Tudalen 18 o 19

PostioPostiwyd: Sad 22 Mai 2004 1:08 pm
gan Cwlcymro
Yn hollol, dyna sy'n gwneud petha gymaint gwaeth, yr agwedd 'Dim bai ni ydi dim byd' ma.
'Bad things happen in war....this is just another of them' oedd esboniad y General oedd yn gyfrifol am y lladd. Mi ddudodd o mae grwp o 'foreign fighters' oedd y parti priodas. Ei dystiolaeth o am hyn oedd

1. Mi oeddna gwpwl efo passborts Sudan
2. Mi oddna ynnau yna
3. Mi oddna ffon lloeren yna.

1.Gan fod y pentra 10 milltir o Sudan, dio'm yn sioc fodna rei pobl Sudaneese yna

2. Ma gan bron pob ty yn Irac ynnau, yn enwedig rhai mewn pentrefi anhysgbell (fel hwn)

3. Mi oedd y dre nesa 80 milltir i ffwrdd, a does na ddim system ffon weiren yna, mae ffonau lloeren yn rad iawn yn Irac ac, eto, yn gyffredin mewn pentrefi anghysbell.

Gan fod 20 allan o'r 40 farwodd yn genod a plant, a dau o'r meirw, yr unig rai oedd ddim yn lleol, yn 'Wedding Singers' enwog, dwi'n meddwl ELLA fod gan America ychydig mwy o esbonio i wneud!

PostioPostiwyd: Sad 22 Mai 2004 1:31 pm
gan Dan Dean
A digwyddodd yr union yr un peth yn Affganistan. Mewn lle nad oedd y Taliban na Al-Quaida yn ei rheoli. Dal heb cal esgus call o pam nath o ddigwydd.


Clic clic

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 3:45 pm
gan Sioni Size
Dyda chi'm yn gweld y darlun mawr bois. Mae'n amlwg fod Iraciaid yn cael bywyd llawer gwell ar ol i America eu rhyddhau. Ni wnaiff rhyw drychinebau dyddiol felma newid dim ar hynna.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 5:55 pm
gan RET79
Sioni Size a ddywedodd:Dyda chi'm yn gweld y darlun mawr bois. Mae'n amlwg fod Iraciaid yn cael bywyd llawer gwell ar ol i America eu rhyddhau. Ni wnaiff rhyw drychinebau dyddiol felma newid dim ar hynna.


Fuasai trychinebau llawer gwaeth yn digwydd os buasai Saddam mewn grym yn adeiladu arfau gwaeth trwy'r amser.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 5:58 pm
gan Dan Dean
RET79 a ddywedodd:Saddam mewn grym yn adeiladu arfau gwaeth trwy'r amser.

Sa ddim prawf o hynnu, a ti'n gwbod hynnu'n iawn.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 5:59 pm
gan RET79
Dan Dean a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Saddam mewn grym yn adeiladu arfau gwaeth trwy'r amser.

Sa ddim prawf o hynnu, a ti'n gwbod hynnu'n iawn.


Ti'n eitha naif Dan Dean.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:04 pm
gan Dan Dean
RET79 a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Saddam mewn grym yn adeiladu arfau gwaeth trwy'r amser.

Sa ddim prawf o hynnu, a ti'n gwbod hynnu'n iawn.


Ti'n eitha naif Dan Dean.


Ooo, sori RET boi, chdi sydd yn iawn. MAE na brawf sa Saddam wedi adeiladu "arfau gwaeth drwy'r amser" sa fo dal mewn pwer. Dyna ti'n feddwl? :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:14 pm
gan RET79
Dan Dean a ddywedodd:Ooo, sori RET boi, chdi sydd yn iawn. MAE na brawf sa Saddam wedi adeiladu "arfau gwaeth drwy'r amser" sa fo dal mewn pwer. Dyna ti'n feddwl? :rolio:


Be, ti'n meddwl fod Saddam wedi dweud "da ni ddim angen mwy o arfau, mae ganddom ni ddigon fel mae hi"? Roedd y boi'n evil, roedd o'n testio arfau ar ei bobl ei hun. Dyw person felna hefo'i record o ddim i'w drystio. Pam fod o'n chwarae o gwmpas hefo'r weapon inspectors ta? Ti'n hynod o naif ac anaeddfed. Mae'r bygythiad gan bobl felma yn ein byd yn real, ddim gem compiwtar yw hi. Tyfa fyny plis.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:25 pm
gan Dan Dean
RET a ddywedodd:Pam fod o'n chwarae o gwmpas hefo'r weapon inspectors ta?

Oedd o'n meddwl bod yr UDA yn cymud mantais o'r inspections drwy ysbiio.

Mae'r bygythiad gan bobl felma yn ein byd yn real, ddim gem compiwtar yw hi.

Doedd o ddim yn fygythaid i'r byd, nid oedd ganddo'r gallu fod yn fygythiad i'r byd. Nid ydynt wedi ffendio dim byd. O, do. Un shell rhydlyd hefo chydig o sarin ynddo. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 9:14 am
gan GT
Darllen stori anhygoel yn y Guardian bore ma, sef bod yr hyn a elwir yn American Intelligence yn ceisio rhoi'r bai ar yr Iraniaid am eu twyllo i fynd i ryfel. Clywed ar y radio ar yr un pryd bod polau piniwn yn yr UDA yn rhoi 41% i Bush a 49% i Kerry.

Onid y gwir ydi bod yr olwynion yn syrthio oddi ar y wagen, ac mewn blwyddyn bydd Kerry yn arlywydd, Brown yn Brif Weinidog, yr UDA a Phrydain wedi ei heglu hi, a Garnet Bowen druan yn gorfod mynd i Irac i sortio'r llanast allan ei hun?