RET79 a ddywedodd:Mae'r WMD mwyaf wedi ei ddal - Saddam. Cofia, roedd pobl yn marw mewn ffyrdd erchyll o dan Saddam.
Wel, dwn i ddim. Ella bysa chdi ddim lle wyt ti heddiw heb snortio cwpl o linellau o lwch
depleted uranium bob bore cyn brecwast, ond, at ei gilydd, mae hwnna hefyd yn peri i bobl farw mewn ffordd erchyll - o ganserau braf, felly (ac yn creu llond byd o hwyl ar gyfer eu disgynyddion lwcus fydd yn mwynhau namau geni ac anableddau
a chanserau am genedlaethau i ddod). Ac mae dyngarwyr mawr y Gorllewin wedi bod yn taflu cannoedd o dunelli o'r stwff o gwmpas Irac yn ddiweddar wrth fynd o gwmpas eu gwaith bob dydd o ladd yr Iraciaid lwcus yna sy'n cael marw yn syth bin.
Ac wedyn mae'r bomiau clwstwr - fatha'r rhai sydd yn dal i ladd pobl ar
The Plain of Jars yn Laos dri deg mlynedd ar ol i'r Unol Daleithiau fomio'r lle yn dipiau.
Fel mae'n digwydd, mae Comisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol yn cyfrif arfau
depleted uranium a bomiau clwstwr fel 'weapons of mass and indiscriminate destruction' hefyd. Dwn i ddim be mae hyn yn ei ddweud am egwyddorion y bobl yna oedd yn paldaruo yn sanctaidd am WMD honedig Saddam ar yr un pryd a pharatoi i ddefnyddio'r ffasiwn bethau yn erbyn yr Iraciaid.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.