Mae pymtheg o’r protestwyr heddwch oedd wedi meddiannu y Swyddfa Drethi yng Nghaerfyrddin wedi eu harestio a’u cyhuddo o dor-heddwch. Roedd y protestwyr wedi cadwyno eu hunain yn y swyddfa drethi yng Nghaerfyrddin fel protest yn erbyn y rhyfel yn Irac. Ymysg y protestwyr yr oedd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas y Cymod Cynefin y Werin a Rhwydwaith Heddwch, Aberystwyth. Arestwyd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Huw Lewis, yn ogystal ag aelodau eraill o'r Gymdeithas; Hedd Gwynfor, Laura Wyn Jones, Sian ap Gwynfor, Owain Wilkins, Dafydd Tudur, Bethan Jenkins a Mabon ap Gwynfor.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith
"Mae’n eironig bod protestwyr dros heddwch wedi eu harestio am darfu ar yr heddwch. Y rheswm y penderfynwyd protestio yn y Swyddfa Drethi oedd am fod canran o’n trethi yn cael ei wario ar yr arfau a ddefnyddir i ladd pobl ddiniwed Irac."