Tudalen 1 o 11

Zapatro-dewrder

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 12:24 am
gan ffwrchamotobeics
y wlad ddewra fuodd eto , wedi blynyddoedd o gachu Ffasgaidd Ffranco, i weud fod bush a blair yn gelwyddon am
fynychu Irac heb reswm angyfreithiol.
Gwd thing

hEDDWCH

TEW

P.s a Honduras

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:00 am
gan Garnet Bowen
Neu gwlad a oedd yn ddigon parod derbyn help y byd pan oedden nhw'n ymladd eu hunben nhw, yn y 30au, ond sy'n gwrthod cynnig yr un help yn ol.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:40 am
gan ffwrchamotobeics
Pa help? Bod yn styc mewn rhyfel anghyfreithlon i helpu dwy wlad gyfoethog i drio ail brofi cryfder gweigion eu cyn arweinyddion; a creu 14 safle militaraidd newydd parhaol yn y Dwyrain Canol (gan gau rhai Sawdi Arabia i lawr)?

Iach fod rhywrai call yn gweld y gwir

TEW

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:44 am
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:Neu gwlad a oedd yn ddigon parod derbyn help y byd pan oedden nhw'n ymladd eu hunben nhw, yn y 30au, ond sy'n gwrthod cynnig yr un help yn ol.

Ella bysa chdi'n licio atgoffa pawb am y cymorth hael oedd llywodraethau'r gorllewin wedi'i roi i wrthwynebwyr Franco yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, felly? Ac am eu holl ymdrechion wedyn i ddymchwel yr unben ac adfer democratiaeth i'r wlad.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:46 am
gan Sioni Size
Garnet Bowen a ddywedodd:Neu gwlad a oedd yn ddigon parod derbyn help y byd pan oedden nhw'n ymladd eu hunben nhw, yn y 30au, ond sy'n gwrthod cynnig yr un help yn ol.

Ahaha. Ti mor swit.
Help y byd?! Fel llywodraeth Prydain? Aha. Anodd di cael yr egni weithia.
Mae pobl Sbaen, fel pawb arall yn y byd blaw'r Americans gwybodus, ret a Garnet, yn gwybod mai er mwyn goresgyn yr olew a goruchafiaeth dros y dwyrain canol aeth america i Irac. Dyna pam mae Sbaen wedi tynnu allan.
Garnet, dydi lladd pawb sydd mewn golwg, neu hyd yn oed bawb sydd ddim mewn golwg megis gyda cluster bombs, ddim yn ffitio dy ddelfryd o'r achubwyr gwyn arwrol.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 9:12 am
gan Hernan Rodriguez
Garnet Bowen a ddywedodd:Neu gwlad a oedd yn ddigon parod derbyn help y byd pan oedden nhw'n ymladd eu hunben nhw, yn y 30au, ond sy'n gwrthod cynnig yr un help yn ol.

Be ti'n son am - oedd Franco dal yna yn y 70au.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 9:17 am
gan Garnet Bowen
Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Neu gwlad a oedd yn ddigon parod derbyn help y byd pan oedden nhw'n ymladd eu hunben nhw, yn y 30au, ond sy'n gwrthod cynnig yr un help yn ol.

Ahaha. Ti mor swit.
Help y byd?! Fel llywodraeth Prydain? Aha. Anodd di cael yr egni weithia.
Mae pobl Sbaen, fel pawb arall yn y byd blaw'r Americans gwybodus, ret a Garnet, yn gwybod mai er mwyn goresgyn yr olew a goruchafiaeth dros y dwyrain canol aeth america i Irac. Dyna pam mae Sbaen wedi tynnu allan.
Garnet, dydi lladd pawb sydd mewn golwg, neu hyd yn oed bawb sydd ddim mewn golwg megis gyda cluster bombs, ddim yn ffitio dy ddelfryd o'r achubwyr gwyn arwrol.

Mi yda chi'n hollol gywir fod llywodraethau Ffrainc a Phrydain wedi cyfrannu tuag at fuddugoliaeth Franco drwy aros yn "niwtral" yn ystod y rhyfel cartref. Cyfeirio at y bobl gyffredin a aeth i helpu'r weriniaeth on i. Ond mae'r pwynt yr un fath - mae Sbaen wedi gorfod dioddef gormes am 40 mlynedd, a mae nhw'n gwybod pam mor bwysig ydi hi fod y gymyned ryngwladol yn peidio a eistedd ar y ffens wrth i bobl ddiniwed gael eu lladd, carcharu a'u treisio gan ffasgwyr fel Franco a Saddam. Mi lofruddiwyd taid Zapatero am wrthwynebo Franco. Be sydd wedi gwneud ei wyr yn gymaint o lwfrgi?

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 9:25 am
gan Hernan Rodriguez
Garnet Bowen a ddywedodd:

Aznar oedd y llwrfgi - ddim digon o foi i sefyll fynny dros sbaen yn erbyn Bush a Blair. Does dim byd yn wrol am yrru dynion i Iraq a'i gweld yn dod nol mewn bagiau duon. Mae Bush ddigon parod i weld canoedd o americanwyr yn cael eu lladd - dim fo sy'n goro rhoi ei hun ar y lein.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 11:42 am
gan Cwlcymro
Dwi'n gweld dim byd yn llwfrgi am dynnu allan o Iraq. Dwi'n ei weld o fel cangymeriad yndw, gan y bysa Iraq yn gwaethygu heb y milwyr rwan.
Ni wnath neud y mess, ma fyny i ni i sortio fo allan (dim fel natha ni'n Afghanistan, ei adal mewn darna)

Ond o ran Sbaen dwi'n gweld dim problam efo nhw'n tynnu allan. Mi oedd 90% o'r wlad yn erbyn mynd mewn i ddechrau, dim penderfyniad y bobl oedd mynd i Iraq, penderfyniad Aznar ei hun oedd o. A rwan ei fod o wedi mynd, pam y dylsa nhw aros i helpu rhyfal doedda nhw ddim eisiau?

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 10:12 pm
gan ffwrchamotobeics
Cwlcymro a ddywedodd:Dwi'n gweld dim byd yn llwfrgi am dynnu allan o Iraq. Dwi'n ei weld o fel cangymeriad yndw, gan y bysa Iraq yn gwaethygu heb y milwyr rwan.

Yn hollol...