Postiwyd: Maw 20 Ebr 2004 1:51 pm
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae cymharu codi argae Illusu gyda llofruddiaethau Saddam yn beth hollol dwp i'w wneud, ond dwi'n cymeryd dy bwynt di fod Twrci yn ymddwyn mewn modd annerbyniol ar adegau. Ond mae Ewrop yn defnyddio pwysau diplomataidd i geisio rhoi terfyn ar hyn, drwy fynnu eu bod nhw'n cyd-ymffurfio a safonau dyngarol cyn cael ymuno a'r Undeb Ewropeaidd. Toedd y math yma o bwysau diplomataidd ddim yn mynd i weithio gyda Iraq.
Dw i ddim yn gwybod am weddill gwledydd Ewrop, ond mi oedd llywodraeth Prydain yn mynd i roi gwerth £200 miliwn o warantiad export credit i helpu Balfour Beatty i gymryd rhan yn y prosiect Ilisu. Mi wnaeth Balfour Beatty dynnu allan yn y pen draw, ond dw i ddim yn gallu gweld sut mae parodrwydd i'w cefnogi nhw mor hael yn cyd-fynd efo pwysau ar lywodraeth Twrci i barchu hawliau'r Cwrdiaid.