Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 20 Mai 2004 3:44 pm

Diolch, Sioni. Nawr, ble roddes i'r 'depleted uranium' sbar 'na?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Garnet Bowen » Iau 20 Mai 2004 5:48 pm

Sioni Size a ddywedodd:Yn union CwlCymro

Garnet Bowen
'Da ni wedi bod drwy hyn droeon yn yr edefyn arall, a twyt ti'n gneud dim byd ond rhoi cur pen i Nic drwy fod mor uffernol o ail-adroddus.

Ah, heb arlliw o eironi. Ysblennydd.
A fy nghwestiwn i - cwestiwn sy'n cael ei anwybyddu gan Dan a Sioni - ydi be yda chi'n ei gynnig fel ateb i broblemau Irac? Os ydych chi'n fodlon derbyn fod llywodraeth fel un Saddam Hussein yn annerbyniol, sut mae mynd ati i ddatrys y broblem, heb fynd i ryfel?

Mae 'na reswm da pam fy mod i'n ail-adroddus. Dwyt ti ddim yn fodlon ateb y cwestiwn. Tasa gen ti'r grym, ar ddiwedd 2002, i benderfynnu sut oedd y byd yn mynd i ddelio a gormes Saddam Hussein, be fysa chdi'n ei wneud?

Ar y pryd, fe gynnigwyd tri dewis. Un oedd gwneud dim byd, a gadael i bobl Irac ddioddef. Un arall oedd gadael i'r archwilwyr arfau wneud eu gwaith - ond beth wedyn? Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes? A'r dewis olaf oedd mynd i ryfel, i'w ddisodli fo, a cheisio creu rhywbeth gwell.

I mi, mynd i ryfel oedd y dewis gora oedd ar gael. Wyt ti'n medru cynnig rhywbeth gwell y galla ni fod wedi ei wneud?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Iau 20 Mai 2004 5:53 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes?

Oedd na ormes gan Saddam ar y pryd?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Mai 2004 7:33 am

Dan Dean a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes?

Oedd na ormes gan Saddam ar y pryd?

Unwaith eto ti'n osgoi ateb y cwestiwn. Prin fod 'na neb sy'n gwadu fod llywodraeth Saddam Hussein - hyd yn oed drwy'r 90au - yn un gormesol. Tydi hyd yn oed y mudiadau gwrth-Americanaidd mwyaf eithafol ddim yn gwneud honiad mor dwp. Yr unig bobl dwi wedi eu clywed yn cwestiynnu'r ffaith fod gormes yn bodoli yn Irac Saddam Hussein ydi Sioni Size a chdi.

Ateb y cwestiwn - sut bysa chdi wedi mynd ati, ar ddiwedd 2002, i ddatrys problemau Irac?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Gwe 21 Mai 2004 9:25 am

Garnet Bowen a ddywedodd:

Felly oedd gormes Saddam ar ei bobol yn 2002 MOR ddrwg fel bod RHAID i ni fynd i ryfel. Felly sa ni heb fynd i ryfel sa'r Iraciaid mewn peryg.
Aaaaaaaaaaaa. Dallt wan. :rolio:

Garnet Bowen a ddywedodd:Yn y pen draw, dewis hunanol, un-llygeidiog ydi gwrthwynebu'r rhyfel yma.

Nage. Oni'n gwbod sa'r sefyllfa yn mynd yn waeth yn Irac. Ti'n gofyn i mi, a bawb arall sy'n erbyn rhyfel: "WEL, BE SA CHDI YN NEUD, EH?" ond dim dyna yw'r point. Nes i ddim fod yn erbyn y rhyfel yma achos fy mod yn "hunanol". Oeddwn yn gwbod yn iawn sa'r rhyfel yn ffwcio fyny petha mwy na fuasai di gwella petha. Mae'n edrych dy fod ti heb sylwi hynnu eto Garnet.

Wel Dan, be sa CHDIII di neud i ddatrys problemau Irac, y blydi leffdi "hunanol"

Er pa mor ormesol oedd Saddam, cyn y rhyfel, nid Saddam oedd y bygythiad mwyaf pobol Irac. Y sanctiynau oedd yn creu y problemau mwyaf. Uffar o ddim byd yn cael mynd i fewn i Irac. Offer meddygol, bwyd, pensilia, poteli blastic, iw nem ut. Ffyc ol. Am dros ddegawd. Ac oedd hyn yn ystod y cyfnod tra oedd Depleted Uranium di cymysgu efo'r aer, gan achosi afiechyd diawledig. Felly un step sa gadael y petha ma i fewn. Sa bywyd Iraciaid di mynd yn well wedyn.

