Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Llun 17 Mai 2004 2:46 pm

Roedd Irac 2002, er y sancsiynau, yn nefoedd, nefoedd i gymharu hefo Irac heddiw. Mae dy theoris yn disgyn yn fflat.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Llun 17 Mai 2004 2:51 pm

Sioni Size a ddywedodd:Roedd Irac 2002, er y sancsiynau, yn nefoedd, nefoedd i gymharu hefo Irac heddiw. Mae dy theoris yn disgyn yn fflat.


Felly, mi fysa ti'n fodlon codi sancsiynnau, a gadael i Saddam redeg y "nefoedd" yma fel y myno?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Llun 17 Mai 2004 2:57 pm

Dal i ddisgwyl am dystiolaeth o droseddau Saddam yn y deg mlynedd dwytha, Garnet. Doedd o'n amlwg ddim yn ddyn hyfryd, ond does na ddim ffin sy'n bosib ei chroesi gan yr US yn amlwg fyddai'n ddigon i'w gwneud yn waeth na Saddam ddrwg.

Wyt ti'n ystyried fod Saddam ddrwg wedi ei adeiladu megis yr Hitler newydd er mwyn cyflyrru a pharatoi'r bobl megis yr WMD? Dangos dystiolaeth i fi Garnet - tystiolaeth fod Saddam yn gwenwyno ei dir a'i bobl ei hun, yn lladd 70,000 y flwyddyn, yn dinistiro ysbytai ac ysgolion (roedd ysbytai ac ysgolion am ddim ganddo).

Dangos mai Saddam oedd y dyn gwaetha'n y byd, Garnet.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Llun 17 Mai 2004 3:09 pm

Sioni Size a ddywedodd:Dal i ddisgwyl am dystiolaeth o droseddau Saddam yn y deg mlynedd dwytha, Garnet. Doedd o'n amlwg ddim yn ddyn hyfryd, ond does na ddim ffin sy'n bosib ei chroesi gan yr US yn amlwg fyddai'n ddigon i'w gwneud yn waeth na Saddam ddrwg.


Dwi ddim yn mynd i ail-adrodd y drafodaeth faith gafon ni mewn edefyn arall. Mi ddos i o hyd i adroddiad gan y CU a oedd yn datgan yn glir fod llywodraeth Saddam yn tramgwyddo ar hawliau dynol drwy gydol y 1990au. Dos yn ol i'r edefyn hwnw i atgoffa dy hun.

Sioni Size a ddywedodd:Wyt ti'n ystyried fod Saddam ddrwg wedi ei adeiladu megis yr Hitler newydd er mwyn cyflyrru a pharatoi'r bobl megis yr WMD? Dangos dystiolaeth i fi Garnet - tystiolaeth fod Saddam yn gwenwyno ei dir a'i bobl ei hun, yn lladd 70,000 y flwyddyn, yn dinistiro ysbytai ac ysgolion (roedd ysbytai ac ysgolion am ddim ganddo).

Dangos mai Saddam oedd y dyn gwaetha'n y byd, Garnet.


Dwi ddim yn honi am eiliad mai Saddam oedd y dyn gwaetha yn y byd, ond mi ydw i'n honi ei fod o'n ddigon drwg i haeddu cael ei gosbi. Doedd y sancsiynnau ddim yn llwyddo yn hyn o beth, ac i mi, y ddau ddewis oedd gadael iddo fynd a'i draed yn rhydd, neu cymeryd camau i'w ddi-sodli.

Ydi hi'n deg deud mai dy ymateb di i fy nghwestiwn gwreiddiol (Be ddylia ni fod wedi ei wneud ynglyn a Saddam yn 2002?) ydi "dim byd"?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Llun 17 Mai 2004 3:24 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod ceisio mynd i'r afael gyda rhai o broblemau'r byd yn beth llawer dewrach i'w wneud na encilio tu ol i'n ffiniau cenedlaethol. Dyna ydi gwraidd llawer iawn o'r gwrthwynebiad poblogaidd i'r rhyfel, ym Mhrydain ac yn Sbaen - tueddiad cul, mewnblyg, i beidio a malio am unrhywbeth sy'n digwydd tu allan i'n gwlad breintiedig ein hunain. Efallai nad ydi'r Americanwyr yn cynnig atebion perffaith, ond o leia mae nhw'n fodlon gwneud rhyw fath o ymdrech i newid petha.


Dwin meddwl bod gin ti ormod o ffydd o lawar yn yr Nahtid States of merica i achub ein byd o'i broblemau, Garnet.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Llun 17 Mai 2004 3:42 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Dwin meddwl bod gin ti ormod o ffydd o lawar yn yr Nahtid States of merica i achub ein byd o'i broblemau, Garnet.


Pa ddewis sydd gen i? Toes 'na neb arall yn fodlon trio. Fel rhywun sy'n teimlo fod byw o dan drefn unbeniaethol, ormesaidd, yn rhywbeth na ddylid gael ei ddioddef gan unrhyw aelod o'r ddynol ryw, at pwy arall dwi'n fod i droi? Ffrainc?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Llun 17 Mai 2004 3:43 pm

Oedd, mi oedd llywodraeth Saddam yn tramgwyddo, yn ol y CU. Dwi'm yn credu fod ei lywodraeth yn tramgwyddo cyn gymaint a mae'r Americanwyr yn ei wneud rwan. A deud y gwir, mae Saddam yn amatur pan mae hi'n dod i dramgwyddo yn Irac i gymharu hefo'r Americans. Dangos i mi flwyddyn ers 93 Garnet, lle mae Saddam yn dod yn agos i'r hyn mae'r Americaniaid yn ei wneud. Dangos i fi unrhyw beth sy'n profi fod Saddam angen ei gosbi ar fwy o frys na Israel, neu Saudi Arabia, neu Uzbekistan...
Fedri di ddim. Dydi'r ystadegau ti'n chwilio amdanyn nhw ddim yn bodoli. Achos doedd o ddim ddegfed cyn ddrwg a dy achubwyr gwyn. Mae dy ben yn y tywod gan dy fod wedi mynd yn rhy bell ynghynt - fedri di ddim cyfaddef fod yr ymosodiad yma'n hollol ddi-sail (am y WMD oedd yr ymosodiad - achub y byd rhag terfysgaeth - dyna'r honiad celwyddog. Bush a'i gabal oedd yn penderfynu, nid 'nifer o bobol am nifer o resymau') ac wedi gwneud y sefyllfa gan gwaith gwaeth.
Depelted Uranium, y sancsiynau, y celwydd, y carcharu disail, y poenydio, y bomio - i gyd i chwalu'r wlad er mwyn ei hysbeilio - a mor hawdd yw taflu llwch i lygad y naif.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Llun 17 Mai 2004 4:08 pm

Sioni Size a ddywedodd:Dangos i mi flwyddyn ers 93 Garnet, lle mae Saddam yn dod yn agos i'r hyn mae'r Americaniaid yn ei wneud.


Pam fod ei weithredoedd cyn '93 yn cael ei hanwybyddu?

Sioni Size a ddywedodd:Dangos i fi unrhyw beth sy'n profi fod Saddam angen ei gosbi ar fwy o frys na Israel, neu Saudi Arabia, neu Uzbekistan...


Dwi ddim yn gwadu fod angen mynd i'r afael a phob un o'r gwledydd yma. Ond toes 'na ddim pwynt treulio blynyddoedd lawer yn pwyllgora ynglyn a phwy sydd waetha, a felly yn cael mynd i flaen y ciw. Mi oedd Saddam yn ddigon drwg, beth bynnag fo gwledydd eraill yn eu wneud.

Sioni Size a ddywedodd:Fedri di ddim cyfaddef fod yr ymosodiad yma'n hollol ddi-sail (am y WMD oedd yr ymosodiad - achub y byd rhag terfysgaeth - dyna'r honiad celwyddog. Bush a'i gabal oedd yn penderfynu, nid 'nifer o bobol am nifer o resymau') ac wedi gwneud y sefyllfa gan gwaith gwaeth.


'Da ni wedi bod drwy hyn droeon yn yr edefyn arall, a twyt ti'n gneud dim byd ond rhoi cur pen i Nic drwy fod mor uffernol o ail-adroddus. Rwan mi oedden ni'n trafod pwnc newydd, sef ymddygiad Sbaen, a'r ffaith fod gwledydd Ewrop wedi methu a meddwl am ffordd arall o ymdrin a Saddam.

Mi ofynais i gwestiwn penodol i chdi, a mi ofynai eto - Tasa chdi'n medru mynd yn ol i ddiwedd 2002, beth fyddai dy safbwynt di? Fysa chdi'n fodlon rhoi diwedd ar y sancsiynnau a gadael i Saddam fynd a'i draed yn rhydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Llun 17 Mai 2004 5:40 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
Dwin meddwl bod gin ti ormod o ffydd o lawar yn yr Nahtid States of merica i achub ein byd o'i broblemau, Garnet.


Pa ddewis sydd gen i? Toes 'na neb arall yn fodlon trio. Fel rhywun sy'n teimlo fod byw o dan drefn unbeniaethol, ormesaidd, yn rhywbeth na ddylid gael ei ddioddef gan unrhyw aelod o'r ddynol ryw, at pwy arall dwi'n fod i droi? Ffrainc?

Ma gin ti ddewis o beidio rhoi gormod o ffydd. Cym unrhyw wledydd ar hap: El Salvador, Vietnam, Nicaragua, Panama, Irac a llawer eraill i weld sut mae'r gwlad dewr wedi ffwcio nhw fyny dros y blynyddoedd.

Dwi dal yn chwerthin ar dy ben ar ol i ti gega ar Sbaen. Ffwl.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Maw 18 Mai 2004 2:27 pm

Dan Dean a ddywedodd:Ma gin ti ddewis o beidio rhoi gormod o ffydd. Cym unrhyw wledydd ar hap: El Salvador, Vietnam, Nicaragua, Panama, Irac a llawer eraill i weld sut mae'r gwlad dewr wedi ffwcio nhw fyny dros y blynyddoedd.

Dwi dal yn chwerthin ar dy ben ar ol i ti gega ar Sbaen. Ffwl.


I mi, tydi dewis peidio ddim yn ddewis o gwbwl. Dwi'n gofyn i chdi, Dan, yn yr un modd a dwi wedi gofyn i Sioni Size, sut wyt ti'n argymell ein bod ni'n delio efo gwledydd fel Irac? Nid sut i ddelio efo nhw mewn blynyddoedd i ddod, pan fydd y CU wedi stopio eistedd ar eu dwylo, ond sut i ddelio efo nhw heddiw. Er fod yr holl rethreg yn erbyn y rhyfel wedi ei wisgo mewn geiriau dyngarol, toes 'na ddim byd yn mynd i achosi mwy o ddioddefaint na sefyllfa lle mae gwledydd cyfoethog y byd yn troi ei cefnau ar y gwledydd tlawd, am eu bod nhw ofn gwneud llanast. Yn y pen draw, dewis hunanol, un-llygeidiog ydi gwrthwynebu'r rhyfel yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron