Cweir i America yn Irac: Gorau po gynta

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 2:34 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:
Mae'n ymddangos bod trawsgrifiad o eiriau Glaspie ("But we have no opinion on Arab-Arab conflicts like your border disagreement with Kuwait.", etc.) wedi'u cyhoeddi gan lywodraeth yr Unol Daleithiau hefyd.

firethistime.org a ddywedodd:US State Department transcripts [h.y. o eiriau Glaspie] have been published in James Ridgeway's ‘The March to War’, Four Walls and Eight Windows, New York 1991 (page 28 ). Also in Pierre Salinger and Eric Laurent's ‘Secret Dossier - The Hidden Agenda Behind the Gulf War’, Penguin, Harmondworth 1991, and ‘The Gulf War Reader’, Times Books, Random House, New York 1991, editors Michael Sifry and Christopher Cert.


Dwi wedi trio dod o hyd iddyn nhw er mwyn eu cymharu, a wedi methu. Mi ddos i ar draws hwn ar encyclopedia ar-lein http://en.wikipedia.org/wiki/April_Glaspie

Wikipedia a ddywedodd:It was in the context of this situation that Glaspie had her first meeting with Iraqi President Saddam Hussein and his Deputy Prime Minister Tariq Aziz on July 25, 1990. What was said at that meeting has been the subject of much speculation. At least two purported transcripts of the meeting have been published, both apparently based on versions released by Iraq. The State Department has not confirmed the accuracy of these transcripts, and they must be treated with caution.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Maw 20 Ebr 2004 2:53 pm

GDG a ddywedodd:America ddywedodd wrth Saddam am ymosod ar Kuwait!

Gan dybio bod hyn ddim yn wir oherwydd bod dim tystiolaeth credadwy, beth am fynd nol at y pwynt nes i o'r blaen. Pam bod ymosodiad gan yr Almaen ar wlad Pwyl yn wahanol i ymosodiad gan Saddam ar Kuwait? Achos bod yr Almaen yn fwy ie? Pa ots di hyn?
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ebr 2004 3:05 pm

Yr hyn yr wyt ti'n ensynnu yw bod Irac yn ymosod ar Kuwait yn beryg i heddwch y byd ac i'n rhyddid ni, yn yr un modd ag yr oedd Hitler yn gormesu Gwlad Pwyl. Ffwlbri llwyr yw meddwl pethau o'r fath.

Hefyd, cyn i ti ddechrau am 'hawliau dynol', 'hawliau olew' oedd rheswm America am weud whishgit wrth Irac.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Macsen » Maw 20 Ebr 2004 3:19 pm

GDG, doedd gan beth ddywedais i i ddechrau ddim iw wneud a pam aeth America i Iraq, ond ei bod nhw wedi gwneud smonach drwy ddweud ei bod nhw am syportio pobl Iraq yn erbyn Saddam ar y pryd, ac yna peidio gwneud. Sut mae dweud peth o'r fath yn anhygoel o naif, wn i ddim. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 3:20 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Yr hyn yr wyt ti'n ensynnu yw bod Irac yn ymosod ar Kuwait yn beryg i heddwch y byd ac i'n rhyddid ni, yn yr un modd ag yr oedd Hitler yn gormesu Gwlad Pwyl. Ffwlbri llwyr yw meddwl pethau o'r fath.

Hefyd, cyn i ti ddechrau am 'hawliau dynol', 'hawliau olew' oedd rheswm America am weud whishgit wrth Irac.


Nid dyna'r gymhariaeth y gwnaeth Di-elw yn wreiddiol. Son wnaeth o am y rhan y chwaraeodd Prydain yn nhwf Natsiaeth. Ei ddadl o oedd ein bod ni wedi bod yn rhannol gyfrifol am ddod a Hitler i rym yn yr Almaen - drwy Gytundeb Versaille, appeasment etc. - ond bod hyn heb ein stopio ni rhag ymladd yn ei erbyn rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Felly pam dylsa'r ffaith ein bod "ni" wedi cynorthwyo Saddam flynyddoedd yn ol ein rhwystro ni rhag mynd i ryfel yn ei erbyn heddiw?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ebr 2004 3:35 pm

Macsen a ddywedodd:GDG, doedd gan beth ddywedais i i ddechrau ddim iw wneud a pam aeth America i Iraq, ond ei bod nhw wedi gwneud smonach drwy ddweud ei bod nhw am syportio pobl Iraq yn erbyn Saddam ar y pryd, ac yna peidio gwneud. Sut mae dweud peth o'r fath yn anhygoel o naif, wn i ddim.


Yr hyn biges i lan arno fe yw dy fod ti'n dweud, 'O, dyna gamgymeriadau'r gorffennol, dy'n nhw ddim i'w wneud a'r gyfundrefn bresennol. Sylwer bod nifer o'r bobl a oedd yn gyfrifol am fynd i Irac yn y gyfundrefn bresennol hefyd, ac mae'r un camgymeriadau'n cael eu gwneud drwy beidio a dilyn llwybrau democrataidd yn Irac, sydd yn arwain at ddiffyg sicrwydd a thrais ymysg y bobl gyffredin.

Rwyt ti, Garnet, yn gwbod yn iawn pam y bydd unrhyw un yn trafod 1939, ac mae hynny er mwyn creu ymdeimlad o 'arwraeth'. 'Hei, bobl, mae e jyst fel Hitler, a naethon ni ddelio gyda fe, huh?' Ceisio cyfiawnhau defnyddio trais yn erbyn unrhyw un drwy rywbeth na allwch chi ddadlau'n ei erbyn. 'Hei, os na fyddwn i'n atal trais y Palesteiniaid nawr, fe fyddan nhw'n troi mewn i Hitlers'.

O ran dy ddatganiad olaf, pam oedd hi'n dderbyniol i Saddam ddefnyddio trais yn erbyn ei bobl gyhyd, gydag America a Phrydain yn llawn wybod hyn, 'mond i hynny gael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad pan na ddarganfuwyd WMDs?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Macsen » Maw 20 Ebr 2004 3:40 pm

GDG a ddywedodd:Yr hyn biges i lan arno fe yw dy fod ti'n dweud, 'O, dyna gamgymeriadau'r gorffennol, dy'n nhw ddim i'w wneud a'r gyfundrefn bresennol. Sylwer bod nifer o'r bobl a oedd yn gyfrifol am fynd i Irac yn y gyfundrefn bresennol hefyd, ac mae'r un camgymeriadau'n cael eu gwneud drwy beidio a dilyn llwybrau democrataidd yn Irac, sydd yn arwain at ddiffyg sicrwydd a thrais ymysg y bobl gyffredin.


Sori, dim dyna beth oeddwn i'n ceisio ei ddweud. Angen gwneud fy hun yn fwy clir yn y dyfodol efallai. Beth oeddwn i'n ceisio ei ddweud yw bod nifer o broblemau ymosod ar Iraq heddiw wedi dod am nad oedd America yn A) Fodlon cael gwared o Saddam yn 1991, a B) Wedi dweud wrth yr Iraqiaid i godi yn erbyn Saddam ac yna gadael iddyn nhw gael ei lladd.

Dwi'n gwybod yn iawn mae'r gyfundrefn orffenol yw'r gyfundrefn presenol, i raddau. Dwi'n arbennig o hoff o'r llun o Mr Rumsfeld yn ysgwyd llaw Saddam. :crechwen:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 3:43 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Rwyt ti, Garnet, yn gwbod yn iawn pam y bydd unrhyw un yn trafod 1939, ac mae hynny er mwyn creu ymdeimlad o 'arwraeth'. 'Hei, bobl, mae e jyst fel Hitler, a naethon ni ddelio gyda fe, huh?' Ceisio cyfiawnhau defnyddio trais yn erbyn unrhyw un drwy rywbeth na allwch chi ddadlau'n ei erbyn. 'Hei, os na fyddwn i'n atal trais y Palesteiniaid nawr, fe fyddan nhw'n troi mewn i Hitlers'.


Dwi yn cydnabod fod 1939 yn cael ei or-ddefnyddio fel engrhaifft. Y rheswm am hyn ydi ei fod yn enghraifft berffaith, syml, o pam fod heddychiaeth yn syniadaeth methedig. Bu'r rhai a ddadleuodd yn erbyn mynd i ryfel ynghynt yn gyfrifol - yn y pen draw - am lawer iawn mwy o farwolaethau.

Tydi hi ddim yn deg cymharu Irac heddiw ac Almaen 1939. Ond, mae posib defnyddio elfennau o'r dadleuon hynny i daflu goleuni ar broblemau heddiw, a dyna oedd Dielw'n trio ei wneud, dwi'n meddwl.

GDG a ddywedodd:O ran dy ddatganiad olaf, pam oedd hi'n dderbyniol i Saddam ddefnyddio trais yn erbyn ei bobl gyhyd, gydag America a Phrydain yn llawn wybod hyn, 'mond i hynny gael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad pan na ddarganfuwyd WMDs?


Doedd hi ddim yn iawn. Mae'r ffaith fod y cyngrheiriaid wedi anwybyddu ei drais am gyhyd yn warthus. Ond nid anwybyddu'r trais am yn hirach oedd yr ateb i hyn, ond yn hytrach cymeryd camau i roi diwedd ar y trais.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Newt Gingrich » Maw 20 Ebr 2004 11:01 pm

Hernan Rodriguez a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ffycin hell, shwt o'n i'n gwbod na fyset ti'n derbyn hynna oherwydd ei fod e'n dod o gyhoeddiad asgell chwith, eh?


Asgell chwith ydi'r Guardian neu'r Independent. Mae cylchgrawn "revolutionary marxist" yn perthyn i fyd gwahanol. Rhyfedd sut ei bod hi'n dderbyniol darllen cylchgrawn o'r fath, tra bysa'r "Journal of International Nazism" yn cael ei gondemnio gan bawb ar y bwrdd.

Glywes i rioed y fath beth. Mae cymharieth o'r fath yn hollol hurt a gwarthus. Mae casineb hiliol yn greiddiol i syniadau natsiaeth, cael eu cam-ddefnyddio gan bobl fel Stalin wnaeth Marxiaeth.


Jesus, pa mor wreiddiol di'r cyfraniad cachlud uchod? Twat
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Newt Gingrich » Maw 20 Ebr 2004 11:03 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Yr hyn yr wyt ti'n ensynnu yw bod Irac yn ymosod ar Kuwait yn beryg i heddwch y byd ac i'n rhyddid ni, yn yr un modd ag yr oedd Hitler yn gormesu Gwlad Pwyl. Ffwlbri llwyr yw meddwl pethau o'r fath.

Hefyd, cyn i ti ddechrau am 'hawliau dynol', 'hawliau olew' oedd rheswm America am weud whishgit wrth Irac.


Cyfraniad arall 'gwreiddiol' ac di-sail. Safon y drafodaeth fan hyn yn hynod :winc: uchel.

Armchair revolutionaries Maes e - you make me laugh
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron