Cymedrolwr: Cwlcymro
Sioni Size a ddywedodd:Roedd Irac 2002, er y sancsiynau, yn nefoedd, nefoedd i gymharu hefo Irac heddiw. Mae dy theoris yn disgyn yn fflat.
Sioni Size a ddywedodd:Dal i ddisgwyl am dystiolaeth o droseddau Saddam yn y deg mlynedd dwytha, Garnet. Doedd o'n amlwg ddim yn ddyn hyfryd, ond does na ddim ffin sy'n bosib ei chroesi gan yr US yn amlwg fyddai'n ddigon i'w gwneud yn waeth na Saddam ddrwg.
Sioni Size a ddywedodd:Wyt ti'n ystyried fod Saddam ddrwg wedi ei adeiladu megis yr Hitler newydd er mwyn cyflyrru a pharatoi'r bobl megis yr WMD? Dangos dystiolaeth i fi Garnet - tystiolaeth fod Saddam yn gwenwyno ei dir a'i bobl ei hun, yn lladd 70,000 y flwyddyn, yn dinistiro ysbytai ac ysgolion (roedd ysbytai ac ysgolion am ddim ganddo).
Dangos mai Saddam oedd y dyn gwaetha'n y byd, Garnet.
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod ceisio mynd i'r afael gyda rhai o broblemau'r byd yn beth llawer dewrach i'w wneud na encilio tu ol i'n ffiniau cenedlaethol. Dyna ydi gwraidd llawer iawn o'r gwrthwynebiad poblogaidd i'r rhyfel, ym Mhrydain ac yn Sbaen - tueddiad cul, mewnblyg, i beidio a malio am unrhywbeth sy'n digwydd tu allan i'n gwlad breintiedig ein hunain. Efallai nad ydi'r Americanwyr yn cynnig atebion perffaith, ond o leia mae nhw'n fodlon gwneud rhyw fath o ymdrech i newid petha.
Dan Dean a ddywedodd:
Dwin meddwl bod gin ti ormod o ffydd o lawar yn yr Nahtid States of merica i achub ein byd o'i broblemau, Garnet.
Sioni Size a ddywedodd:Dangos i mi flwyddyn ers 93 Garnet, lle mae Saddam yn dod yn agos i'r hyn mae'r Americaniaid yn ei wneud.
Sioni Size a ddywedodd:Dangos i fi unrhyw beth sy'n profi fod Saddam angen ei gosbi ar fwy o frys na Israel, neu Saudi Arabia, neu Uzbekistan...
Sioni Size a ddywedodd:Fedri di ddim cyfaddef fod yr ymosodiad yma'n hollol ddi-sail (am y WMD oedd yr ymosodiad - achub y byd rhag terfysgaeth - dyna'r honiad celwyddog. Bush a'i gabal oedd yn penderfynu, nid 'nifer o bobol am nifer o resymau') ac wedi gwneud y sefyllfa gan gwaith gwaeth.
Garnet Bowen a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:
Dwin meddwl bod gin ti ormod o ffydd o lawar yn yr Nahtid States of merica i achub ein byd o'i broblemau, Garnet.
Pa ddewis sydd gen i? Toes 'na neb arall yn fodlon trio. Fel rhywun sy'n teimlo fod byw o dan drefn unbeniaethol, ormesaidd, yn rhywbeth na ddylid gael ei ddioddef gan unrhyw aelod o'r ddynol ryw, at pwy arall dwi'n fod i droi? Ffrainc?
Dan Dean a ddywedodd:Ma gin ti ddewis o beidio rhoi gormod o ffydd. Cym unrhyw wledydd ar hap: El Salvador, Vietnam, Nicaragua, Panama, Irac a llawer eraill i weld sut mae'r gwlad dewr wedi ffwcio nhw fyny dros y blynyddoedd.
Dwi dal yn chwerthin ar dy ben ar ol i ti gega ar Sbaen. Ffwl.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai