Tudalen 7 o 19

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 11:36 pm
gan Macsen
Paid ac anghofio'r holl fwg ail law o cigars tew y milwyr Americanaidd.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 12:05 am
gan RET79
RET79 :
Mae'r WMD mwyaf wedi ei ddal - Saddam. Cofia, roedd pobl yn marw mewn ffyrdd erchyll o dan Saddam.


Wel, dwn i ddim.


:ofn:

o diar.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:32 am
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Mae'r WMD mwyaf wedi ei ddal - Saddam. Cofia, roedd pobl yn marw mewn ffyrdd erchyll o dan Saddam.


Wel, dwn i ddim.


:ofn:

o diar.


Er mwyn bwrw goleuni ar fy sylw yng ngolau diffyg gafael y cyfaill RET ar bragmateg bob dydd:

'Wel, dwn i ddim' [= ymadrodd llenwi yn mynegi diffyg amynedd yn wyneb hurtrwydd ymddangosiadol rhywun arall, gw. "mam bach", "be haru chdi'r tw-lal gwirion", "asu gwyn", ac yn y blaen.]

Ddim "dw i ddim yn meddwl bod Saddam Hussein wedi lladd pobl mewn ffordd erchyll". :rolio:

Ymddiheuriadau lu am beidio â gwneud hynny yn fwy clir ar y pryd yn arbennig i chdithau.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 9:18 am
gan Macsen
Tydi nuances tafodiaeth ddim rili'n dod drosodd ar y we. Mae gwenoglun bob tro'n help.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 9:27 am
gan Owain Llwyd
Macsen a ddywedodd:Tydi nuances tafodiaeth ddim rili'n dod drosodd ar y we. Mae gwenoglun bob tro'n help.


Digon gwir. Ymddiheuriadau eto, felly.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 9:52 am
gan Macsen
Oes bosib ini gytuno bod y camgymeriadau mawr yn Iraq wedi ei gwneud 10 mlynedd yn ol, dim gan Bush ond gan ei dad? Mi ofynodd o i'r bobl godi'n erbyn Saddam ond yna dyma fo'n tynnu'r Americaniaid mas yn lle gorffen y job. Mi gafodd miloedd ei lladd gan Sadam am godi yn ei erbyn o, ac dwi'n meddwl bod lot o ddiffyg hoffder yr Iraciaid tuag at yr Americaniaid wedi dod o'r mishap yma. Mi ddylsai Saddam wedi cael ei ddal nol yn 1991, a fyse na ddim problem yno heddiw.

Owain Llwyd a ddywedodd:Digon gwir. Ymddiheuriadau eto, felly.


Digwydd i bawb. Mi ddealltais i, ond mae'n hawdd cam ddeall 'ton' be sy'n cael ei ddweud. Dim angen ymddiheuro, beth bynnag!

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 10:43 am
gan Dielw
Oes bosib ini gytuno bod y camgymeriadau mawr yn Iraq wedi ei gwneud 10 mlynedd yn ol, dim gan Bush ond gan ei dad? Mi ofynodd o i'r bobl godi'n erbyn Saddam ond yna dyma fo'n tynnu'r Americaniaid mas yn lle gorffen y job.


Ie ti'n hollol gywir. Wrth gwrs, sa na rhai dal ddim yn hapus gan mai am olew fasa'r holl beth... :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 10:59 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Macsen a ddywedodd:Oes bosib ini gytuno bod y camgymeriadau mawr yn Iraq wedi ei gwneud 10 mlynedd yn ol, dim gan Bush ond gan ei dad?


Sori, boi, ond mae hyn yn ANHYGOEL o naif. 1) Mae buddiannau Bush hyn a Bush iau yn gwbl ynghlwm wrth ei gilydd. Mae ganddynt gyfranddaliadau yn yr un cwmniau olew, ac mae eu polisiau o werthu a datblygu arfau union yr un peth. 2) Yr un bobl, fel Rumsfeld a Cheney (sydd a chyfranddaliadau mewn cwmniau arfau, ac yna'n annog rhyfel - hmmm curioser and curioser!) oedd ymgynghorwyr y ddwy gyfundrefn.

Does dim mwy o ddiogelwch i'r bobl gyffredin nawr nag oedd yn yr YMOSODIAD cyntaf ar Irac.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 12:46 pm
gan Dielw
Ti sydd yn naive GDG.

Ymosodiad Sadam ar Kuwait ddechreuodd rhyfel y Gwlf a buasai gorffen y peth wedyn wedi achub nifer o iracis/cwrdiaid rhag Sadam. Fase'n ddiddorol gweld pa ochr o'r ffens fasa ti ar ôl i Hitler ymosod ar Wlad Pwyl -
GDG, 1939 a ddywedodd:Gad o fynd, ma'n foi iawn. Bai ni ydi o bod o'n ddrwg beth bynnag am ffwcio fyny'r Almaen ar ôl y rhyfel byd cyntaf! Heddwch
....be fasa di digwydd i weddill Iddewon Ewrop gyda'r agwedd yna...

Oes gan Tony Blair gyfrandaliadau mewn cwmnioedd olew neu yn y diwydiant arfau? Beth am Ann Clwyd, rhywun sy di gweld y difrod ei hun? Does bosib bod nhw'n credu bod nhw'n helpu irac?! Wel nach chi syniad.

Wrth gwrs ma na lot o cynts o gwmpas am y pres fel ti di deud ond dydi hyn ynddo'i hun ddim yn gwneud rhyfel yn anghywir.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 12:48 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
America ddywedodd wrth Saddam am ymosod ar Kuwait! Ac mae cymharu'r ddwy sefyllfa yn dangos nag oes gen ti unrhyw fath o ddealltwriaeth ar y sefyllfa. Irac - Almaen, Kuwait - Gwlad Pwyl. Get a fucking grip.