Tudalen 6 o 19

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 6:58 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Os eith yr americanwyr o na fydd na uffar o fes.


Ond be os fysan nhw heb fynd mewn yn y lle cyntaf? Mi fysai 10725 person di fai dal yn fyw ac yn iach. Faint o bobl fysai Sadamn wedi medru ei lladd yn ystod gweddill ei yrfa? Mwy? Llai? Pwy a wyr, ond mi fyswn i'n dweud llai. Ydi rhyddid pobl Iraq werth 10725 o fywydau (heb gynnwys milwyr ar y ddau ochor?). Fysa ti'n fodlon lladd 10725 cymro er mwyn dy ryddid? Sw ni ddim, ond falle bo fi'n leftie soft.

RET79 a ddywedodd:Cofia, roedd pobl yn marw mewn ffyrdd erchyll o dan Saddam.


Lwcus felly bod pobl yn marw dan America mewn ffordd mor neis.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 7:21 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:Ond be os fysan nhw heb fynd mewn yn y lle cyntaf? Mi fysai 10725 person di fai dal yn fyw ac yn iach. Faint o bobl fysai Sadamn wedi medru ei lladd yn ystod gweddill ei yrfa? Mwy? Llai? Pwy a wyr, ond mi fyswn i'n dweud llai.


Wel sgen i ddim y ffigyrau am faint o bobl mae Saddam wedi ei lladd ond yn sicr mae o'n ffigwr anferthol lawer mwy na 10725.

Pam ti'n meddwl llai? Am fod ti isio? Sgen ti'm rheswm pam.

Does dim datrysiad di-ladd i Iraq. Unai ti'n mynd mewn rwan a colli 10k o fywydau i'w ryddhau. Neu, ti'n gadael bwystfil i redeg y wlad i ladd llawer mwy yn y tymor hir.

Mae America a Phrydain wedi safio miloed ar filoedd o fywydau'r Iraqis.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 7:31 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Wel sgen i ddim y ffigyrau am faint o bobl mae Saddam wedi ei lladd ond yn sicr mae o'n ffigwr anferthol lawer mwy na 10725.


Dwi'm yn son am faint mae o wedi lladd, ond faint fysa fo'n lladd. Dyma'r rhyfel a Iran yn lladd ryw 300,000 ar y ddau ochor (os wyt ti'n fdlon cyfri milwyr tro ma RET), ond dwi'm yn meddwl y buasai Saddam wedi dechrau rhyfel arall ag unrhyw wlad. Roedd o wedi bod yn dawel iawn yn ddiweddar, y crwt. Wrth gwrs, mae'n anodd dweud ar diwedd y dydd. Does dim posib dweud yn gadarn naill ffordd neu'r llall.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 7:44 pm
gan RET79
Macsen dwi'n argymell i ti roi mewn hefo'r ddadl buasai pethau'n well hefo Saddam gan buasai llai o bobl yn cael eu lladd etc. gan ti am golli'r ddadl yna mor wael fe fyddai o'n boenus.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 7:51 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Macsen dwi'n argymell i ti roi mewn hefo'r ddadl buasai pethau'n well hefo Saddam gan buasai llai o bobl yn cael eu lladd etc. gan ti am golli'r ddadl yna mor wael fe fyddai o'n boenus.


Hurt me, RET! Make me bleed! :lol:

Ond sylwa na dy gwestiynnu di dwi wedi ei wneud cyn belled. Dwi di dweud bod o'm yn bosib gwybod naill ffordd na'r llall.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 7:53 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:Hurt me, RET! Make me bleed! :lol:


Oh plis. Mae dy gymryd ymlaen yn y ddadl yma fel cael 10 dwrn am ddim. Ddim yn llawer o sbort.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 8:04 pm
gan Macsen
Mae'n amhosib 'curo' dadl o'r fath, gyda'r prinder gwybodaeth sydd genym ni a hefyd y ffaith ein bod ni ynghanol y rhyfel ar y foment. Efallai mewn deg mlynedd mi fyddan ni'n edrych nol a dweud bod y rhyfel wedi bod gwerth chweil. Falle ddim. Be dwi'n poeni amdano yw ei fod o'n newid y postiau gol lle mae'n dod i be mae'r Americanwyr yn meddwl ei bod nhw'n cael ei wneud, a beth mae nhw'n medru cael 'get away' hefo fo. Lwcus felly bod y rhyfel wedi mynd yn ddrwg i Bush yn y poliau piniwn. Efallai yn y dyfodol bydd angen tystiolaeth cadarn cyn cael ymosod ar wlad arall.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 8:19 pm
gan RET79
Wel os dim arall, synnwyr cyffredin yw o i wybod buasai Saddam yn Irac am ddeng mlynedd arall a mwy yn beth erchyll i'w bobl ac i'r byd. Mae'n syniad da sortio'r problemau ma allan mor fuan a phosib er mor anodd yw'r dasg honno.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 10:39 pm
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:Rwyt ti dal yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng milwyr a phobl ddiniwed.


A chdithau hefyd, i bob golwg, o gofio dy ddagrau dros hogiau dewr y gorllewin oedd wedi disgyn yn y gad. Os rhywbeth, mi fyswn i'n cynnig bod y milwyr Iracaidd yn haeddu mwy o biti gen tithau gan ei bod yn debygol bod nifer go lew ohonyn nhw (a chyfran sylweddol o'r rheina yn hen ddynion ac yn hogiau ifanc) wedi cael eu gorfodi i wasanaethu gan y drefn unbennaethol yr wyt ti, yn ddigon teg, mor feirniadol ohoni hi.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 11:05 pm
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:Mae'r WMD mwyaf wedi ei ddal - Saddam. Cofia, roedd pobl yn marw mewn ffyrdd erchyll o dan Saddam.


Wel, dwn i ddim. Ella bysa chdi ddim lle wyt ti heddiw heb snortio cwpl o linellau o lwch depleted uranium bob bore cyn brecwast, ond, at ei gilydd, mae hwnna hefyd yn peri i bobl farw mewn ffordd erchyll - o ganserau braf, felly (ac yn creu llond byd o hwyl ar gyfer eu disgynyddion lwcus fydd yn mwynhau namau geni ac anableddau a chanserau am genedlaethau i ddod). Ac mae dyngarwyr mawr y Gorllewin wedi bod yn taflu cannoedd o dunelli o'r stwff o gwmpas Irac yn ddiweddar wrth fynd o gwmpas eu gwaith bob dydd o ladd yr Iraciaid lwcus yna sy'n cael marw yn syth bin.

Ac wedyn mae'r bomiau clwstwr - fatha'r rhai sydd yn dal i ladd pobl ar The Plain of Jars yn Laos dri deg mlynedd ar ol i'r Unol Daleithiau fomio'r lle yn dipiau.

Fel mae'n digwydd, mae Comisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol yn cyfrif arfau depleted uranium a bomiau clwstwr fel 'weapons of mass and indiscriminate destruction' hefyd. Dwn i ddim be mae hyn yn ei ddweud am egwyddorion y bobl yna oedd yn paldaruo yn sanctaidd am WMD honedig Saddam ar yr un pryd a pharatoi i ddefnyddio'r ffasiwn bethau yn erbyn yr Iraciaid.