20-canrif-o-opresiwn a ddywedodd:Dwin credu fod peldroed yn shit hefyd, ac mae gen i'r hawl i mynegi fy marn nagos e!
20-C-o-o - Esbonia dy hun, os gweli'n dda?
Achos er yn ffeithiol gywir, yn y cyd-destun yma dyw dy bwynt yn gwneud dim sens.
Er enghraifft, wy'm yn gwbod dim byd am hanes celfyddyd pymthegfed ganrif yr Wcrain. Er hynny, onid yw dy ddadl di yn caniatau i mi ddweud ei fod yn gelfyddyd shit?! Mae hawl 'da fi i marn!
Er mwyn ffurfio barn mae'n rhaid i ti arfogi dy hun gyda gwybodaeth. Mae barn yn dechrau gyda'r wybodaeth symlaf sydd ar gael i ti, ond yn datblygu ac o bosib newid wrth dy fod ti'n ehangu'r wybodaeth hwnnw/honno ac yn aeddfedu.
Sut mae disgwyl i unrhyw un yn gyntaf dy gymryd o ddifrif? Does dim diben cynnal trafodaeth ag agwedd fel hyn, er fod pobl yn trio, achos nad oes rhesymeg yn perthyn i dy ddadl.
Allwn i'n hawdd gyfrannu at unrhyw un o gannoedd o drafodaethau sydd ar y Maes yma, heb wybod dim, ond yn glynnu at y gred fod hawl gyda fi i marn. Pa mor adeiladol fyddai hynny mewn gwirionedd i'r drafodaeth honno dywed? Ddim o gwbwl.
Enllybti'n gwbl iawn yn dy ddisgrifiad o ystyr enllib, ond dy'r gymdeithas ddim yn berson, ond mudiad, ac felly mae gen i berffaith hawl i ddweud beth rwyf eisioes wedi'i ddweud
Mi wyt ti'n gallu enllibio yn erbyn mudiad, nid yn unig yn erbyn unigolyn. Hynny yw os odi'r enllyb yn niweidio enw da y person/mudiad/cwmni. Mae'r un gyfreth felly yn 'applio' i fudiad ac unigolyn.
Mae honni fod CyIG yn 'arsonists' felly yn enllyb, ac mae unrhyw un sy'n dweud hynny yn agored i gael eu herlyn.
Ond yn dy amddiffyniad, ti'm yn rhoi'r shit am y Gymdeithas ac felly yn amlwg ddim yn llawn ddeall beth oeddet ti'n ei ddweud - ac yn amlwg yn cymryd y geiriau yn ol...[/quote]