Yn union CwlCymro
Garnet Bowen
'Da ni wedi bod drwy hyn droeon yn yr edefyn arall, a twyt ti'n gneud dim byd ond rhoi cur pen i Nic drwy fod mor uffernol o ail-adroddus.
Ah, heb arlliw o eironi. Ysblennydd.
A fy nghwestiwn i - cwestiwn sy'n cael ei anwybyddu gan Dan a Sioni - ydi be yda chi'n ei gynnig fel ateb i broblemau Irac? Os ydych chi'n fodlon derbyn fod llywodraeth fel un Saddam Hussein yn annerbyniol, sut mae mynd ati i ddatrys y broblem, heb fynd i ryfel?
Reit. Mae Saddam wedi ei ddal. Arbennig. Hyd yn oed petai pawb yn Irac wedi eu lladd a'r byd wedi ei hitio i gwrs yr haul mi fysa ti dal yn dweud "Wel, digon hawdd beirniadu, ond sut fysa chi wedi delio a Saddam, y?"
Mae Garnet yn gofyn beth yw'r opsiwn arall i ymladd gormes. Rwan fe wnawn gymryd yn ganiataol mai dyma yw pwrpas America o amgylch y byd - achub dynol ryw rhag gormes (
).
Hyn fyswn i'n neud:
a) Sefydlu a chefnogi'r unben ffiaidd yn y lle cyntaf gan ddisodli llywodraeth ddemocrataidd yn y broses
b) Arfogi'r unben hwnnw i ymladd yn erbyn gwledydd eraill
c) Sylweddoli fod na fwy o werth mewn niweidio gwlad yr unben hynny, yn enwedig gan nad oedd yn dilyn cyfarwyddiadau mor drylwyur ag yr oedd ynghynt
ch) Gosod sancsiynau ar ei wlad - dim byd yn cael mynd i fewn o gwbl, yn cynnwys moddion, offer meddygol na bwyd. Bydd hyn yn dinistrio yn y diwedd ei wlad lwyddiannus, oedd yn darparu iechyd ac addysg o safon arbennig i'w thrigolion a hefyd yn trin ei dinasyddion benywaidd gyda pharch a statws, oedd yn creu gelyniaeth eithriadol gyda'r ffacsiynau eithafol mwslemaidd. Boed i'r sancsiynau barhau am 10 mlynedd, gan ladd bron i ddeg y cant o'i phoblogaeth ac effeithio fwyaf ar blant a'r sal yn y wlad, y rhai gwanaf
d) Ymosodiadau milwrol ar y wlad honno yn rheolaidd dros y cyfnod hwn, er mwyn dangos grym
dd) Sicrhau, drwy ddefnyddio'r UN, nad oedd arfau gan y wlad i amddiffyn ei hun. Creu celwydd a thwyll i'r diben o argyhoeddi'r byd fod Irac yn dweud celwydd am ei harfau
e) Penderfynu, o'r diwedd, i oresgyn y wlad yn filwrol gan ei bod bellach yn llawer rhy wan i amddiffyn ei hun. Defnyddio'r celwydd i geisio perswadio'r byd fod angen gweithredu yn erbyn yr unben ffiaidd a'i arfau dinistriol. Wrth fethu perswadio'r byd am y celwydd, ymosod p'run bynnag. Bols i'r byd.
f) Malu'r wlad a'i strwythurau, gan ei gorchuddio unwaith yn rhagor a'r gwenwyn angeuol sy'n dod o dan yr enw 'Depleted Uranium' a sydd wedi achosi ffrwydriad anferth mewn canser a genedigaethau babanod heb lygaid, breichiau, coesau a nifer o bethau rhyfedd a hyll eraill, mor droedig ar brydiau nes eu bod tu hwnt i ddisgrifiadau
ff) Ar ol ei goresgyn yn llwyddianus, gan ladd 70,000+ o'i thrigolion drwy ddulliau amrywiol yn cynnwys bomio clwster, gwneud yn siwr fod yr adnoddau crai megis olew er enghraifft yn saff. Rhoi llwyth o filwyr i amddiffyn yr olew, a rhoi dim i amddiffyn yr ysbytai a'r ysgolion (wel, i ba fudd ynde). Yna rhoi cytundebau anferth i gwmniau o wledydd y goresgyn er mwyn manteisio ar y cyfleon arbennig yma i wneud arian.
g) Gwneud yn siwr fod y bobl lleol yn deall pwy yw'r bos. Er mwyn delwedd ryngwladol, sefydlu pwyllgor o hen elynion yr unben oedd wedi dinac i'n gwlad a gweithio gyda ni er mwyn esmwytho'r goresgyn.
ng) Dal yr hen unben mewn carchar yn rhywle heb ei roi ar brawf. Byddai hynny'n arddangos ychydig o wirioneddau anffodus, felly gwell i bawb anghofio
h) Gwneud $18,000,000,000 o arian o olew y wlad mewn blwyddyn, sydd yn eitha da. Rhoi £9 biliwn o'r arian i dalu cwmniau preifat ein gwlad, nifer yn gysylltiedig a unigolion ein llywodraeth, gan gadw'r $9 biliwn arall yn yr American Federal Reserve (banc y wlad) a chymryd mai America fyddai'n delio a'r gormes penodol yma wrth gwrs
Tecstbwc. Dyna lawlyfr perffaith ar gyfer delio a'r gormes ofnadwy sy'n rhemp yn y byd, i unrhyw ddarpar wleidyddion allan yn fana.