Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Mai 2004 5:04 pm

Sioni Size a ddywedodd:Garnet, ti'n llawn celwydd ffals. Faint wyt ti'n meddwl, neu wybod, oedd maint gormes Saddam ers y rhyfel cartref a fradychodd America ar ol rhyfel y gwlff, pan laddwyd cannoedd o filoedd o Shia? Dyna pam fod 93 ymlaen mor bwysig, i stopio chdi rhag defnyddio'r ffigwr hwnnw (a'r mass graves o'r rhyfel hwnnw) i ddiben dy bropaganda.

Dan ba dystiolaeth wyt ti'n nodi fod gormes Saddam yn y cyfnod o dros ddeg mlynedd werth y gyflafan yma? Dydi o ddim yn anodd. Mater o gymharu'r flwyddyn olaf hefo'r blynyddoedd blaenorol. Profa dy ffudd.


Be? Felly mae hi'n gwbwl gyfiawn anwybyddu'r miloedd a laddwyd gan Saddam cyn 1993, oherwydd mai "propoganda" fyddai crybwyll ffigyrau o'r fath? Ai "propoganda" ydi'r galar mae teuluoedd y miloedd hynny yn ei deimlo hefyd? Ai "propoganda" ydi'r creithiau sydd i'w gweld ar gyrff y rhai sy'n dal yn fyw?

Dwi'n gwrthod ail adrodd y drafodaeth ynglyn a record hawliau dynol Saddam yn ystod y 90au. Mewn edefyn hirfaith arall, mi wnes i gyflwyno adroddiad y CU ac adroddiad Amnest Rhyngwladol a oedd yn cadarnhau'r hyn on i'n ei honi. Sgen i ddim digon o fynadd i fynd i chwilio amdanyn nhw eto, mond oherwydd fod rhagfarn gwrth-Americanaidd yn rhwystro unrhyw ffeithiau sy'n herio dy safbwynt di rhag treiddio i mewn i dy ymenydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Gwe 21 Mai 2004 5:16 pm

Os dwti ddim isho dadla efo Sioni Garnet, paid. Dadleua efo riwun arall yn lle anwibyddu ei pwyntaiu nhw! (Fath fi er engraifft :winc:)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Mai 2004 8:45 am

Cwlcymro a ddywedodd:Os dwti ddim isho dadla efo Sioni Garnet, paid. Dadleua efo riwun arall yn lle anwibyddu ei pwyntaiu nhw! (Fath fi er engraifft :winc:)


Sori Cwlcymro, dwi'n dy anwybyddu di er mwyn ceisio osgoi gorfod ail-adrodd fy hun. Dwi wedi trafod hyn (y busnes cynhellion vs. canlyniadau) yn helaeth yn yr edefyn 'Ble mae'r WMDs?'. Toes 'na ddim pwynt mynd yn ol dros yr hen ddadleuon.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Mai 2004 10:49 am

Wel oes os wti yn yn defnyddio 'cael gwared o Saddam' fel ein rheswm ni dros ryfal.
Ma fel deud "Oh ontydwi yn dda yn gallu coginio Cacan Siocled", pan ma cinio dydd sul odda chdi'n trio ei wneud!!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Mai 2004 11:01 am

Cwlcymro a ddywedodd:Wel oes os wti yn yn defnyddio 'cael gwared o Saddam' fel ein rheswm ni dros ryfal.
Ma fel deud "Oh ontydwi yn dda yn gallu coginio Cacan Siocled", pan ma cinio dydd sul odda chdi'n trio ei wneud!!


Dwi'n mynd i ail-adrodd hyn unwaith, ac unwaith yn unig. Tydw i ddim yn credu ei bod hi fymrun o ots pam ein bod ni wedi mynd i ryfel, cyn belled ac fod canlyniadau'r rhyfel hwnw yn iawn. Wnes i rioed gredu Blair a Bush ynglyn a'r WMD, ond mi ydw i'n cefnogi'r rhyfel oherwydd yr effaith ar Irac, effaith positif yn fy marn i.

Mi fedri di fynd i ryfel am resymau cwbwl anghywir, ond cyflawni petha da. Cym, er enghraifft, yr ail ryfel byd. Mi aeth Prydain i ryfel yn erbyn yr Almaen er mwyn diogelu ei fuddianau ei hun - rheswm hunanol - ond fe lwyddon nhw i drechu natsiaeth, ac achub bywydau miliynnau lawer o Iddewon - canlyniad anhunanol.

Dyna pam fy mod i'n teimlo fod celwydd Blair ynglyn a'r WMDs yn bwysig ar lefel Brydeinig - h.y. mae'n codi cwestiynnau ynglyn a gonestrwydd ein gwleidyddion - ond tydi o'n gneud dim mymrun o wahaniaeth yn Irac ei hun, lle mae'r bobl yn wynebu dyfodol llawer gwell oherwydd y celwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Mai 2004 11:14 am

Dwi'n falch dy fod di mor ffyddiog ynglyn a dyfodol Irac. Ma'n well geni ddisgwyl a gweld. Pan fydd y milwyr Americanaidd yn gadael, pwy a wyr be ddigwyddith, mi fydd hi'n uffernol o anodd cael system ddemocrataidd mewn gwlad sydd wedi ei rhannu gymaint. Ma na obaith oes, on d ma na hefyd siawns dda y cawn ni sefyllfa fel Zimbabwe. Democrataidd mewn teitl yn unig.

A mae yn rhaid edrych yn bellach na Irac Garnet. Mae'r byd dwyreiniol mewn sefylklfa lot gwaeth o ran terfysgaeth rwan na oedd o cyn y rhyfal. Ma'r heddlu yn ei cymeryd hi'n ganiatol y bydd yna ymysodiad ar Brydain rhyw ddydd, ma Sbaen wedi ei chael hi'n barod.

A ma hyn i gyd cyn DECHRA son am y degau o filoedd ma'n milwyr ni wedi ei lladd yn Irac.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Mai 2004 11:24 am

Cwlcymro a ddywedodd:Dwi'n falch dy fod di mor ffyddiog ynglyn a dyfodol Irac. Ma'n well geni ddisgwyl a gweld. Pan fydd y milwyr Americanaidd yn gadael, pwy a wyr be ddigwyddith, mi fydd hi'n uffernol o anodd cael system ddemocrataidd mewn gwlad sydd wedi ei rhannu gymaint. Ma na obaith oes, on d ma na hefyd siawns dda y cawn ni sefyllfa fel Zimbabwe. Democrataidd mewn teitl yn unig.


A dyma'r union reswm pam ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n aros yn y wlad, ac yn sicrhau fod y sefydliadau sydd mor bwysig i gynnal democratiaeth - cyfansoddiad, senedd, heddlu etc. - yn llwyddo.

Cwl Cymro a ddywedodd:A mae yn rhaid edrych yn bellach na Irac Garnet. Mae'r byd dwyreiniol mewn sefyllfa lot gwaeth o ran terfysgaeth rwan na oedd o cyn y rhyfal. Ma'r heddlu yn ei cymeryd hi'n ganiatol y bydd yna ymysodiad ar Brydain rhyw ddydd, ma Sbaen wedi ei chael hi'n barod.


Dwi'n credu mai'r unig ffordd o danseilio terfysgaeth ydi drwy wella bywydau pobol yn y trydydd byd. Ac i mi, mae'n rhaid mynd ati i newid y modd y mae llawer o'r gwledydd yma yn cael eu llywodraethu cyn y gall hyn ddigwydd.

Cwl Cymro a ddywedodd:A ma hyn i gyd cyn DECHRA son am y degau o filoedd ma'n milwyr ni wedi ei lladd yn Irac.


Sydd yn drist iawn. Ond paid a smalio - fel mae Sioni Size yn ei wneud - fod Irac yn rhyw fath o wynfyd cyn i'r Americanwyr fynd i mewn. Mi oedd pobl yn marw yno beth bynnag, ac o leiaf mae'r rhyfel yn rhoi gobaith y gwnaiff petha newid yn y dyfodol, gobaith nad oedd yn bodoli flwyddyn a hanner yn ol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Mai 2004 11:31 am

Fyswn i byth yn deud fod y lle yn neis dan Saddam. Uffern oddo. Ond dydi hunna ddim yn esgus dros ladd dros 20,000 (a ma'n amhosib deud FAINT dros hunna, gan nad ydy nhw yn BODDRO cyfri y meirw bellach)

A dyma'r union reswm pam ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n aros yn y wlad, ac yn sicrhau fod y sefydliadau sydd mor bwysig i gynnal democratiaeth - cyfansoddiad, senedd, heddlu etc. - yn llwyddo.

Dwi'n cytuno fod yn rhaid i filwyr aros yn Irac rwan. Ma nhw wedi neud y mes, ma'n rhaid trio ei sortio fo allan. Dwi'm yn cwyno bod y milwyr yn AROS yn Irac, bo nhw wedi mynd yna yn y lle cynta sy'n fy mhoeni i.

Dwi'n credu mai'r unig ffordd o danseilio terfysgaeth ydi drwy wella bywydau pobol yn y trydydd byd. Ac i mi, mae'n rhaid mynd ati i newid y modd y mae llawer o'r gwledydd yma yn cael eu llywodraethu cyn y gall hyn ddigwydd.

A dwinna'n meddwl ma'r ffor waetha o danseilio terfysgaeth ydi mynd i ryfal a gwlad Fwslemaidd, lladd pobl gyffredin, arteithio carcharorion, fforsho Cyngor Reoli wti yn ei licio arny nhw, a cyndderio'r bobl leol gymaint bo nhw yn YMUNO efo terfysgwyr.

ac o leiaf mae'r rhyfel yn rhoi gobaith y gwnaiff petha newid yn y dyfodol, gobaith nad oedd yn bodoli flwyddyn a hanner yn ol.

Peth perryg iawn ydi deud ma canlyniad y rhyfal ydi rhoi 'gobaith' o fywyd gwell i bobl. Os na mond 'gobaith' da ni'n roi i bobl, mae'n hyd yn oed MWY pendant na ddylsa ni erioed fod wedi mynd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Mai 2004 1:03 pm

Cwlcymro a ddywedodd:A dwinna'n meddwl ma'r ffor waetha o danseilio terfysgaeth ydi mynd i ryfal a gwlad Fwslemaidd, lladd pobl gyffredin, arteithio carcharorion, fforsho Cyngor Reoli wti yn ei licio arny nhw, a cyndderio'r bobl leol gymaint bo nhw yn YMUNO efo terfysgwyr.


Efallai y gwnaiff hyn niwed i'r gorllewin yn y tymor byr, ond mae'n rhaid i chdi edrych tu hwnt i be sy'n digwydd ar y funud. Fedri di ddim disgwyl i wledydd y dwyrain canol ffynnu tra mae nhw o dan reolaeth pobl fel Saddam Hussein. Mi ydw i'n fodlon derbyn fod rhaid mynd trwy gyfnod poenus, byr, os ydym ni am weld byd gwell mewn blynyddoedd i ddod.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Mai 2004 1:15 pm

Wel ma well geni edrych ar betha fel mae'n nhw'n digwydd.
Sgen neb glem be ddigwyddith yn y tymor hir. Ella dy fod di'n iawn a y gwneith Irac droi yn wlad ddemocrataidd berffaith, a pawb yn cael ei hawliau.
Ond mai jusd mor debygol y cawn ni ffug-ddemocratiaeth arall lle ma petha ddim lot gwell na dan Saddam.
A dim ots sut lywodraeth fydd gan Irac, dwi'm yn gweld hynny yn lleihau y nifer o bobl droith at derfysgaeth. Dim ei amodau byw yrrodd y dynion i Madrid, ond ei atgasedd at America a gweddill y byd gorllewinol. Dwi'm yn gweld sut ma y rhyfal yn Irac yn gwneud dim ond adio at yr atgasedd yna.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron