Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Maw 25 Mai 2004 2:01 pm

Os fysa ni'n dod a pob arweinydd gwlad mewn cyfnod o ryfeloedd o flaen ei gwell, mi fysa nifer fawr o arlywyddion a 'generals' America yn rhannu cell a Saddam a Milosevic.
Dyma pam ma America yn gwrthod ymuno a'r International Criminal Court, mi fysa nifer fawr o arweinyddion adeg Vietnam yn cael ei dwyn ger ei fron.

Ond fel ma hanes yn dangos, os wti'n wlad ddigon mawr, neu yn 'enill' y rhyfal, gei di byth dy gosbi.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 2:51 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Os fysa ni'n dod a pob arweinydd gwlad mewn cyfnod o ryfeloedd o flaen ei gwell, mi fysa nifer fawr o arlywyddion a 'generals' America yn rhannu cell a Saddam a Milosevic.
Dyma pam ma America yn gwrthod ymuno a'r International Criminal Court, mi fysa nifer fawr o arweinyddion adeg Vietnam yn cael ei dwyn ger ei fron.

Ond fel ma hanes yn dangos, os wti'n wlad ddigon mawr, neu yn 'enill' y rhyfal, gei di byth dy gosbi.

Dwi'n cytuno ei bod hi'n warth fod America yn ystyried eu hunain uwchlaw cyfiawnder. Ond eto mae hi'n ormodiaeth deud y byddai uwch-swyddogion diweddar America yn wynebu'r un math o gyhuddiadau a Milosevic a Saddam.

Sioni Size a ddywedodd:
Cyfraith :rolio:

Be sydd gen toiyn erbyn cyfraith, Sioni? Cyfraith ydi be sy'n ein gwarchod ni rhag pobl fel chdi a Saddam. Cyfreithiau ydi'r safon yr yda "ni" - boed hynny yn "ni" cenedlaethol neu ryngwladol - i gyd yn gytuno arnyn nhw, er mwyn rhwystro unigolion hunanol rhag roi eu buddianau nhw o flaen buddianau pawb arall.

Beth bynnag fo dy ddehongliad di o weithredoedd Bush ar ddechrau'r 90au, Sioni, tydy nhw ddim yn cyfateb a'r diffiniad cyffredinol, cyd-nabyddiedig o "gynllwyn". Yn wahanol i lofruddiaethau Saddam.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 25 Mai 2004 3:00 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Dwi'n cytuno ei bod hi'n warth fod America yn ystyried eu hunain uwchlaw cyfiawnder. Ond eto mae hi'n ormodiaeth deud y byddai uwch-swyddogion diweddar America yn wynebu'r un math o gyhuddiadau a Milosevic a Saddam.

:lol: :lol:
Dwyt ti'n dysgu dim nac wyt, Garnet.

:lol: :lol: :lol: :lol:
Mae dy gyfraith di'n joc, Garnet.
Fi a Saddam? :lol:
Bechod fod na ddim cyfreithiau'n bodoli i warchod pobl rhag America ynde Garnet?
Dwyt ti'n amlwg ddim yn gweld dim elfen o gwbl o ragrith yn yr holl beth. Ddim hyd yn oed yn y ffaith mai ymysg y 'cyfreithiau' fydd gan "lywodraeth" (ennyd i geisio dadebru)... newydd Irac yw na fydd hawl gan Iraciaid i erlyn yr un Sais na American am unrhyw beth, unrhyw droseddau, maent yn ei gyflawni. Boed i Dduw ein bendithio gyda'r Gyfraith.[/b]
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Maw 25 Mai 2004 3:06 pm

Y broblam efo Cyfraith ydi ma;'n rhaid gofyn cyfraith pwy?

Doedd na ddim cyfraith, Almaeneg na rhyngwladol, yn erbyn be wnaeth y Natsiaid. Mi wnaeth gwledydd Ewrop wneud cyfreithiau rhygwladol newydd AR OL y rhyfel er mwyn cosbi y rheini oedd yn 'haeddu' cosb. Mi oedd hyn yn mynd yn erbyn un o gyfreithiau 'naturiol' y byd (dim cyfreithiau 'retrospective')

Yn sicr doedd na ddim cyfraith yn Irac yn erbyn be oedd Saddam yn ei wneud, felly mi geiff ei drio am dorri cyfreithiau gwledydd eraill. Ydy hynny yn iawn? Wnaeth Irac fyth 'arwyddo fyny' i gyfreithiau rhyngwladol, felly onid ydynt yn colli sofraniaeth drwy orfod dilyn cyfreithiau rhyngwladol?

Be os fysa pob gwlad yn Ewrop yn penderfynu fory fod dienyddio yn anghyfreithlon? Fysa nhw'n gallu cosbi America?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 3:13 pm

Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
Dwi'n cytuno ei bod hi'n warth fod America yn ystyried eu hunain uwchlaw cyfiawnder. Ond eto mae hi'n ormodiaeth deud y byddai uwch-swyddogion diweddar America yn wynebu'r un math o gyhuddiadau a Milosevic a Saddam.

:lol: :lol:
Dwyt ti'n dysgu dim nac wyt, Garnet.

Mae 'na wahaniaeth rhwng rhai o'r pethau gwarthus mae America wedi eu gwneud, a chenedl-laddiad, sef y cyhuddiad y mae Milosevic yn ei wynebu.

Sioni Size a ddywedodd:Mae dy gyfraith di'n joc, Garnet.
Fi a Saddam? :lol:

Mae'r ddau ohonoch yn barnu pobl eraill yn ol eich safonau mympwyol eich hunain, yn hytrach nac yn ol safonau gwrthrychol, allanol. Yn ol dy linyn mesur di, mae trosedd sy'n cael ei chyflawni gan filwr Americanaidd wastad yn waeth na'r un drosedd wedi ei chyflawni gan filwr Iracaidd.

Sioni Size a ddywedodd:Bechod fod na ddim cyfreithiau'n bodoli i warchod pobl rhag America ynde Garnet?
Dwyt ti'n amlwg ddim yn gweld dim elfen o gwbl o ragrith yn yr holl beth. Ddim hyd yn oed yn y ffaith mai ymysg y 'cyfreithiau' fydd gan "lywodraeth" (ennyd i geisio dadebru)... newydd Irac yw na fydd hawl gan Iraciaid i erlyn yr un Sais na American am unrhyw beth, unrhyw droseddau, maent yn ei gyflawni. Boed i Dduw ein bendithio gyda'r Gyfraith.[/b]

Darllen fy ateb i uchod - dwi'n meddwl ei bod hi'n warth bod America yn ystyried ei hun uwchlaw cyfraith ryngwladol. Ond mae hi'n anghywir trio deud fod hyn yn meddwl fod America yn gweithredu yn gwbwl ddi-gyfraith. Safbwynt America ydi fod cyfraith yn rhywbeth cenedlaethol, yn hytrach na rhyngwladol. Mae nhw'n credu mai ei cyfrifoldeb nhw ydi cosbi eu milwyr eu hunain, a nid cyfrifoldeb neb arall. Dwi'n anghytuno efo nhw, ond eto dwi'n cydnabod fod hyn yn wahanol i ymddygiad Saddam, a oedd yn gosod ei hun uwchlaw pob cyfraith.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Maw 25 Mai 2004 3:17 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae'r ddau ohonoch yn barnu pobl eraill yn ol eich safonau mympwyol eich hunain, yn hytrach nac yn ol safonau gwrthrychol, allanol. Yn ol dy linyn mesur di, mae trosedd sy'n cael ei chyflawni gan filwr Americanaidd wastad yn waeth na'r un drosedd wedi ei chyflawni gan filwr Iracaidd.

Anghytuno. Ma lladd/arteithio etc yn union rhyn mor ddrwg dim ots pwy sy'n ei wneud o.

A dydi dweud y bysai rhai o arweinwyr America mewn cell a Saddam ddim yn golygu y bod nhw'n euog o'r un trosedda Garnet. Jusd bo nhw'n euog o drosedd
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 3:20 pm

Cwlcymro a ddywedodd:A dydi dweud y bysai rhai o arweinwyr America mewn cell a Saddam ddim yn golygu y bod nhw'n euog o'r un trosedda Garnet. Jusd bo nhw'n euog o drosedd

Digon gwir. Mi wnes i gam-ddehongli be oedda chdi'n trio ei ddeud.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 25 Mai 2004 3:35 pm

Garnet Bowen a ddywedodd: Yn ol dy linyn mesur di, mae trosedd sy'n cael ei chyflawni gan filwr Americanaidd wastad yn waeth na'r un drosedd wedi ei chyflawni gan filwr Iracaidd.

Ydi o wir?
Garnet, digon hawdd dweud dy fod yn anghytuno hefo troseddau dibendraw America yn Irac, ond rwyt ti'n gwybod cystal a minnau na fydd unrhyw gyfiawnder. Mae diffygion enfawr gen ti mewn cydnabod digwyddiadau a ffeithiau.
Wyt ti am ddod a'r enghraifft o filwyr y lluniau o garchar Abu Graihb fel enghraifft o ba mor anghywir ydw i?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Mai 2004 3:47 pm

Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd: Yn ol dy linyn mesur di, mae trosedd sy'n cael ei chyflawni gan filwr Americanaidd wastad yn waeth na'r un drosedd wedi ei chyflawni gan filwr Iracaidd.

Ydi o wir?

Wel, y rheswm dwi'n deud hyn ydi dy goment di ynglyn a'r gwrthryfel ar ddechrau'r 90au. I ti, mae George Bush - wnaeth annog y gwrthryfel a arweiniodd at lofruddiaeth miloedd o bobl - yn waeth na Saddam Hussein, y dyn a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y lladd. Mae trosedd Hussein yn llawer gwaeth, ond George Bush ydi'r dyn drwg. Pam?

Sioni Size a ddywedodd:Garnet, digon hawdd dweud dy fod yn anghytuno hefo troseddau dibendraw America yn Irac, ond rwyt ti'n gwybod cystal a minnau na fydd unrhyw gyfiawnder. Mae diffygion enfawr gen ti mewn cydnabod digwyddiadau a ffeithiau.
Wyt ti am ddod a'r enghraifft o filwyr y lluniau o garchar Abu Graihb fel enghraifft o ba mor anghywir ydw i?

Dwi'n meddwl fod carchariad y milwr arbenig hwnw yn dangos fod system America yn un amherffaith, ond yn dipyn gwell na'r hyn a oedd yn digwydd o dan Saddam. Mae'r bobl a oedd yn gyfrifol yn mynd i gael eu cosbi, ac mae hi'n debygol y bydd byddin America yn fwy gofalus ynglyn a gadael i'r math yma o beth ddigwydd yn y dyfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Maw 25 Mai 2004 3:49 pm

Garnet Bowen a ddywedodd: Mae'r bobl a oedd yn gyfrifol yn mynd i gael eu cosbi, ac mae hi'n debygol y bydd byddin America yn fwy gofalus ynglyn a gadael i'r math yma o beth ddigwydd yn y dyfodol.

Ella wir. Neu ella fod y bobl isa yn y hierarchy (y milwyr ei hunain) am gael eu cosbi (sy'n deg, ond ma angen mynd yn uwch hefyd), a bydd byddin America yn fwy gofalus ynglyn a gadael i'r cyhoedd wybod am y math yma o beth yn y dyfodol.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron