ARESTIO PROTESTWYR HEDDWCH YNG NGHAERFYRDDIN

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 25 Maw 2003 12:47 am

Ydy, ma enllib yn rhywbeth anghyfreithlon, ond pam nest di godi hynny yn y lle cyntaf? Dwi heb enllibio neb ydw i?? naddo


Os dwi'n iawn ma enllib yn golygu parddu enw rhywyn (Y gymdeithas yn yr achos yma) gyda honiadau sy'n gelwydd noeth, hynny yw arson!

Dewch dewch, dwi'n derbyn bod gennych deimladau cryf tuag at y gymdeithas, ond mae dweud pethau fel hynny bach yn ddi-bwys.


Ti sy'n dweud pethe di-bwys! Arson - myn yffach i fel bydde Kath Jones yn dweud :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Maw 25 Maw 2003 9:29 am

Yr unig beth oeddwn i'n cyfeirio ato fel di-bwys oedd y cyhuddiad o enllib

ti'n gwbl iawn yn dy ddisgrifiad o ystyr enllib, ond dy'r gymdeithas ddim yn berson, ond mudiad, ac felly mae gen i berffaith hawl i ddweud beth rwyf eisioes wedi'i ddweud
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 25 Maw 2003 9:55 am

Yn ol i ddadl call!

Dwi'n deall pam mae rhai pobl megis 'SpecsPeledrX' yn teimlo y dylai'r Gymdeithas gadw i bwyso dros hawliau i'r Gymraeg yn hytrach nag ymgyrchoedd eraill. OND -

Mae'r Gymdeithas yn sylweddoli fod yr holl frwydrau yma yn rhan o un frwydr byd eang yn erbyn anghyfiawnder, a bod angen i'r holl fudiadau sy'n gweithredu yn erbyn anghyfiawnder yn y byd gydweithio yn agosach. Fel mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei wneud yn y gorffenol yn cefnogi y glowyr, yn yr ymgyrch gwrth apartheid, ac fel welwn ni yn yr ymgyrch heddwch heddiw.

Yn y pen draw yr un grymoedd sy'n dinistrio 'prospects' yr Iaith Gymraeg ag sy'n creu yr holl anghyfiawnderau eraill sy'n bodoli yn y byd yma, ac yr un grymoedd sy'n creu rhyfel! H.y. Globaleiddio a gweth arian dros werth bywyd!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Cardi Bach » Maw 25 Maw 2003 1:05 pm

20-canrif-o-opresiwn a ddywedodd:Dwin credu fod peldroed yn shit hefyd, ac mae gen i'r hawl i mynegi fy marn nagos e!


20-C-o-o - Esbonia dy hun, os gweli'n dda?
Achos er yn ffeithiol gywir, yn y cyd-destun yma dyw dy bwynt yn gwneud dim sens.

Er enghraifft, wy'm yn gwbod dim byd am hanes celfyddyd pymthegfed ganrif yr Wcrain. Er hynny, onid yw dy ddadl di yn caniatau i mi ddweud ei fod yn gelfyddyd shit?! Mae hawl 'da fi i marn!

Er mwyn ffurfio barn mae'n rhaid i ti arfogi dy hun gyda gwybodaeth. Mae barn yn dechrau gyda'r wybodaeth symlaf sydd ar gael i ti, ond yn datblygu ac o bosib newid wrth dy fod ti'n ehangu'r wybodaeth hwnnw/honno ac yn aeddfedu.

Sut mae disgwyl i unrhyw un yn gyntaf dy gymryd o ddifrif? Does dim diben cynnal trafodaeth ag agwedd fel hyn, er fod pobl yn trio, achos nad oes rhesymeg yn perthyn i dy ddadl.

Allwn i'n hawdd gyfrannu at unrhyw un o gannoedd o drafodaethau sydd ar y Maes yma, heb wybod dim, ond yn glynnu at y gred fod hawl gyda fi i marn. Pa mor adeiladol fyddai hynny mewn gwirionedd i'r drafodaeth honno dywed? Ddim o gwbwl.

Enllyb
ti'n gwbl iawn yn dy ddisgrifiad o ystyr enllib, ond dy'r gymdeithas ddim yn berson, ond mudiad, ac felly mae gen i berffaith hawl i ddweud beth rwyf eisioes wedi'i ddweud



Mi wyt ti'n gallu enllibio yn erbyn mudiad, nid yn unig yn erbyn unigolyn. Hynny yw os odi'r enllyb yn niweidio enw da y person/mudiad/cwmni. Mae'r un gyfreth felly yn 'applio' i fudiad ac unigolyn.

Mae honni fod CyIG yn 'arsonists' felly yn enllyb, ac mae unrhyw un sy'n dweud hynny yn agored i gael eu herlyn.

Ond yn dy amddiffyniad, ti'm yn rhoi'r shit am y Gymdeithas ac felly yn amlwg ddim yn llawn ddeall beth oeddet ti'n ei ddweud - ac yn amlwg yn cymryd y geiriau yn ol...[/quote]
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 25 Maw 2003 1:32 pm

Hedd - dwi'n cytuno a dy ddadansoddiad gwleidyddol - dyna pam rwyn sosialydd. Ond ti'n (ac mae'r gymdeithas yn) methu'r pwynt dipyn bach. Iawn i ymgyrchu gyda'r glowyr er engraifft pan fo y grymoedd yma yn uniongyrchol effeithio ar yr Iaith Gymraeg. e.e. chwalu cymunedau cymraeg (beth bynnag fo'u iaith) ac felly lleihau'r gobaith am adfywio'r iaith fel yn streic y glowyr. Ond mae'n beth gwahanol i wastraffu adnoddau prin y gymdeithas ar ymgyrchoedd sydd a wnelo dim byd a'r iaith - megis atal yr hawks, hawliau hoywon, yn erbyn y rhyfel a ballu. Mae mudiadau eraill a llawer mwy o adnoddau yn bodoli i ymgyrchu dros y pethau hyn.

Rhaid i'r Gymdeithas sylweddoli (ac mae wedi gwella lot yn ddiweddar) mae'r rheswm fod pobl yn ymuno ar gymdeithas (ac wedi ymuno yn eu cannoedd a chymuned) yw i wneud rhywbeth dros yr iaith.

Rwy'n cytuno fod addysg wleidyddol i godi dealltwriath aelodau ar bynciau fel y rhai uchod (megis atal yr hawks, hawliau hoywon, yn erbyn y rhyfel ) yn bwysig. Ond fel unigolion y ddylai'r aelodau ymgyrchu ar y pynciau yma fel aelodau o fudiadau eraill.

Dwi'n erbyn y rhyfel ac yn aelod o'r coalition against the war. Ond pam ddylai'r Gymdeithas ddatgan ei hun yn erbyn y rhyfel a gelyniaethu Cymru Cymraeg sydd au meibion neu merched yn aelodau'r fyddin saesnig? Does dim angen ychwaith neidio ar bob bandwagon dosbarth canol radical a ddaw heibio.

Gobeithio fod hyn yn gwneud synwyr ac yn adeiladol!!!

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

sue me then...

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Maw 25 Maw 2003 2:35 pm

Cardi, tase ti wedi darllen ymlaen ychydig, se ti wedi gweld fy rheswm am ddweud am arson ['sue me' - wneiff e ddim sefyll mewn cwrt, gan taw camddealldwriaeth oedd e, ac dwi siwr oeddech chi'n gwybod hynny, felly yr oedd yn gwbl ddi-werth dod a hyn i fyny yn y lle cynta]. Dydw i ddim yn cymeryd fy ngeiriau yn ol, achos sdim angen.

Dwi heb glywed am mudiad yn ffeilio am enllib, 'mond tories sydd yn gwneud (ac americanwyr) dwi wedi clywed am.

Dwi ddim yn becso dam os nagoes unrhywun yn fy nghymeryd o ddifri, ond yn amlwg mi rydych chi(!). Mae maes-e yn ddihangfa i mi, ac felly sdim ots da fi beth ych chi'n credu.

Sai'n mynd i ddweud dim os wyt ti yn dweud fod celfyddyd Ukraine yn shit ai peidio - dy farn di yw hynny a fydden ni ddim yn ceisio dweud fod tin anghywir... Gallen i ddweud dy fod tin twat - dwi ddim yn gwybod os yw hwnan wir, ond mi allen rhoi fy marn [dim ymosodiad oedd hwna ond engraifft!]

Dwi'n credu fod peldroed yn shit - cico pel i rhwyd am 90 munud, gwastraffu arian ar pwsis sy'n deifio ac yn actio, ac wrth gwrs hwliganiaeth .... hollol di-bwys a crap YN FY MARN I!
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 25 Maw 2003 2:46 pm

Iawn i ymgyrchu gyda'r glowyr er engraifft pan fo y grymoedd yma yn uniongyrchol effeithio ar yr Iaith Gymraeg.


Dwi'n gweld dy bwynt, ac efallai nad yw'r rhyfel yn effeithio'n uniongyrchol ar y Gymraeg, ond yn anuniongyrchol mae'n effeithion fawr iawn. Mae'n golygu fod pobl yn derbyn fod hawl gyda'r cryf sathru ar ben y gwan jest achos ei bod yn fwy cyfoethog. Mae hwn yn ffitio i mewn yn berffaith i'r patrwm o globaleiddio.

Yn y Gymdeithas ni'n gweld y frwydr dros y Gymraeg fel rhan o'r frwydr byd eang yn erbyn globaleiddio. Mewn rhai achosion sydd mor amlwg yn anghywir, megis y rhyfel yn Irac, mae'r Gymdeithas wedi penderfynnu sianelu eu hadnoddau am gyfnod byr i weithredu yn erbyn yr anghyfiawnder yma. Dwi'n credu fod hwn yn hollbwysig i greu cynghreiriaid gyda mudiadau eraill yma yng Nghymru, ac mae hyn wedi digwydd i raddau eang.

Bydd llais llawer cryfach gyda ni os byddwn ni i gyd yn cydweithio yn y frwydr mawr yma yn erbyn anghyfiawnder a globaleiddio ym mhob maes i.e. ieithoedd lleiafrifol, hawliau gweithwyr, parchu'r amgylchedd, yr ymgyrch Heddwch ayb. ayb.

O ie! Dewi ti sydd ti ol i'r Sbecs ife? On i'm yn gwbod eu bod yn beledrX, fydd rhaid i mi wysgo rhyw fath o body armour y tro nesa welai di!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 25 Maw 2003 4:27 pm

'sue me'


Sa ni actully mynd i neud dim, ti yn sylwi na nagi ti?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: ARESTIO PROTESTWYR HEDDWCH YNG NGHAERFYRDDIN

Postiogan Meinir Thomas » Llun 31 Maw 2003 10:48 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:
Pwy ddiawl sy'n mynd i gyfrannu i maes e rwan 'de?


'Wi dal 'ma. :) Ro'n i'n gweithio ar ddiwrnod y brotest.
Deddf Iaith 69 - Defnyddia dy dafod!

http://www.misterpoll.com/1287528160.html
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Meinir Thomas » Llun 31 Maw 2003 10:49 pm

Beth sy'n digwydd i'r protestwyr nawr? Smo nhw'n mynd i gael dirwy na dim, odyn nhw?
Deddf Iaith 69 - Defnyddia dy dafod!

http://www.misterpoll.com/1287528160.html
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron