Tudalen 4 o 19

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 10:55 am
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:Dadl dros yr hawl i ddefnyddio trais fel arf gwleidyddol ydi hon, a fedrai ddim cytuno efo chdi. Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio tor-cyfraith i fynegi eu hunain yn wleidyddol pan nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall o fynegi eu hunain. Ond nid dyna sy'n digwydd yn Irac heddiw. Nid "protest" dreisgar ydi hon. Mae'r Americanwyr yn barod wedi datgan eu bod nhw'n trosglwyddo grym yn ol i'r Iraciaid ymhen llai na deufis. Mae nhw yn barod wedi penodi dyddiad ar gyfer cynnal etholiadau. Mae gan Iraciaid yr hawl i fynegi eu barn yn wleidyddol, heb orfod defnyddio trais. Toes gan y "gwrthryfel" yma ddim math o legitmacy. Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y trais yn perthyn i leiafrifoedd bychain sy'n sylweddoli y byddai trefn ddemocrataidd yn eu gadael nhw mewn safle gwan, a felly mae nhw'n ceisio tanseilio sefydlu'r drefn hono, er mwyn dal gafael ar eu grym presenol.

Tasa gan y bobl yma ddim modd arall o fynegi eu hunain, mi fyswn i'n medru deallt pam eu bod nhw'n troi at drais. Ond fel mae petha yn sefyll, fedri di ddim cyfiawnhau'r trais ddim mwy nac y byswn i'n medru cyfiawnhau ymgyrch fomio yng Nghymru am fy mod i'n rhy ddi-amynedd i ddisgwyl tan etholiad cyffredinol 2005.




Mae'r Americanwyr wedi defnyddio trais aruthrol i fachu be wyt ti, am ryw reswm, yn ei ystyried yn rheolaeth ddilys dros y wlad. Maen nhw'n defnyddio trais i orfodi eu hewyllys ar bobl y wlad (gan gyfiawnhau hynny drwy fynnu bod yr holl Iraciaid sydd ddim yn plygu glin gerbron eu meistri tramor newydd yn deroristiaid ac yn dargedau teilwng i chwanag o drais), gan dargedu sifiliaid yn ddiedifar.

Yn y cyfamser, mae papurau newydd sy'n beirniadu'r drefn newydd wedi cael eu cau. Mae protestwyr di-drais wedi cael eu saethu yn farw. Mae degau o filoedd o Iraciaid wedi'u carcharu yn ôl mympwy'r awdurdodau.

A dyna chdithau'n doethinebu'n nawddoglyd o blaned arall am droi at sianelau priodol ar gyfer mynegi barn wleidyddol yn hytrach na defnyddio trais. Unwaith eto yn darllen yn syth o sgript y goresgynwyr. Trist iawn, a dweud y lleiaf.

Mae'r Iraciaid isio rheolaeth dros eu gwlad eu hunain, ac mae'n amlwg bod rhai ohonyn nhw'n ddigon hirben i sylweddoli na fydd rhyw sioe etholiadau wedi'i rhedeg yn unol â chanllawiau'r Americanwyr ddim yn cyflawni hynny yn ystyrlon.

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae nhw'n mynd ati yn fwriadol i geisio lladd tramorwyr, boed y rheini'n filwyr neu beidio.


Gwrthun, tydi, yn wyneb y ffasiwn ymddygiad enghreifftiol gan eu gelynion.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 11:10 am
gan Garnet Bowen
Owain Llwyd a ddywedodd:
Mae'r Americanwyr wedi defnyddio trais aruthrol i fachu be wyt ti, am ryw reswm, yn ei ystyried yn rheolaeth ddilys dros y wlad. Maen nhw'n defnyddio trais i orfodi eu hewyllys ar bobl y wlad


Mae nhw wedi defnyddio trais i sicrhau rheolaeth dros-dro ar y wlad, gan weithio i sefydlu system fydd yn gadael i ewyllys pobol gyffredin Irac lywio polisi yn y wlad am y tro cyntaf ers bron i hanner canrif.

