Tudalen 3 o 19

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 2:44 pm
gan Sioni Size
Dielw

Lle mae dy logic di yn mynd o'i le yw efallai nad yw trigolion gwledydd eraill yn rhy hoff o'r llonydd hwnnw - i gael eu dienyddio, eu treisio, a'u lladd gan llywodraethau eu hunain.


Felly os yw America, gwlad sy'n gyfrifol am ei siar o ddienyddio a lladd o werin bobl y byd a chynnal llywodraethau 'compliant' sy'n parhau i wneud, yn medru darbwyllo ei thrigolion, a thrigolion y darn hwnnw ohoni sy'n cael ei alw'n Brydain, fod y wlad nesa'n un drwg, yna chocs away, shock and awe, agor marchnadoedd ac ailadeiladu amdani.

Briliant.

http://www.zmag.org/weluser.htm
treulia hanner awr ar hwnna.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 2:46 pm
gan Sioni Size
"A yw bywyd Americanwr yn werth fwy na un Arab?"
Ni wnaiff Garnet gydnabod y ffasiwn beth, ond yr ateb cywir ydi wrth gwrs ei fod o.
Wedi'r cyfan, mae americanwyr yn rhydd.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 2:57 pm
gan Chwadan
Cardi Bach a ddywedodd:Mae'r holl beth yn drist. Mae'n drist fod byddin America yno yn y lle cynta i gael eu lladd.
Mae'n drist fod pobl Irac yn teimlo mae dim ond trwy ryfela a lladd y gallan nhw gyflawni eu hamcanion gwleidyddol...ond weyn, oes syndod yn hynny? Achos dyma'r arweiniad a esiampl mae nhw wedi cal wrth brif bwer mwyaf 'goleuedig' a 'diwyyliedig' ein dydd

Cytuno, ma'n drist iawn. A ma'n dristach fyth fod unrhywun yn meddwl fod bywyd yn gallu bod yn werth mwy yn ôl pa genedl ydach chi :(

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 4:13 pm
gan Ramirez
Garnet Bowen a ddywedodd:"Rhesymol" ddeudis i. Tydi di safbwynt di ("falch bod yr Iraciaid yn brwydro nol") yn ddim gwahanol i Arabiata, mae o jysd yn trio swnio fel ei fod o. Canlyniad yr Iraciaid yma yn "brwydro nol" ydi tramorwyr yn cael eu lladd.


Mae hynna'n ymylu ar fod y peth mwya ffycin stiwpid dwi erioed wedi ei ddarllen. Ar Faes-E neu unrhywle.

Os mai canlyniad yr Iraciaid yn brwydro nol ydi tramorwyr yn cael eu lladd, tyff shit, os dy nhw ddim isho hyn mae America yn drio neud, yna mae nhw'n MYND i frwydro nol- mi fasa ti'n brwydro'n ol tasa rhywun yn trio dwyn pob dim sydd genit y basat? Ta fasa ti jysd yn mynd "Duw, dim otsh, ma di digwydd, naim gwneud dim byd am yr hen leidr druan, rhag ofn iddo fo gael ei frifo"? Y gwir ydi mi fasati am ei waed o. Ti'n disgwl iddynw isda lawr a chadw eu gwylltineb tu mewn iddynw rhag ofn iddynw ladd Americanwyr? Fuckin hel, milwyr Americanaidd ydynw, ma nhw di ymuno a'r fyddin, ma nhw'n barod i ladd, ac yn derby y gallan nhw gael eu lladd. Dydi deud "Da iawn am ladd yr Americanwyr" a dweud "Da iawn am sefyll i fyny a brwydro 'nol" ddim yr un peth o gwbwl. Wrth, mae'n wahanol pan mae'r Iancs yn lladd yr Iraciaid yn enw rhyddid, yn tydi?

Iesu goc.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 4:20 pm
gan RET79
Trist gweld plantos bach rebeliys ar y maes yn dod allan i chwarae drwy chwerthin ar bobl sydd wedi colli eu bywyd wrth drio dod a heddwch, trefn a rhyddid i bobl Irac.

Diolchwch fod gennych chi'r hawl i ddweud pethau felna o gwbl, fuasai gennych ddim yn Irac o dan Saddam.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2004 6:14 pm
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:Trist gweld plantos bach rebeliys ar y maes yn dod allan i chwarae drwy chwerthin ar bobl sydd wedi colli eu bywyd wrth drio dod a heddwch, trefn a rhyddid i bobl Irac.


I'r gwrthwyneb, dw i'n siwr bod pawb yma yn gallu uniaethu efo dy dristwch dros y rhai sydd wedi marw yn enw annibyniaeth a rhyddid rhag gormes yn Irac. Ond be uffar sydd a wnelo hynny, mewn gwirionedd, efo'r milwyr Americanaidd a'r hurfilwyr sydd wedi'i chael hi yn ystod yr wythnosau diwetha? Mae'n bosib bod chdi'n dangos rhyw ddawn ryfeddol at eironi yma, ond dw i'n rhyw amau bod chdi jest yn hollol ffecin gibddall i be mae amddiffynwyr democratiaeth wedi bod yn ei wneud yn y wlad, yn enwedig yn ystod yr wythnosau diwetha.

RET79 a ddywedodd:Diolchwch fod gennych chi'r hawl i ddweud pethau felna o gwbl, fuasai gennych ddim yn Irac o dan Saddam.


Nac o dan Bremer chwaith, wrth gwrs.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 9:18 am
gan Garnet Bowen
Ramirez a ddywedodd:
Mae hynna'n ymylu ar fod y peth mwya ffycin stiwpid dwi erioed wedi ei ddarllen. Ar Faes-E neu unrhywle.


Ti'n rhy garedig.

Ramirez a ddywedodd:Os mai canlyniad yr Iraciaid yn brwydro nol ydi tramorwyr yn cael eu lladd, tyff shit, os dy nhw ddim isho hyn mae America yn drio neud, yna mae nhw'n MYND i frwydro nol-


Dadl dros yr hawl i ddefnyddio trais fel arf gwleidyddol ydi hon, a fedrai ddim cytuno efo chdi. Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio tor-cyfraith i fynegi eu hunain yn wleidyddol pan nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall o fynegi eu hunain. Ond nid dyna sy'n digwydd yn Irac heddiw. Nid "protest" dreisgar ydi hon. Mae'r Americanwyr yn barod wedi datgan eu bod nhw'n trosglwyddo grym yn ol i'r Iraciaid ymhen llai na deufis. Mae nhw yn barod wedi penodi dyddiad ar gyfer cynnal etholiadau. Mae gan Iraciaid yr hawl i fynegi eu barn yn wleidyddol, heb orfod defnyddio trais. Toes gan y "gwrthryfel" yma ddim math o legitmacy. Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y trais yn perthyn i leiafrifoedd bychain sy'n sylweddoli y byddai trefn ddemocrataidd yn eu gadael nhw mewn safle gwan, a felly mae nhw'n ceisio tanseilio sefydlu'r drefn hono, er mwyn dal gafael ar eu grym presenol.

Tasa gan y bobl yma ddim modd arall o fynegi eu hunain, mi fyswn i'n medru deallt pam eu bod nhw'n troi at drais. Ond fel mae petha yn sefyll, fedri di ddim cyfiawnhau'r trais ddim mwy nac y byswn i'n medru cyfiawnhau ymgyrch fomio yng Nghymru am fy mod i'n rhy ddi-amynedd i ddisgwyl tan etholiad cyffredinol 2005.

Ramirez a ddywedodd: Dydi deud "Da iawn am ladd yr Americanwyr" a dweud "Da iawn am sefyll i fyny a brwydro 'nol" ddim yr un peth o gwbwl.


Wrth gwrs ei fod o. Nid Nelson Mandela yn malu peilons, neu Feibion Glyndwr yn llosgi tai haf gwag ydi'r bobl yma. Mae nhw'n mynd ati yn fwriadol i geisio lladd tramorwyr, boed y rheini'n filwyr neu beidio.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 9:24 am
gan Macsen
Panom Yeerum a ddywedodd:
Dielw a ddywedodd:
Mae clywed am farwolaethau milwyr yr UD neu apache yn syrthio yno yn llonni calon rhywun


Twat.
Cytunaf â fy nghytundeb mwyaf!


Trydyddiaf.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 9:27 am
gan Hernan Rodriguez
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n cymeryd mai trio bod yn ddadleuol mae Arabiata, er mwyn i pawb feddwl ei fod o'n rebal bach beiddgar. Yr hyn sy'n fwy trist ydi ymateb "rhesymol" GDG a Sioni Size. Wancars.

Be gas gena i ydi bobl sydd wastad yn trio gneud allan pa mor resymol a eangfrydig ydi nhw yn gorfod troi at alw enwau - hollol bathetic. Dos nol i'r iard.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 10:51 am
gan Sioni Size
RET79 a ddywedodd:Trist gweld plantos bach rebeliys ar y maes yn dod allan i chwarae drwy chwerthin ar bobl sydd wedi colli eu bywyd wrth drio dod a heddwch, trefn a rhyddid i bobl Irac.

Diolchwch fod gennych chi'r hawl i ddweud pethau felna o gwbl, fuasai gennych ddim yn Irac o dan Saddam.


Felly Ret. Fysa gen ti ddim hawl yn Irac dan Saddam i ddeud dy fod eisiau i America gael cweir.

Ac yn gyffredinol, mae rhai yma yn dweud felly nad oes hawl gan bobl Falluja i amddiffyn eu hunain. Garnet, dwyt ti'n ddim byd ond propagandydd oherwydd mae'n amlwg dy fod yn gwybod yn iawn fod milwyr Amercia wedi lladd cannoedd o blant a merched a hen bobl yn Falluja yn y pythefnos ddwytha'n unig, fel dial am y 4 parafilwr American oedd ynddo'i hun yn ddial am sweep gan yr americans wythnosau ynghynt. Americans yn bwysicach nag eraill eto.