Garnet Bowen a ddywedodd:Dadl dros yr hawl i ddefnyddio trais fel arf gwleidyddol ydi hon, a fedrai ddim cytuno efo chdi. Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio tor-cyfraith i fynegi eu hunain yn wleidyddol pan nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall o fynegi eu hunain. Ond nid dyna sy'n digwydd yn Irac heddiw. Nid "protest" dreisgar ydi hon. Mae'r Americanwyr yn barod wedi datgan eu bod nhw'n trosglwyddo grym yn ol i'r Iraciaid ymhen llai na deufis. Mae nhw yn barod wedi penodi dyddiad ar gyfer cynnal etholiadau. Mae gan Iraciaid yr hawl i fynegi eu barn yn wleidyddol, heb orfod defnyddio trais. Toes gan y "gwrthryfel" yma ddim math o legitmacy. Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y trais yn perthyn i leiafrifoedd bychain sy'n sylweddoli y byddai trefn ddemocrataidd yn eu gadael nhw mewn safle gwan, a felly mae nhw'n ceisio tanseilio sefydlu'r drefn hono, er mwyn dal gafael ar eu grym presenol.
Tasa gan y bobl yma ddim modd arall o fynegi eu hunain, mi fyswn i'n medru deallt pam eu bod nhw'n troi at drais. Ond fel mae petha yn sefyll, fedri di ddim cyfiawnhau'r trais ddim mwy nac y byswn i'n medru cyfiawnhau ymgyrch fomio yng Nghymru am fy mod i'n rhy ddi-amynedd i ddisgwyl tan etholiad cyffredinol 2005.
Mae'r Americanwyr wedi defnyddio trais aruthrol i fachu be wyt ti, am ryw reswm, yn ei ystyried yn rheolaeth ddilys dros y wlad. Maen nhw'n defnyddio trais i orfodi eu hewyllys ar bobl y wlad (gan gyfiawnhau hynny drwy fynnu bod yr holl Iraciaid sydd ddim yn plygu glin gerbron eu meistri tramor newydd yn deroristiaid ac yn dargedau teilwng i chwanag o drais), gan dargedu sifiliaid yn ddiedifar.
Yn y cyfamser, mae papurau newydd sy'n beirniadu'r drefn newydd wedi cael eu cau. Mae protestwyr di-drais wedi cael eu saethu yn farw. Mae degau o filoedd o Iraciaid wedi'u carcharu yn ôl mympwy'r awdurdodau.
A dyna chdithau'n doethinebu'n nawddoglyd o blaned arall am droi at sianelau priodol ar gyfer mynegi barn wleidyddol yn hytrach na defnyddio trais. Unwaith eto yn darllen yn syth o sgript y goresgynwyr. Trist iawn, a dweud y lleiaf.
Mae'r Iraciaid isio rheolaeth dros eu gwlad eu hunain, ac mae'n amlwg bod rhai ohonyn nhw'n ddigon hirben i sylweddoli na fydd rhyw sioe etholiadau wedi'i rhedeg yn unol â chanllawiau'r Americanwyr ddim yn cyflawni hynny yn ystyrlon.
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae nhw'n mynd ati yn fwriadol i geisio lladd tramorwyr, boed y rheini'n filwyr neu beidio.
Gwrthun, tydi, yn wyneb y ffasiwn ymddygiad enghreifftiol gan eu gelynion.