Owain Llwyd a ddywedodd:Yn y cyfamser, mae papurau newydd sy'n beirniadu'r drefn newydd wedi cael eu cau. Mae protestwyr di-drais wedi cael eu saethu yn farw. Mae degau o filoedd o Iraciaid wedi'u carcharu yn ôl mympwy'r awdurdodau.


Mae 'na un papur newydd wedi ei gau, am annog trais yn erbyn y milwyr. A tydi hyn ddim yn beth anarferol - mae cyfreithiau ynglyn a annog trais yn rheoli ein papurau newydd ni, a phob gwlad rydd arall. Ac er fod 'na un papur wedi ei gau, mae 'na dros 150 arall yn bodoli.

Owain Llwyd a ddywedodd:Mae'r Iraciaid isio rheolaeth dros eu gwlad eu hunain, ac mae'n amlwg bod rhai ohonyn nhw'n ddigon hirben i sylweddoli na fydd rhyw sioe etholiadau wedi'i rhedeg yn unol â chanllawiau'r Americanwyr ddim yn cyflawni hynny yn ystyrlon.


Mae'r Iraciaid yn mynd i gael rheolaeth dros eu gwlad eu hunain, yn fuan iawn. Nid cyflymu'r broses yma ydi amcan y gwrthryfelwyr, ond ei thanseilio hi. A pam dy fod di'n meddwl mai "sioe etholiad" fydd 'na? Mae'r cyfansoddiad drafft yn un hynod o flaengar, yn sicrhau hawliau cyfartal i bawb. Os ydi'r cyfansoddiad terfynnol yn debyg, mi fydd gan Irac y system decaf o lywodraeth yn y dwyrain canol i gyd. Sut mae hyn yn ffitio i mewn efo dy "sioe" di?

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 11:59 am
gan Ramirez
Garnet Bowen a ddywedodd:Dadl dros yr hawl i ddefnyddio trais fel arf gwleidyddol ydi hon, a fedrai ddim cytuno efo chdi. Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio tor-cyfraith i fynegi eu hunain yn wleidyddol pan nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall o fynegi eu hunain. Ond nid dyna sy'n digwydd yn Irac heddiw. Nid "protest" dreisgar ydi hon. Mae'r Americanwyr yn barod wedi datgan eu bod nhw'n trosglwyddo grym yn ol i'r Iraciaid ymhen llai na deufis. Mae nhw yn barod wedi penodi dyddiad ar gyfer cynnal etholiadau. Mae gan Iraciaid yr hawl i fynegi eu barn yn wleidyddol, heb orfod defnyddio trais. Toes gan y "gwrthryfel" yma ddim math o legitmacy. Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y trais yn perthyn i leiafrifoedd bychain sy'n sylweddoli y byddai trefn ddemocrataidd yn eu gadael nhw mewn safle gwan, a felly mae nhw'n ceisio tanseilio sefydlu'r drefn hono, er mwyn dal gafael ar eu grym presenol.

Tasa gan y bobl yma ddim modd arall o fynegi eu hunain, mi fyswn i'n medru deallt pam eu bod nhw'n troi at drais. Ond fel mae petha yn sefyll, fedri di ddim cyfiawnhau'r trais ddim mwy nac y byswn i'n medru cyfiawnhau ymgyrch fomio yng Nghymru am fy mod i'n rhy ddi-amynedd i ddisgwyl tan etholiad cyffredinol 2005.


O reit. Diolch am glirio hynna i fyny. Felly mae nhw jysd yn cwffio'n ol am laff?

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 12:08 pm
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:
Mae'r Americanwyr wedi defnyddio trais aruthrol i fachu be wyt ti, am ryw reswm, yn ei ystyried yn rheolaeth ddilys dros y wlad. Maen nhw'n defnyddio trais i orfodi eu hewyllys ar bobl y wlad


Mae nhw wedi defnyddio trais i sicrhau rheolaeth dros-dro ar y wlad, gan weithio i sefydlu system fydd yn gadael i ewyllys pobol gyffredin Irac lywio polisi yn y wlad am y tro cyntaf ers bron i hanner canrif.


Mater o ffydd ddall yn natganiadau ein harweinwyr ar dy ran di ydi hwn. Mae rhyw $300 biliwn o fuddsoddiad gan yr Americanwyr yn yr holl fusnes yma (hyd yma) yn dweud bydd unrhyw 'ryddid' honedig i Iraciaid drefnu materion yn eu gwlad eu hunain yn hollol compromised gan fuddiannau'r goresgynwyr. Os wyt ti'n amau hynny, mae'n ddigon hawdd gweld be ddigwyddodd y tro diwetha i lywodraeth etholedig yn Irac beidio â dilyn y drefn.

Wrth gwrs, mae'n sylfaenol anodd i bobl gyffredin neu eu cynrychiolwyr etholedig fod efo rheolaeth ystyrlon dros unrhyw beth o bwys sydd mewn dwylo preifat, ond mater ehangach ydi hynny.

Garnet Bowen a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Yn y cyfamser, mae papurau newydd sy'n beirniadu'r drefn newydd wedi cael eu cau. Mae protestwyr di-drais wedi cael eu saethu yn farw. Mae degau o filoedd o Iraciaid wedi'u carcharu yn ôl mympwy'r awdurdodau.


Mae 'na un papur newydd wedi ei gau, am annog trais yn erbyn y milwyr. A tydi hyn ddim yn beth anarferol - mae cyfreithiau ynglyn a annog trais yn rheoli ein papurau newydd ni, a phob gwlad rydd arall. Ac er fod 'na un papur wedi ei gau, mae 'na dros 150 arall yn bodoli.


Mi oedd y papur yn annog trais yn erbyn lluoedd gelyniaethus o wlad arall. Os ydi hynny'n agwedd dderbyniol ar ryddid y wasg ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau, pa reswm dros warafun hynny i'r Iraciaid?

Sut mae'r saethu ar brotestwyr di-drais a'r carcharu mympwyol yn cyd-fynd efo dy syniadau dithau am y broses ddemocrataidd?

Garnet Bowern a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Mae'r Iraciaid isio rheolaeth dros eu gwlad eu hunain, ac mae'n amlwg bod rhai ohonyn nhw'n ddigon hirben i sylweddoli na fydd rhyw sioe etholiadau wedi'i rhedeg yn unol â chanllawiau'r Americanwyr ddim yn cyflawni hynny yn ystyrlon.


Mae'r Iraciaid yn mynd i gael rheolaeth dros eu gwlad eu hunain, yn fuan iawn. Nid cyflymu'r broses yma ydi amcan y gwrthryfelwyr, ond ei thanseilio hi. A pam dy fod di'n meddwl mai "sioe etholiad" fydd 'na? Mae'r cyfansoddiad drafft yn un hynod o flaengar, yn sicrhau hawliau cyfartal i bawb. Os ydi'r cyfansoddiad terfynnol yn debyg, mi fydd gan Irac y system decaf o lywodraeth yn y dwyrain canol i gyd. Sut mae hyn yn ffitio i mewn efo dy "sioe" di?


Taset ti'n gallu awgrymu trafodaethau o destun y cyfansoddiad drafft, mi fyswn i'n ddiolchgar iawn.

O ran y "sioe etholiad", gweler uchod. Fel mae'n digwydd, dw i'n tueddu i feddwl mae "sioe etholiad" sydd gynnon ni ym Mhrydain - yn yr ystyr 'fod o'n rhoid yr argraff gamarweiniol i bobl fod gynnyn nhw ddylanwad ystyrlon dros weithredu pwer yn eu gwlad eu hunain, ond eto, mater arall ydi hynny.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 12:09 pm
gan Sioni Size
Ti'm yn darllen y papurau Ramirez? Mae nhw'n ymladd yn ol am eu bod nhw'n casau rhyddid.

Toes gan y "gwrthryfel" yma ddim math o legitmacy.


Mae'n rhaid edmygu'r boi ma.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 12:58 pm
gan Garnet Bowen
Ramirez a ddywedodd:O reit. Diolch am glirio hynna i fyny. Felly mae nhw jysd yn cwffio'n ol am laff?


Wel, mae hi'n anodd iawn gwybod pwy yn union sy'n cwffio, a pham, ond mae posib cynnig theori. Dwi'n credu fod trigolion Sunni Falujia yn casau'r Americanwyr am eu bod nhw wedi bod yn leiafrif hynod o ddylanwadol o dan Saddam, a mae nhw'n poeni be ddigwyddith iddyn nhw o dan y drefn newydd. Ac mae ffwndamentalwyr fel Al Sadr yn ymladd am eu bod nhw'n gwybod nad oes ganddyn nhw fawr o obaith o enill grym drwy etholiadau teg, felly mae nhw'n defnyddio'r gwn a'r bom i danseilio'r system lywodraethol fregus sy'n cael ei sefydlu.

Wrth gwrs, mae na bobl eraill sy'n cael eu tynnu i mewn am amryw o resymau eraill, ond dwi'n meddwl mai'r elfennau uchod sydd wrth wraidd y broblem.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 1:04 pm
gan Garnet Bowen
Owain Llwyd a ddywedodd:
Mater o ffydd ddall yn natganiadau ein harweinwyr ar dy ran di ydi hwn. Mae rhyw $300 biliwn o fuddsoddiad gan yr Americanwyr yn yr holl fusnes yma (hyd yma) yn dweud bydd unrhyw 'ryddid' honedig i Iraciaid drefnu materion yn eu gwlad eu hunain yn hollol compromised gan fuddiannau'r goresgynwyr. Os wyt ti'n amau hynny, mae'n ddigon hawdd gweld be ddigwyddodd y tro diwetha i lywodraeth etholedig yn Irac beidio â dilyn y drefn.

Wrth gwrs, mae'n sylfaenol anodd i bobl gyffredin neu eu cynrychiolwyr etholedig fod efo rheolaeth ystyrlon dros unrhyw beth o bwys sydd mewn dwylo preifat, ond mater ehangach ydi hynny.


Dwi'n meddwl ei bod hi'n anodd iawn i ni gael unrhyw fath o drafodaeth go iawn am hyn, am ddau reswm. Y cyntaf ydi am na fydd yr etholiadau yn cael eu cynnal am tua blwyddyn arall, felly heb weld be ddigwyddith adeg hynny, mae hi'n amhosib i'r un ohona ni fod yn "iawn". Dwi'n gobeithio y bydda nhw'n lwyddianus - yn deg ac yn agored, wedi eu goruwchwylio gan gorff rhyngwladol cydnabyddiedig - ac mi wyt ti yn ffyddiog eu bod nhw am fethu. Mi fydd yn rhaid i'r ddau ohona ni aros i weld pwy sy'n iawn.

Ond yn fwy sylfaenol, mi wyt ti i weld yn argyhoeddedig ei bod hi'n amhosib cael cyfiawnder mewn cyfundrefn ryddfrydol-ddemocrataidd orllewinol. Dwi - fel un sy'n gweld llwyddiannau system o'r fath o'n nghwmpas i bob dydd - yn credu mai dyna'r unig ffordd deg i redeg gwlad. Dwn i ddim os oes posib i ni fedru gytuno ar ddim byd, o ystyried y gwahaniaeth sylfaenol yma yn y ffordd yr ydym ni'n gweld petha.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 1:04 pm
gan Macsen
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n credu fod trigolion Sunni Falujia yn casau'r Americanwyr am eu bod nhw wedi bod yn leiafrif hynod o ddylanwadol o dan Saddam, a mae nhw'n poeni be ddigwyddith iddyn nhw o dan y drefn newydd. Ac mae ffwndamentalwyr fel Al Sadr yn ymladd am eu bod nhw'n gwybod nad oes ganddyn nhw fawr o obaith o enill grym drwy etholiadau teg, felly mae nhw'n defnyddio'r gwn a'r bom i danseilio'r system lywodraethol fregus sy'n cael ei sefydlu.


Mae hyn yn factor yn sicr. Ond debyg mae ysgogiad y pobl ar y top, fel Al Sadr, sy'n tynu'r rhaffau yw hyn, dim gymaint y pobl ar y stryd sy'n cwffio o'i plaid nhw.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 1:47 pm
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl ei bod hi'n anodd iawn i ni gael unrhyw fath o drafodaeth go iawn am hyn, am ddau reswm. Y cyntaf ydi am na fydd yr etholiadau yn cael eu cynnal am tua blwyddyn arall, felly heb weld be ddigwyddith adeg hynny, mae hi'n amhosib i'r un ohona ni fod yn "iawn". Dwi'n gobeithio y bydda nhw'n lwyddianus - yn deg ac yn agored, wedi eu goruwchwylio gan gorff rhyngwladol cydnabyddiedig - ac mi wyt ti yn ffyddiog eu bod nhw am fethu. Mi fydd yn rhaid i'r ddau ohona ni aros i weld pwy sy'n iawn.


Digon teg. Ond dw i'n meddwl bod isio mwy nag etholiadau agored a goruchwylwyr rhyngwladol i sicrhau bod cymdeithas gyfan ar ei hennill. Ond taw am y tro, debyg.

Garnet Bowen a ddywedodd:Ond yn fwy sylfaenol, mi wyt ti i weld yn argyhoeddedig ei bod hi'n amhosib cael cyfiawnder mewn cyfundrefn ryddfrydol-ddemocrataidd orllewinol.


Dw i ddim yn hollol siwr pam wyt ti'n llusgo'r gair 'cyfiawnder' i mewn yma gan 'bod ni wedi bod yn trafod grym hyd yn hyn. Yr unig beth dw i'n ei ddweud ydi bod democratiaeth orllewinol ar ei ffurf bresennol yn cydymffurfio efo tuedd hen iawn, sef bod grym ystyrlon yn nwylo nifer cymharol gyfyngedig o bobl anatebol a bod etholiadau ar eu gwedd bresennol yn llwch i'r llygaid, yn y bôn.

Mae'r Iraciaid yn wynebu dewis eitha syml ar y funud. Naill ai maen nhw'n derbyn dy gyfundrefn ryddfrydol-ddemocrataidd orllewinol yn ei chyfanrwydd yn ddigwestiwn, neu maen nhw'n cael eu difa. Fawr o gyfiawnder yn gysylltiedig efo hynny chwaith, mentrwn innau.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 2:02 pm
gan Garnet Bowen
Owain Llwyd a ddywedodd: Yr unig beth dw i'n ei ddweud ydi bod democratiaeth orllewinol ar ei ffurf bresennol yn cydymffurfio efo tuedd hen iawn, sef bod grym ystyrlon yn nwylo nifer cymharol gyfyngedig o bobl anatebol a bod etholiadau ar eu gwedd bresennol yn llwch i'r llygaid, yn y bôn.


Dyma sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i ni gael trafodaeth gall - tydw i ddim yn cytuno efo'r dadansoddiad yma, a felly mae unrhyw drafodaeth o beth ddylsa gael ei wneud ar lawr gwlad yn cael ei thanseilio gan y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ffordd mae'r ddau ohona ni'n gweld y byd.

Owain Llwyd a ddywedodd:Mae'r Iraciaid yn wynebu dewis eitha syml ar y funud. Naill ai maen nhw'n derbyn dy gyfundrefn ryddfrydol-ddemocrataidd orllewinol yn ei chyfanrwydd yn ddigwestiwn, neu maen nhw'n cael eu difa. Fawr o gyfiawnder yn gysylltiedig efo hynny chwaith, mentrwn innau.


Er, mi fyswn i'n dadlau dy fod ti'n ffeithiol anghywir yn fama. Toes 'na ddim cwestiwn o orfodi system wleidyddol ar Irac. Mi fyswn i'n cydnabod fod 'na bwysa amlwg arnyn nhw o du America, ond yn y pen draw, mae'r penodedig rai yn cael pen rhyddid i lunio eu cyfansoddiad. Wrth gwrs fod 'na broblem gyda phenodi, yn hytrach na ethol, y cynrychiolwyr yma, ond dwi'n meddwl ei fod yn gyfaddawd derbyniol ar hyn o bryd, o ystyried pam mor anodd fyddai cynnal etholiadau yn syth.