Cweir i America yn Irac: Gorau po gynta

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Iau 20 Mai 2004 5:39 pm

Sioni Size a ddywedodd:
An Iraqi poll to be released next week shows a surge in the popularity of Moqtada al-Sadr, the radical young Shia cleric fighting coalition forces, and suggests nearly nine out of 10 Iraqis see US troops as occupiers and not liberators or peacekeepers.


Be ddwedoch chi am ddemocratiaeth, gefnogwyr America?



Wel, mae gen ti ddau ddewis. Mi fedri di selio dy bolisi gwleidyddol ar arolwg barn - h.y. un achos o bobl yn mynegi eu hunain - neu mi fedri di fynd ati i geisio creu cyfundrefn ddemocrataidd sy'n debygol o bara tu hwnt i ddydd mercher nesa. Nid dim ond mater o ofyn barn ydi democratiaeth. Mae'n rhaid cytuno ar y rheolau, llunio cyfansoddiad, cynnal etholiadau teg, a sicrhau fod gan y llywodraeth etholidig y gallu i weithredu eu polisiau. Dyna ydi democratiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Gwe 21 Mai 2004 11:54 am

Garnet, dydi beth wyt ti eisiau ei weld yn digwydd ddim o reidrwydd yn digwydd. Nid chdi sy'n rhedeg America. Dwi'n amau fod yna ddiffyg sylweddoliad enfawr o hyn yn dy ben.

Ret, i ateb dy gwestiwn, mi fyddai mewn theori yn well gennyf i fyw o dan unben fyddai'n trin pawb yn deg, ac yn trin gwledydd eraill yn deg, na byw mewn democratiaeth sy'n sarnu ar bawb arall ac yn ymarfer imperialaeth rhemp sy'n arwain y byd i ddinistr. Gan dy fod yn hoffi delio a'r theoris yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Gwe 21 Mai 2004 2:35 pm

Ma gan Sioni bwynt. Mae hi YN bosib cael Unben teg, er fod hynny byth bron yn digwydd dio ddim yn sefyllfa hollol glir o democratiaeth vs unben.

Ond am Irac Garnet y broblam ydi fod pobl Irac ddim isho America yna dim mwy. Da ni'n clywed digon gan y llywodraeth am 'gwrandwch ar be ma'r aelod hwnneu'r llall o Gyngor Rheoli Irac' yn ei ddweud, ond dydy nhw ddim yn siarad am y bobl. Wrth gwrs fod nhw yn cefnogi America, America roth bwer yn ei dwylo (be di'r frawddeg na - "bite the hand that feeds you" ia?)

Y rheswm dydi'r bobl ddim isho America yna ydi fod America yn ei trin fel pobl wedi ei concro. Ma nhw'n lladd heb feddwl (Parti priodas for god's sake!) a ma nhw'n trin carcharorion yn erchrydus.

Da ni i gyd isho system ddemocrataidd dda yn Irac, ond fedrai'm gweld America yn gallu ei roi o iddy nhw. Sbia ar Afganhistan,elli di alw fanno yn ddemocrataidd?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Gwe 21 Mai 2004 2:41 pm

Ond CwlCymro, mae Garnet wedi esbonio eisioes fod hi'n hollol amherthnasol beth sydd YN digwydd yn Irac. Yr unig beth sy'n bwysig ydi beth fyddai'n MEDRU digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan pogon_szczec » Gwe 21 Mai 2004 9:30 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Mark Steel, Independent a ddywedodd:When I see this steady stream of people who once supported the invasion of Iraq, but now admit they shouldn't have, a part of me admires their honesty. But another part wants to collect them all together in a classroom while I stand in front of a blackboard snarling: "Now, why couldn't we get it right first time? We've been through this enough times before."

Then I'd yell: "You boy, what have we learned about the Americans when they invade somewhere?" And the columnist would mumble into his hands: "Subabmakawub". "What's that?"

"Scewavawap anmakawa."

"Come on, out with it."

"They screw everyone up and make things worse, sir."

"That's right, they screw everyone up and make things worse, now remember it for next time."

After Vietnam, Chile, Nicaragua etc, to believe that maybe this time the Pentagon would make the world more peaceful was almost charming in its naivety. But anyone who fell for it would probably not make a good scientist. They'd sit in laboratories thinking: "Hmm, so once again my experiment shows the reaction of petrol combined with fire is to explode. But let's try once more, because you never know, next time, it might cool everything down."

:)


Mae'r boi jyst yn rong.

Chile yw gwlad mwyaf gyfoethog De Amerig.

Nicaragua yn pleidleisio dros pleidiau adain dde yn gyson.

Mae Fietnam, lle enillodd yr ochr rong, yn economic basket case sy'n troi at gyfalafiaeth yn gleu.

Tase'r Americanwyr wedi enill yn Fietnam, efallai base eu dinasyddion yn enill pum gwaith yn fwy.

Os yw'r Iraciaid ishe dyfodol gwell, i gyd sy ishe arnyn nhw yw peidio a gwrthsefyll y coalisiwn.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan RET79 » Gwe 21 Mai 2004 10:07 pm

Sioni Size a ddywedodd:Ret, i ateb dy gwestiwn, mi fyddai mewn theori yn well gennyf i fyw o dan unben fyddai'n trin pawb yn deg, ac yn trin gwledydd eraill yn deg, na byw mewn democratiaeth sy'n sarnu ar bawb arall ac yn ymarfer imperialaeth rhemp sy'n arwain y byd i ddinistr. Gan dy fod yn hoffi delio a'r theoris yma.


Rho enwau , plis. Ti wedi dangos yn fan hyn fod ti ddim yn hoff o ddemocratiaeth. Diar mi, yn tydi'n hi'n braf ar bobl fel ti'n gallu cysgodi ym Mhen Llyn o fewn gwlad gyfalafol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dan Dean » Gwe 21 Mai 2004 10:17 pm

pogon_szczec a ddywedodd:Mae'r boi jyst yn rong.

Chile yw gwlad mwyaf gyfoethog De Amerig.

Nicaragua yn pleidleisio dros pleidiau adain dde yn gyson.

Mae Fietnam, lle enillodd yr ochr rong, yn economic basket case sy'n troi at gyfalafiaeth yn gleu.

Tase'r Americanwyr wedi enill yn Fietnam, efallai base eu dinasyddion yn enill pum gwaith yn fwy.

Os yw'r Iraciaid ishe dyfodol gwell, i gyd sy ishe arnyn nhw yw peidio a gwrthsefyll y coalisiwn.


Da ni di bod trw hyn o blaen do :rolio:

Am Chile, oedd yn son am y coup yn 1973, nid sdad economaidd y wlad heddiw.

Am Nicaragua, oedd yn son am y CIA yn helpu'r Contras yn ystod y 1980s.

Ti'n meddwl mai'r UDA oedd yr ochor iawn yn y rhyfel Fietnam. Hmmmm... :rolio:

"Peidio gwrthsefyll yn erbyn y coalisiwn". Gan gofio bod nhw newydd fomio'r cachu allan o briodas cyfan(ymysg llawer o betha erill), ti'n disgwl i'r Iraciaid beidio gwrthsefyll?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dan Dean » Gwe 21 Mai 2004 10:18 pm

RET79 a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Ret, i ateb dy gwestiwn, mi fyddai mewn theori yn well gennyf i fyw o dan unben fyddai'n trin pawb yn deg, ac yn trin gwledydd eraill yn deg, na byw mewn democratiaeth sy'n sarnu ar bawb arall ac yn ymarfer imperialaeth rhemp sy'n arwain y byd i ddinistr. Gan dy fod yn hoffi delio a'r theoris yma.


Ti wedi dangos yn fan hyn fod ti ddim yn hoff o ddemocratiaeth.

Naddo dio heb.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan RET79 » Gwe 21 Mai 2004 10:46 pm

Sioni, enwa unben teg, sy'n trin pawb yn deg, sy'n trin gwledydd eraill yn deg. Dyw Sion Corn ddim yn cyfri , ok?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan pogon_szczec » Gwe 21 Mai 2004 10:50 pm

Dan Dean a ddywedodd:
pogon_szczec a ddywedodd:Mae'r boi jyst yn rong.

Chile yw gwlad mwyaf gyfoethog De Amerig.

Nicaragua yn pleidleisio dros pleidiau adain dde yn gyson.

Mae Fietnam, lle enillodd yr ochr rong, yn economic basket case sy'n troi at gyfalafiaeth yn gleu.

Tase'r Americanwyr wedi enill yn Fietnam, efallai base eu dinasyddion yn enill pum gwaith yn fwy.

Os yw'r Iraciaid ishe dyfodol gwell, i gyd sy ishe arnyn nhw yw peidio a gwrthsefyll y coalisiwn.


Da ni di bod trw hyn o blaen do :rolio:

Am Chile, oedd yn son am y coup yn 1973, nid sdad economaidd y wlad heddiw.

Am Nicaragua, oedd yn son am y CIA yn helpu'r Contras yn ystod y 1980s.

Ti'n meddwl mai'r UDA oedd yr ochor iawn yn y rhyfel Fietnam. Hmmmm... :rolio:

"Peidio gwrthsefyll yn erbyn y coalisiwn". Gan gofio bod nhw newydd fomio'r cachu allan o briodas cyfan(ymysg llawer o betha erill), ti'n disgwl i'r Iraciaid beidio gwrthsefyll?


Llwyddon nhw yn Chile a Nicaragua, a mae'r trigolion yn well off, fethon nhw yn Fietnam, a mae'n nhw'n waeth off.

Cymhara De Gorea/Gog Gorea, Tsieina/Taiwan, Fietnam, Cambodia, Laos/Malaysia, Singapore, Thailand, Gwlad Groeg/ Albania

Lle mae'r Unol Daleithiau/Prydain/y Gorllewin wedi trechu'r cochion maen nhw'n well off na'r gwledydd lle maen nhw wedi methu i'w gwneud.

Do, dyn ni di bod twy hyn i gyd o'r blaen, ond ni all dy wenogluniau guddio'r ffaith dy fod yn rong y tro diwetha.

Gobeithio bydd y lliwiau yn dy helpu ddeall y byd rhywfaint.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron