibyniaeth yn ei feddwl.

Dim rhyfeloedd imperialaidd.

Dylai'r cynulliad fod wedi datgan o blaid cymryd i rheolaeth cyhoeddus Llanwern a Glyn Ebwy pan oeddynt yn cael eu cau hefyd. Dy nhw ddim yn ar grym i neud ond mae grym moesol yn eu datganiadau ac maen't yn gallu rhopi cip olwg i ni ar faint yn well fydde bywyd mewn Cymru anibynnol.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron