Tudalen 2 o 19

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:14 pm
gan Garnet Bowen
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Yr hyn sy'n fwy trist ydi ymateb "rhesymol" GDG a Sioni Size. Wancars.


Beth? Beth sy'n 'afresymol' am fy ymateb i? Dweud ydw i fy mod i'n falch bod Iraciaid cyffredin yn dangos nag y'n nhw'n fodlon plygu drosodd i America a gweud 'Dyma ni, cymerwch ein rhyddid a chroeso'. Fe wned i anghytuno a chlodfori marwolaethau Americanwyr, gan fy mod i yn erbyn rhyfel yn gyffredinol, ac felly'n credu na ddylen nhw fod yno yn y lle cynta' i gael eu lladd. Piss of home, America, s'neb moyn chi 'na.

A phaid a'm galw yn 'wancar' os gweli di'n dda. Os wyt ti am ddechre bod yn bersonol, gallwn ni ddilyn y trywydd hwnnw a chroeso, ond gwell fyddai gen i gadw at y mater dan sylw.


"Rhesymol" ddeudis i. Tydi di safbwynt di ("falch bod yr Iraciaid yn brwydro nol") yn ddim gwahanol i Arabiata, mae o jysd yn trio swnio fel ei fod o. Canlyniad yr Iraciaid yma yn "brwydro nol" ydi tramorwyr yn cael eu lladd.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:18 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
I ddefnyddio geiriau fy nghyd-frwydrwr:

Sioni Size a ddywedodd:Sut ti'n meddwl fod teuluoedd y 66,000 o iraciaid sydd wedi eu lladd yn uniongyrchol o'r rhyfel yn teimlo (55,000 o 'filwyr').

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:23 pm
gan Panom Yeerum
Y peth yw, cyn y rhyfel roeddwn yn anghytuno yn llwyr, ond mae wedi digwydd nawr - ac er na yr oll a ddarganfu oedd claddfeudd enfawr roedd angen i Saddam fynd. Eniwe, gan bod yr americanwyr (a prydain, abaen, denmarc, china..a.y.b) os buasent yn gadael nawr (h.y. cyn bod llywodraeth cyflawn wedi ei sefydlu a tra mae'r wlad yn ansefydlog) fe fuasai rhyfel cartref enfawr! Rhaid aros yno nawr i geisio helpu ail-adeiladu y wlad, y peth dwi'n ei ofni yw y bydd Vietnam arall (h.y. mwy a mwy yn cael eu gyrru i fewn i wlad nad ydynt yn gwybod amdani, a chydig wrth chydig bydd yr iraciaid yn ennill) rhaid iddynt bod yn ofalus a gwylio y gwledydd megis syria ac afghanistan.

Ond barn yw'r uchod a dwi'n siwr bydd llawer o anghytuno!

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:36 pm
gan Dielw
Felly mae'r logic mai'r mwyaf o drafferth gaiff America yn Irac y mwyaf o lonydd gaiff trigolion y gwledydd eraill yn dal dwr.


Mae'r logic yna'n gywir.

Lle mae dy logic di yn mynd o'i le yw efallai nad yw trigolion gwledydd eraill yn rhy hoff o'r llonydd hwnnw - i gael eu dienyddio, eu treisio, a'u lladd gan llywodraethau eu hunain.

Does na byth du na gwyn dim ond llwyd, a sa fo'n dda gweld rhai ohonoch chi'n deall hynny. :rolio:

da iawn

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:41 pm
gan Arabiata
hmm atebion diddorol. da iawn blantos, 10 allan o 10. Arbrawf lwyddiannus iawn os ga'i ddweud fy hun heb frolio ynte. Ond ceisiwch beidio mynd yn bersonol yn y wers nesa, ond fodd bynnag dalied ati.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:56 pm
gan Panom Yeerum
dwi'n meddwl bod angen dweud un peth eto...
Dielw a ddywedodd:Twat

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:56 pm
gan Dielw
Arbrawf lwyddiannus iawn os ga'i ddweud fy hun heb frolio ynte.

Wedi golygu

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 1:57 pm
gan Dielw
Neu be ma Panom di deud.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 2:38 pm
gan Cardi Bach
[llai o arbrofion a mwy o feddwl cyn ymateb os gwelwch yn dda. Mae hyn yn gwneud gwaith gweiyddu yn ddiflas ac yn fwrn. - gweinyddwr]

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 2:43 pm
gan Cardi Bach
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n cymeryd mai trio bod yn ddadleuol mae Arabiata, er mwyn i pawb feddwl ei fod o'n rebal bach beiddgar. Yr hyn sy'n fwy trist ydi ymateb "rhesymol" GDG a Sioni Size. Wancars.


Siwd ma nhw'n 'wancars' Garnet?
Falle fod rhywrai YN cefnogi lladd Americaniad yn Irac - colateral damage rhyfel ayb (nid fod Sioni na GDG nac eraill wedi datgan hynny).
Beth sydd mor wahanol rhwng hynny a lladd Iraciaid?
A yw e'n iawn lladd Arab ond ddim Americanwr?
A yw bywyd Americanwr yn werth fwy na un Arab?
Nid trwy sarhau a galw enwau mae ennill rhywun drosodd i ffordd arbennig o feddwl. mae hyd yn oed llai o siawns nawr nag oedd cynt y bydd Sioni yn ffeindio tir cyffredin a thi Garnet.

Mae'r holl beth yn drist. Mae'n drist fod byddin America yno yn y lle cynta i gael eu lladd.
Mae'n drist fod pobl Irac yn teimlo mae dim ond trwy ryfela a lladd y gallan nhw gyflawni eu hamcanion gwleidyddol...ond weyn, oes syndod yn hynny? Achos dyma'r arweiniad a esiampl mae nhw wedi cal wrth brif bwer mwyaf 'goleuedig' a 'diwyyliedig' ein dydd :rolio: