Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Gwe 28 Mai 2004 10:19 am

Sioni Size a ddywedodd:Yn ymddangos yn hynod ryfedd o bosib, ond y pwynt hanfodol ydi ei bod hi'n ragrith llwyr i ddefnyddio'r gwrthryfel yma fel cyfianwhad dros fynd i ryfel - 'yr holl bobl ma laddwyud gan Saddam ddrwg' - tra mai America arweiniodd nhw i ymladd gan dynnu eu cefnogaeth yn ol pan oedd yn dechrau. Mae Garnet yn defnyddio'r ffigyrau er cyfiawnhad am ddisodli SH rwan. Sy'n ddigywilydd.


Ond dim JUSD nhw a laddodd Saddam Sioni. Mi odd Saddam yn lladd cyn ac ar ol y gwrthryfal.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Gwe 28 Mai 2004 10:30 am

Sioni Size a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Garnet a Sioni.

Welais i erioed ddadl ryfeddach yn fy mywyd. Y ddau ohonoch yn cydnabod ei bod yn 'ddrwg' i Bush annog y Shia i wrthryfel ac yna peidio a chodi bys i'w helpu pan aeth y cach trwy'r ffan. Y ddau ohonoch yn cytuno nad oedd Saddam yn gwneud peth ffeind iawn yn lladd miloedd o bobl Shia. a'r ddau ohonoch wedyn yn mynd ati i ddadlau pa un ydi'r 'mwya drwg'. Beth ydi'r gwaetha, cachu ci ta cachu cath?

Ydi hi'n bosibl bod y ddau ohonoch yn gyd fyfyrwyr mewn rhyw goleg diwinyddol yn rhywle?


Yn ymddangos yn hynod ryfedd o bosib, ond y pwynt hanfodol ydi ei bod hi'n ragrith llwyr i ddefnyddio'r gwrthryfel yma fel cyfianwhad dros fynd i ryfel - 'yr holl bobl ma laddwyud gan Saddam ddrwg' - tra mai America arweiniodd nhw i ymladd gan dynnu eu cefnogaeth yn ol pan oedd yn dechrau. Mae Garnet yn defnyddio'r ffigyrau er cyfiawnhad am ddisodli SH rwan. Sy'n ddigywilydd.


Mae'n siwr dy fod yn gywir i ddadlau nad oes llawer o resymeg i ddadl Garnet.

'Fedri di ddim cyfiawnhau America yn mynd i ryfel am bod Saddam yn lladd pobl pan mae olion bysedd America ar arfau Saddam a DNA America yn llanast ar hyd safle pob cyflafan bron.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Mai 2004 10:34 am

Dadl Sioni ydi fod Saddam wedi rhoi'r gorau i ladd ar ol y Rhyfel Cyntaf yn y Gwlff, a felly mi oedd o'n haeddu cael ei anwybyddu. Mae'r ffaith fod ffigyrau pendant ynglyn a'r niferoedd a laddwyd yn y cyfnod yma yn anodd i'w cael yn awgrymu i Sioni fod Saddam yn ddyn diniwed. Mae'r llywodraeth yn America ("Propoganda! Celwydd!") yn anghytuno, fodd bynnag, ac yn nodi tua 6000 o lofruddiaethau ('da ni'n ymwybodol ohonyn nhw) a gyflawnwyd gan Saddam yn y cyfnod ers 1993.

Whitehouse.gov a ddywedodd:
Executions: Saddam Hussein's regime has carried out frequent summary executions, including: o 4,000 prisoners at Abu Ghraib prison in 1984 o 3,000 prisoners at the Mahjar prison from 1993-1998 o 2,500 prisoners were executed between 1997-1999 in a "prison cleansing campaign" o 122 political prisoners were executed at Abu Ghraib prison in February/March 2000 o 23 political prisoners were executed at Abu Ghraib prison in October 2001 o At least 130 Iraqi women were beheaded between June 2000 and April 2001


Linc
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Mai 2004 10:40 am

GT a ddywedodd:Mae'n siwr dy fod yn gywir i ddadlau nad oes llawer o resymeg i ddadl Garnet.

'Fedri di ddim cyfiawnhau America yn mynd i ryfel am bod Saddam yn lladd pobl pan mae olion bysedd America ar arfau Saddam a DNA America yn llanast ar hyd safle pob cyflafan bron.


Mae 'na resymeg syml ac eglur i fy nadl i - mae dyn sy'n anog eraill i ladd yn ddyn drwg, mae dyn sy'n lladd pobl yn ddyn lot gwaeth.

