Sioni Size a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:
Dwi'n cytuno ei bod hi'n warth fod America yn ystyried eu hunain uwchlaw cyfiawnder. Ond eto mae hi'n ormodiaeth deud y byddai uwch-swyddogion diweddar America yn wynebu'r un math o gyhuddiadau a Milosevic a Saddam.
Dwyt ti'n dysgu dim nac wyt, Garnet.
Mae 'na wahaniaeth rhwng rhai o'r pethau gwarthus mae America wedi eu gwneud, a chenedl-laddiad, sef y cyhuddiad y mae Milosevic yn ei wynebu.
Sioni Size a ddywedodd:Mae dy gyfraith di'n joc, Garnet.
Fi a Saddam?
Mae'r ddau ohonoch yn barnu pobl eraill yn ol eich safonau mympwyol eich hunain, yn hytrach nac yn ol safonau gwrthrychol, allanol. Yn ol dy linyn mesur di, mae trosedd sy'n cael ei chyflawni gan filwr Americanaidd
wastad yn waeth na'r un drosedd wedi ei chyflawni gan filwr Iracaidd.
Sioni Size a ddywedodd:Bechod fod na ddim cyfreithiau'n bodoli i warchod pobl rhag America ynde Garnet?
Dwyt ti'n amlwg ddim yn gweld dim elfen o gwbl o ragrith yn yr holl beth. Ddim hyd yn oed yn y ffaith mai ymysg y 'cyfreithiau' fydd gan "lywodraeth" (ennyd i geisio dadebru)... newydd Irac yw na fydd hawl gan Iraciaid i erlyn yr un Sais na American am unrhyw beth, unrhyw droseddau, maent yn ei gyflawni. Boed i Dduw ein bendithio gyda'r Gyfraith.[/b]
Darllen fy ateb i uchod - dwi'n meddwl ei bod hi'n warth bod America yn ystyried ei hun uwchlaw cyfraith ryngwladol. Ond mae hi'n anghywir trio deud fod hyn yn meddwl fod America yn gweithredu yn gwbwl ddi-gyfraith. Safbwynt America ydi fod cyfraith yn rhywbeth cenedlaethol, yn hytrach na rhyngwladol. Mae nhw'n credu mai ei cyfrifoldeb nhw ydi cosbi eu milwyr eu hunain, a nid cyfrifoldeb neb arall. Dwi'n anghytuno efo nhw, ond eto dwi'n cydnabod fod hyn yn wahanol i ymddygiad Saddam, a oedd yn gosod ei hun uwchlaw
pob cyfraith.