Tudalen 1 o 19

Cweir i America yn Irac: Gorau po gynta

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 11:30 am
gan Arabiata
Dwi'n gobeithio geith America ffwc o gweir yn Irac. Mae clywed am farwolaethau milwyr yr UD neu apache yn syrthio yno yn llonni calon rhywun. Dydwi ddim yn heddychwr yn amlwg ac mae marwolaeth yn erchyll o beth ond os na dyna'r unig iaith y mae lladron fel Bush yn ddeall yna mae'n annorfod.

Re: Cweir i America yn Irac: Gorau po gynta

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 11:36 am
gan Chwadan
Arabiata a ddywedodd:Mae clywed am farwolaethau milwyr yr UD neu apache yn syrthio yno yn llonni calon rhywun.

Fedrai'm dallt sut fedar unrhywun ddeud y fath beth a galw eu hunain yn berson dynol. Sut ti'n meddwl ma teuluoedd y bobl ma'n teimlo? Dwi'n dallt fod y bobl ma wedi dewis mynd i'r fyddin ac yn gorfod deall fod na risg o farwolaeth, ond ma deud bo ti'n falch fod rhywun wedi marw yn beth hollol uffernol i'w ddeud. Fedrai weld ella sut sa lot o farwolaethau yn gneud i Bush newid ei feddwl, ond canlyniad trist polisi gwallus fasa'r marwolaethau, nid rhywbeth i'w dathlu.

Cer i gael parti yn y stryd, ma na Americanwyr di marw. :x

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 11:39 am
gan Geraint
Does ddim rhaid i americanwyr sy'n hedfan i irac dangos passport, mae hi ond yn rhan o ymerodraeth yr UDA bellach. Os troith pobl yr UDA yn erbyn Bush, wedyn falle deith da o'r marwolaethau.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 11:42 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hmmm. Rwy'n falch bod yr Iraciaid yn brwydro nol o'r diwedd, ac yn sylweddoli mai 'paper democracy' sy'n cael ei rhoi iddynt gan America, ond alla' i ddim gweld bod marwolaeth i unrhyw un byth yn 'beth da'...

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 11:55 am
gan Sioni Size
Y lleia o drafferth gaiff America yn Irac y cyntaf fydda nhw'n dosbarthu eu brand diddorol o ryddid ar y wlad nesaf. Felly mae'r logic mai'r mwyaf o drafferth gaiff America yn Irac y mwyaf o lonydd gaiff trigolion y gwledydd eraill yn dal dwr. Ac os cawn nhw eu hel oddi yno, megis Vietnam, bydd eu Project For The New American Century wedi ei chwalu ar ei ddechrau.

Sut ti'n meddwl fod teuluoedd y 66,000 o iraciaid sydd wedi eu lladd yn uniongyrchol o'r rhyfel yn teimlo (55,000 o 'filwyr'). Does na neb yn gorfodi milwyr America i ymuno a'r goresgyn (eto). Tyff tits.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 12:12 pm
gan Dielw
Mae clywed am farwolaethau milwyr yr UD neu apache yn syrthio yno yn llonni calon rhywun


Twat.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 12:53 pm
gan Panom Yeerum
Dielw a ddywedodd:
Mae clywed am farwolaethau milwyr yr UD neu apache yn syrthio yno yn llonni calon rhywun


Twat.
Cytunaf รข fy nghytundeb mwyaf!

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:07 pm
gan Garnet Bowen
Dwi'n cymeryd mai trio bod yn ddadleuol mae Arabiata, er mwyn i pawb feddwl ei fod o'n rebal bach beiddgar. Yr hyn sy'n fwy trist ydi ymateb "rhesymol" GDG a Sioni Size. Wancars.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:10 pm
gan Garnet Bowen
Wedi golygu.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:12 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Garnet Bowen a ddywedodd:Yr hyn sy'n fwy trist ydi ymateb "rhesymol" GDG a Sioni Size. Wancars.


Beth? Beth sy'n 'afresymol' am fy ymateb i? Dweud ydw i fy mod i'n falch bod Iraciaid cyffredin yn dangos nag y'n nhw'n fodlon plygu drosodd i America a gweud 'Dyma ni, cymerwch ein rhyddid a chroeso'. Fe wned i anghytuno a chlodfori marwolaethau Americanwyr, gan fy mod i yn erbyn rhyfel yn gyffredinol, ac felly'n credu na ddylen nhw fod yno yn y lle cynta' i gael eu lladd. Piss of home, America, s'neb moyn chi 'na.

A phaid a'm galw yn 'wancar' os gweli di'n dda. Os wyt ti am ddechre bod yn bersonol, gallwn ni ddilyn y trywydd hwnnw a chroeso, ond gwell fyddai gen i gadw at y mater dan sylw.