Dwi wedi gwneud y pwynt yma mewn edefyn arall, ond mi ddeudai o eto. Dwi'n meddwl mai dadleuon 'orientalist' ydi eich dadleuon chi ynglyn a throseddau Saddam. Mae eich meddylfryd chi mor orllewinol fel fod holl weithredoedd trigolion y dwyrain canol yn cael eu dehongli drwy eu perthynas a'r gorllewin. Mae Saddam, felly, yn stopio bod yn ddyn o gig a gwaed, sy'n gyfrifol am ei weithredoedd ei hun, ac yn cael ei droi yn "byped" y gorllewin. Mae hyn yn weithred o hunan-dwyll, sy'n adlewyrchu'n wael ar y modd yr ydych chi'n gweld y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Gwe 28 Mai 2004 11:39 am

Mae gen i ofn ein bod yn malu cachu yng nghanol y myrllwch a'r niwl yma syr.

Nid wyf yn datgan unrhyw farn ynglyn a phwy ydi'r 'gwaethaf'. Ystyriaf ddadl o'r fath tipyn fel dadl ganol oesol am sawl angel fedri di eu rhoi ar ben pin ar yr un pryd.

Fy mhwynt oedd ei fod yn afresymegol i ddefnyddio trais Saddam fel esgys tros ymddygiad America, pan mae gan America ran yn yr union drais hwnnw.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Mai 2004 1:13 pm

GT a ddywedodd:Mae gen i ofn ein bod yn malu cachu yng nghanol y myrllwch a'r niwl yma syr.

Nid wyf yn datgan unrhyw farn ynglyn a phwy ydi'r 'gwaethaf'. Ystyriaf ddadl o'r fath tipyn fel dadl ganol oesol am sawl angel fedri di eu rhoi ar ben pin ar yr un pryd.

Fy mhwynt oedd ei fod yn afresymegol i ddefnyddio trais Saddam fel esgys tros ymddygiad America, pan mae gan America ran yn yr union drais hwnnw.


Ella dy fod ti'n teimlo fod hyn yn amherthnasol, ond i mi, mae o'n pwynt eithaf pwysig. Mae llawer gormod o'r ddadl dros y rhyfel, a pholisi tramor yn gyffredinol, yn mynnu gweld popeth yn ddu a gwyn, da a drwg. Yn ol llawer, mae Saddam yn ddyn drwg, ond mae Bush hefyd yn ddyn drwg. Heb edrych ar beth ydi ystyr "drwg" a gwahanol raddau o "ddrwg", mae'r ddwy garfan yn dod i gynrychioli dwy ochr i'r un geiniog. Mae pobl yn gwrthod cefnogi'r rhyfel oherwydd fod Bush a Saddam "yr un fath", gan anwybyddu'r gagendor anferth sydd 'na rhwng yr hyn mae'r ddau ddyn wedi ei wneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Gwe 28 Mai 2004 1:35 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Dadl Sioni ydi fod Saddam wedi rhoi'r gorau i ladd ar ol y Rhyfel Cyntaf yn y Gwlff, a felly mi oedd o'n haeddu cael ei anwybyddu. Mae'r ffaith fod ffigyrau pendant ynglyn a'r niferoedd a laddwyd yn y cyfnod yma yn anodd i'w cael yn awgrymu i Sioni fod Saddam yn ddyn diniwed.

Baw tarw. Diniwed?! Mae pob dim yn gymharol.
Oherwydd nad oes cyfiawnhad dros ddinistrio irac a lladd...fffnnhgggff
6000! 6000 dros ddeg mlynedd! A faint laddwyd gan y rhyfel yma - faint sy'n marw rwan, faint laddwyd gan y sancsiynau. Dwyt ti'm yn gall. Ti newydd brofi pa mor hollol hurt ydi dy damcaniaethau pellgyrhaeddol ond yn ei drin fel ryw bwynt dilys.

Ond dydi "Bush" (nid Bush yw'r cwestiwn nace Garnet, ond AMerica'n gyffredinol - ei chabinet, y CIA, Pentagon, yr holl feddylfryd adain dde hunanol dinistriol gan bob llywodraeth ers degawdau) ddim hanner mor ddrwg a Saddam. Ffycinel. 'Y gagendor anferth rhwng be mae'r ddau ddyn wedi ei wneud.' Ceilliau.

Dwi wedi gwneud y pwynt yma mewn edefyn arall, ond mi ddeudai o eto. Dwi'n meddwl mai dadleuon 'orientalist' ydi eich dadleuon chi ynglyn a throseddau Saddam. Mae eich meddylfryd chi mor orllewinol fel fod holl weithredoedd trigolion y dwyrain canol yn cael eu dehongli drwy eu perthynas a'r gorllewin. Mae Saddam, felly, yn stopio bod yn ddyn o gig a gwaed, sy'n gyfrifol am ei weithredoedd ei hun, ac yn cael ei droi yn "byped" y gorllewin. Mae hyn yn weithred o hunan-dwyll, sy'n adlewyrchu'n wael ar y modd yr ydych chi'n gweld y byd.

Gwrtaith llwyr o'r radd flaenaf. I ddyfynnu Mr Dean a Withnail - wot absolwt twodl. Nonsens dinner party o'r radd uchaf. Ti di bod ar y gwin?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan GT » Gwe 28 Mai 2004 1:52 pm

Garnet
'Dwi'n dwyn perswad ar Cwlcymro i ladd cath Sioni Size. Mae Cwlcymro yn gwneud hyn. Yn hwyrach ymlaen 'dwi'n cael ffrae efo Cwlcymro, ac yn hanner ei ladd. Ti ddim yn cytuno efo fi yn y ffrae, ond ti'n dweud ei bod yn iawn i mi hanner lladd Cwlcymro oherwydd y creulondeb ofnadwy mae wedi ei ddangos at giaman Sioni.

Mae hyn yn hollol afresymegol, ond dim mymryn mwy felly na dy gyfiawnhad tros ymddygiad America.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Mai 2004 2:24 pm

Sioni Size a ddywedodd:Baw tarw. Diniwed?! Mae pob dim yn gymharol.
Oherwydd nad oes cyfiawnhad dros ddinistrio irac a lladd...fffnnhgggff
6000! 6000 dros ddeg mlynedd! A faint laddwyd gan y rhyfel yma - faint sy'n marw rwan, faint laddwyd gan y sancsiynau. Dwyt ti'm yn gall. Ti newydd brofi pa mor hollol hurt ydi dy damcaniaethau pellgyrhaeddol ond yn ei drin fel ryw bwynt dilys.


Mi ofynais di faint gafodd eu lladd rhwng 1993 a 2003, mi wnes i ateb. Dy ymateb di oedd "6000 dros ddeg mlynedd!", fel petai hynny'n ddim. Nid 6000 o golledion mewn rhyfel ydi'r rhain, ond 6000 o bobl wedi eu llofruddio mewn gwaed oer. 6000 o bobl wedi eu lladd am ddim rheswm.

Sioni Size a ddywedodd:Ond dydi "Bush" (nid Bush yw'r cwestiwn nace Garnet, ond AMerica'n gyffredinol - ei chabinet, y CIA, Pentagon, yr holl feddylfryd adain dde hunanol dinistriol gan bob llywodraeth ers degawdau) ddim hanner mor ddrwg a Saddam. Ffycinel. 'Y gagendor anferth rhwng be mae'r ddau ddyn wedi ei wneud.' Ceilliau.


Dyna ydi fy nadl i - toes 'na'm posib son am "America yn gyffredinol". Unwaith ti'n dechra credu hyn, ti'n gorfod dechra gwneud gymnastics meddyliol ffantastig i ffitio Kosovo neu Somalia i mewn i'r stori. Democratiaeth ydi America, lle mae gwahanol syniadau yn cystadlu yn erbyn eu gilydd. Fedri di ddim ffitio holl hanes modern America, o Wilson i Bush, i mewn i dy ddelwedd unffurf di o'r wlad.

Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi wedi gwneud y pwynt yma mewn edefyn arall, ond mi ddeudai o eto. Dwi'n meddwl mai dadleuon 'orientalist' ydi eich dadleuon chi ynglyn a throseddau Saddam.

Gwrtaith llwyr o'r radd flaenaf. I ddyfynnu Mr Dean a Withnail - wot absolwt twodl. Nonsens dinner party o'r radd uchaf. Ti di bod ar y gwin?


Wel, dyna chdi wedi llorio fy nadl i efo dy rym deallusol. Chwarae teg rwan, sut mae disgwyl i mi gystadlu efo'r cawr athronyddol yma?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Gwe 28 Mai 2004 3:10 pm

Yndi, 6000 yn ormod, Garnet, ond siawns, siawns, fod y rhesymeg o gyfiawnhau'r siambls llwyr yma a'r holl bobl sydd wedi dioddef oherwydd y ffigwr hwnnw dros 11 mlynedd, yn idiotic. Yn ol Garnet, mae Saddam yn waeth nac America, sydd wedi achosi oddeutu miliwn a hanner o farwolaethau dros yr un cyfnod gyda'r sancsiynau a'r rhyfela yn Irac yn unig, heb son am eu hanturiethau eraill dros y byd i gyd yn grwn.

A mae'r ffigwr o 6000 yn dod o lywodraeth America. Siawns na fedren nhw wneud yn well na hynna! Pwy oedd yn eu helpu gyda'r ystadegau - Ahmed Chalabi efallai.

Aha - mae Cosofo ddigon doji, ond dwi di cael llond bol ar fwy nac un yma yn rhoi Somalia fel enghraifft o ddaioni America. Felly dwi'n dechrau edefyn arall am hwnnw.

Ia, efallai dylid stopio meddwl mor 'orientalist' am y pethau yma. 6000 o bobl = bomiwch Saddam!
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron