Sioni Size a ddywedodd:Mae'n wirioneddol yn bleser i dy gael yn ol Garnet. Gobeithio fod hyn yn wers i'r unigolion hynny oedd yn meddwl dy fod wedi dy embarasio gan y digwyddiadau syfrdanol diweddar yn Irac rydd.
Dwi ar fy ngwylia ar y funud, ac mae gen i betha lot amgenach i'w wneud na eistedd o flaen sgrin gyfrifiadur. Heblaw am p'nawn 'ma, wrth gwrs.
Sioni Size a ddywedodd:Reit - dim ond i glirio dy resymeg - hanfod gwrthwynebwyr y rhyfel yn Irac oedd eu bod yn poeni dim un iot am drigolion gwledydd eraill. Mi fartsiodd 2 filiwn yn Llundain i ddangos eu difaterwch lwyr tuag at eraill. Moch hunanol, un ac oll.
Mi wnaeth 'na filiynau o bobl orymdeithio yn erbyn rhywbeth, ond er plaid dim byd. Tasa Irac Saddam yn rhyw wynfyd heddychlon, yna mi fyswn i'n medru deallt eu safbwynt nhw, ond mi oedd y wlad hono yn uffern, ac mi oedd rhaid gwneud rhywbeth am y peth. Mae'n well gen i rywun sy'n fodlon gwneud ymdrech i wella sefyllfa gachu, na rhywun sy'n trio anwybyddu'r ffaith fod y sefyllfa gachu hono'n bodoli.
Tasa chdi'n medru mynd yn ol i ddiwedd 2002, be fysa dy ateb di i broblemau Irac, Sioni?