Sioni Size a ddywedodd:Baw tarw. Diniwed?! Mae pob dim yn gymharol.
Oherwydd nad oes cyfiawnhad dros ddinistrio irac a lladd...fffnnhgggff
6000! 6000 dros ddeg mlynedd! A faint laddwyd gan y rhyfel yma - faint sy'n marw rwan, faint laddwyd gan y sancsiynau. Dwyt ti'm yn gall. Ti newydd brofi pa mor hollol hurt ydi dy damcaniaethau pellgyrhaeddol ond yn ei drin fel ryw bwynt dilys.
Mi ofynais di faint gafodd eu lladd rhwng 1993 a 2003, mi wnes i ateb. Dy ymateb di oedd "6000 dros ddeg mlynedd!", fel petai hynny'n ddim. Nid 6000 o golledion mewn rhyfel ydi'r rhain, ond 6000 o bobl wedi eu llofruddio mewn gwaed oer. 6000 o bobl wedi eu lladd am ddim rheswm.
Sioni Size a ddywedodd:Ond dydi "Bush" (nid Bush yw'r cwestiwn nace Garnet, ond AMerica'n gyffredinol - ei chabinet, y CIA, Pentagon, yr holl feddylfryd adain dde hunanol dinistriol gan bob llywodraeth ers degawdau) ddim hanner mor ddrwg a Saddam. Ffycinel. 'Y gagendor anferth rhwng be mae'r ddau ddyn wedi ei wneud.' Ceilliau.
Dyna ydi fy nadl i - toes 'na'm posib son am "America yn gyffredinol". Unwaith ti'n dechra credu hyn, ti'n gorfod dechra gwneud
gymnastics meddyliol ffantastig i ffitio Kosovo neu Somalia i mewn i'r stori. Democratiaeth ydi America, lle mae gwahanol syniadau yn cystadlu yn erbyn eu gilydd. Fedri di ddim ffitio holl hanes modern America, o Wilson i Bush, i mewn i dy ddelwedd unffurf di o'r wlad.
Sioni Size a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi wedi gwneud y pwynt yma mewn edefyn arall, ond mi ddeudai o eto. Dwi'n meddwl mai dadleuon 'orientalist' ydi eich dadleuon chi ynglyn a throseddau Saddam.
Gwrtaith llwyr o'r radd flaenaf. I ddyfynnu Mr Dean a Withnail - wot absolwt twodl. Nonsens dinner party o'r radd uchaf. Ti di bod ar y gwin?
Wel, dyna chdi wedi llorio fy nadl i efo dy rym deallusol. Chwarae teg rwan, sut mae disgwyl i mi gystadlu efo'r cawr athronyddol yma?