Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Llun 11 Meh 2007 10:47 pm
gan Dan Dean
rooney a ddywedodd:Mae'r chwith yn casau enillwyr.

Be ti'n feddwl yn fama?

Mae agweddau gwrth-semetic trigolion maes-e yn gwbl warthus.

Dadl hollol pathetic, a dim ond idiot llwyr fysa yn ei ddefnyddio.

PostioPostiwyd: Gwe 15 Meh 2007 10:07 pm
gan rooney
Nid yw'r atgasedd tuag at yr Iddewon yn beth newydd. Teimlaf fod yr Iddewon wedi bod trwy ddigon yn eu hanes. Gwyrth oedd iddynt ddychwelyd i Israel yn 1948 a curo rhyfel 1967 yn erbyn eu gelynion niferus mewn 6 diwrnod. Gelynion Israel yw gelynion y Gorllewin.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 1:52 am
gan huwwaters
Gelynion rhyddid addysg yw gelynion y gorllewin.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 4:46 pm
gan Dan Dean
Dan Dean a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:Mae'r chwith yn casau enillwyr.

Be ti'n feddwl yn fama?

WEL??!

rooney a ddywedodd:Gelynion Israel yw gelynion y Gorllewin.

Saudi Arabia yn engraifft amlwg o'r gwall yn y frawddeg uchod.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 8:48 pm
gan ffwrchamotobeics
rooney a ddywedodd:Mae'r chwith yn casau enillwyr.

Mae agweddau gwrth-semetic trigolion maes-e yn gwbl warthus.


Be wyt ti? Ffasgydd, Branch Davidian, ifanc iawn ynteu ffan Man U diniwed?

PostioPostiwyd: Sul 04 Tach 2007 11:42 pm
gan rooney
Chi eisiau Israel gael ei ddinistrio, neu ddim?

addysg i chi
http://www.youtube.com/watch?v=-e2BD5LDmDE

PostioPostiwyd: Llun 05 Tach 2007 1:28 am
gan Dylan
na

PostioPostiwyd: Llun 05 Tach 2007 1:57 am
gan rooney
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Mae'n dangos fwyfwy shwt dyw America/Israel ddim yn poeni cach am 'drafodaeth' a 'heddwch', ond yn hytrach mewn cryfhau eu gafael ar ardal y Dwyrain Canol. Mae hyn yn peri pryder mawr i fi...

Yr hyn sy'n fy nghael i hefyd yw'r honiad gan America mai nhw yw ceidwaid democratiaeth, a bod pawb sy'n anghytuno a nhw yn ceisio dilorni democratiaeth...


dyma sothach
Israel hefo gafael ar y Dwyrain Canol? Mae Israel ond yn gwneud beth sydd angen i amddiffyn ei hun. Mae Israel yn wlad fechan gyda gelynion niferus o'i chwmpas ym mhobman. Mae arlywydd Iran yn gwadu'r holocaust, eisiau chwalu Israel oddi ar y map, ac mae hefyd eisiau arfau Niwclear- go figure.

Re:

PostioPostiwyd: Iau 17 Ebr 2008 11:55 pm
gan rooney
rooney a ddywedodd:
dyma sothach
Israel hefo gafael ar y Dwyrain Canol? Mae Israel ond yn gwneud beth sydd angen i amddiffyn ei hun. Mae Israel yn wlad fechan gyda gelynion niferus o'i chwmpas ym mhobman. Mae arlywydd Iran yn gwadu'r holocaust, eisiau chwalu Israel oddi ar y map, ac mae hefyd eisiau arfau Niwclear- go figure.


wel dyna un ffordd o stopio trafodaeth ar maes-e