Tudalen 5 o 19

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 2:56 pm
gan Sioni Size
Yn stripio'r holl beth i'w elfennau, gan olygu o ymdrechion Garnet i'n borio ni oll i fuddugoliaeth, mae'r ddadl yn dod i hyn.

a) Mae'n gwbl gyfiawn i'r iraciaid ymladd yn ol gan fod America wedi goresgyn eu gwlad er diben meddianu eu hadnoddau naturiol i'w dibenion ac elw, gan dwyllo ac anwybyddu'r gymuned ryngwladol i ymosod ar y wlad a lladd degau ar ddegau o filoedd o'i thrigolion.

neu:

b) Mae'r Iraciaid yn anghyfiawn i ymladd yr Americaniaid oherwydd fod yr americaniaid wedi disodli'r unben ffiaidd Saddam Hussein a rhyddhau'r wlad. Efallai fod America wedi lladd 11,000 o sifiliaid ond mae oll i fudd pobl Irac yn y pendraw.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 3:28 pm
gan Chwadan
Gan anwybyddu'r (:winc:) ffaith fod Sioni yn ymddangos fel petai'n croes-ddeud ei hun:

Sioni Size a ddywedodd:lladd degau ar ddegau o filoedd o'i thrigolion.

Sioni Size a ddywedodd:lladd 11,000 o sifiliaid


gai hefyd ychwanegu fod na ffactora mewnol, h.y. llwythi yn brwydro dros oruchafiaeth, yn drydydd rheswm pam fod y brwydro yn parhau.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 3:40 pm
gan Owain Llwyd
Chwadan a ddywedodd:Gan anwybyddu'r (:winc:) ffaith fod Sioni yn ymddangos fel petai'n croes-ddeud ei hun:

Sioni Size a ddywedodd:lladd degau ar ddegau o filoedd o'i thrigolion.

Sioni Size a ddywedodd:lladd 11,000 o sifiliaid


Mae 'trigolion' yn cynnwys milwyr hefyd, dw i'n cymryd.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:07 pm
gan Sioni Size
Yndi, gan eu bod yn byw yno.

gai hefyd ychwanegu fod na ffactora mewnol, h.y. llwythi yn brwydro dros oruchafiaeth, yn drydydd rheswm pam fod y brwydro yn parhau.

Mi gei di adio hynna os wyt ti isho chwadan, ond dydi o ddim yn wir. Mae pawb yn erbyn America. Mae America yn ceisio cael byddinoedd Iracaidd (sy'n cynnwys llwyth helaeth o gyn-filwyr Saddam Hussein) i gwffio'n erbyn eu cyd-Iraciaid ond maent yn gwrthod.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 6:13 pm
gan RET79
Sioni Size a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Trist gweld plantos bach rebeliys ar y maes yn dod allan i chwarae drwy chwerthin ar bobl sydd wedi colli eu bywyd wrth drio dod a heddwch, trefn a rhyddid i bobl Irac.

Diolchwch fod gennych chi'r hawl i ddweud pethau felna o gwbl, fuasai gennych ddim yn Irac o dan Saddam.


Felly Ret. Fysa gen ti ddim hawl yn Irac dan Saddam i ddeud dy fod eisiau i America gael cweir.

.


Mae bron pawb sydd wedi tyfu allan o'u napis yn gwybod beth oedd gen i dan sylw fan hyn.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 6:16 pm
gan RET79
Sioni Size a ddywedodd:a lladd degau ar ddegau o filoedd o'i thrigolion.


Rwyt ti dal yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng milwyr a phobl ddiniwed.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 6:18 pm
gan RET79
Mae cefnogaeth rhai o'r chwith i'r rebels yn irac yn eitha gwarthus. Beth am hel America adref a cael Saddam yn ol mewn grym - dyna fuasai'n Irac heddiw os buasai'r chwith wedi cael eu ffordd.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 6:30 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Mae cefnogaeth rhai o'r chwith i'r rebels yn irac yn eitha gwarthus. Beth am hel America adref a cael Saddam yn ol mewn grym - dyna fuasai'n Irac heddiw os buasai'r chwith wedi cael eu ffordd.


Bach yn hwyr. Mae degau o filoedd wedi marw'n barod. Gwell ceisio sgrapio pa bynnag dda all ddod o'r sefyllfa bellach. Wrth gwrs 'hindsight is 20/20 vision' a hynny i gyd. RET, os fysat ti'n cael mynd yn ol mewn peiriant amser i ddechrau'r rhyfel yn gwybod bod dim WMDs, a faint o smonach mae'r Americanwyr a'i ffrindiau wedi gwneud o'r rhyfel, fysa ti dal o'i phlaid hi?

O ia cofia- Gwarthusrwydd is in the eye of the beholder.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 6:43 pm
gan RET79
Os eith yr americanwyr o na fydd na uffar o fes.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 6:46 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:RET, os fysat ti'n cael mynd yn ol mewn peiriant amser i ddechrau'r rhyfel yn gwybod bod dim WMDs, a faint o smonach mae'r Americanwyr a'i ffrindiau wedi gwneud o'r rhyfel, fysa ti dal o'i phlaid hi?

.


Roedd Irac yn broblem roedd rhaid delio hefo hi'n hwy neu hwyrach. Wrth adael y broblem i ddatblygu gallai fod wedi bod yn lawer gwaeth i'w ddelio hefo. Mae'r WMD mwyaf wedi ei ddal - Saddam. Cofia, roedd pobl yn marw mewn ffyrdd erchyll o dan Saddam.