Sw ni'n gallu cario mlaen, ond mae'r syniad uchod ei hun yn edrych yn syniad gwell i'r Iraciaid na gyrru miloedd ar filoedd o filwyr a bomia yno, gan chwalu'r wlad yn deilchion, lladd degau o filoedd o'u drigolion (yn cynnwys bomio priodas, lladd 40 a wedyn trio deud wrth y byd nad oedd o'n briodas), gan adael Al-Quaida i fewn i fewn i wneud petha'n waeth, a hefyd rhoi mwy o esgusion a mwy o recrwts i Al Quaida ymosod ar y byd Orllewinol.
Oeddwn yn gwbod yn iawn na hyn fuasai'n digwydd. Dyna pam oeddwn yn erbyn y rhyfel.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan GT » Gwe 21 Mai 2004 9:31 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes?

Oedd na ormes gan Saddam ar y pryd?

Unwaith eto ti'n osgoi ateb y cwestiwn. Prin fod 'na neb sy'n gwadu fod llywodraeth Saddam Hussein - hyd yn oed drwy'r 90au - yn un gormesol. Tydi hyd yn oed y mudiadau gwrth-Americanaidd mwyaf eithafol ddim yn gwneud honiad mor dwp. Yr unig bobl dwi wedi eu clywed yn cwestiynnu'r ffaith fod gormes yn bodoli yn Irac Saddam Hussein ydi Sioni Size a chdi.

Ateb y cwestiwn - sut bysa chdi wedi mynd ati, ar ddiwedd 2002, i ddatrys problemau Irac?

Dichon dy fod yn gywir bod gan yr UDA ddeled i bobl Irac. Wedi'r cwbl, hwy oedd yn gyfrifol am annog Saddam i fynd i ryfel yn erbyn Iran, nhw oedd yn gyfrifol am ganiatau i Saddam gael yr arfau a'i cadwodd mewn grym, ac a ymysododd ar Irac wedi i Saddam ymddwyn fel, wel Saddam yn 91.

Lladdwyd degau o filoedd, canoedd o filoedd o Iraciaid efallai oherwydd yr uchod. Ymateb yr UDA i hyn oedd sancsiynau a rhyfel arall. Y canlyniadau oedd lladd degau o filoedd o Iraciaid eto. Ti yn dweud 'Popeth yn dda, yn y diwedd mi gaiff yr hogiau pethau yn iawn, a bydd Irac mor ddemocrataidd a Florida".

Wedyn ti'n gofyn i Dan Dean, Sioni Size et al - 'Wel beth fyddech chi yn ei yn ei wneud?'
Ateb 1 - Peidio cefnogi ac annog Saddam i ryfela yn y lle cyntaf.
Ateb 2 - Wedi peidio defnyddio ateb 1, dangos ychydig o wyleidd dra a pheidio a chymryd camau oedd am ladd mwy o Iraciaid. Mae yna waeth pethau na gwneud dim byd llawer - yn arbennig lle mae hynny yn golygu lladd y di niwed.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Gwe 21 Mai 2004 11:49 am

Garnet, ti'n llawn celwydd ffals. Faint wyt ti'n meddwl, neu wybod, oedd maint gormes Saddam ers y rhyfel cartref a fradychodd America ar ol rhyfel y gwlff, pan laddwyd cannoedd o filoedd o Shia? Dyna pam fod 93 ymlaen mor bwysig, i stopio chdi rhag defnyddio'r ffigwr hwnnw (a'r mass graves o'r rhyfel hwnnw) i ddiben dy bropaganda.

Dan ba dystiolaeth wyt ti'n nodi fod gormes Saddam yn y cyfnod o dros ddeg mlynedd werth y gyflafan yma? Dydi o ddim yn anodd. Mater o gymharu'r flwyddyn olaf hefo'r blynyddoedd blaenorol. Profa dy ffudd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Gwe 21 Mai 2004 2:43 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na reswm da pam fy mod i'n ail-adroddus. Dwyt ti ddim yn fodlon ateb y cwestiwn. Tasa gen ti'r grym, ar ddiwedd 2002, i benderfynnu sut oedd y byd yn mynd i ddelio a gormes Saddam Hussein, be fysa chdi'n ei wneud?
Ar y pryd, fe gynnigwyd tri dewis. Un oedd gwneud dim byd, a gadael i bobl Irac ddioddef. Un arall oedd gadael i'r archwilwyr arfau wneud eu gwaith - ond beth wedyn? Os nad oedden nhw'n dod o hyd i unrhywbeth a oedd yn mynd i fygwth ein bodolaeth bach breintiedig ni yn y gorllewin, oedda ni am adael i Saddam ddal ati efo'i ormes? A'r dewis olaf oedd mynd i ryfel, i'w ddisodli fo, a cheisio creu rhywbeth gwell.
?

Ma'n raid i finna ail-adrodd hefyd Garnet, achos dwy ti ddim yn fodlan gwrando ar be dwi'n ddeud.

Nath Blair byth ddweud ein bod ni'n mynd i Irac i doplo Saddam. Doedd cael gwared o Saddam ddim ar ei restr gwneud o. Cael gawred o WMD Saddam oedd y targed, dyna pam ddudodd o y bysa ni ddim yn cyffwrdd Saddam os fysa fo'n datgelu ei arfa.
Mi WNAETH Saddam ddatgelu ei arfa, ond doedd Blair ddim yn ei goelio fo. Mi gafodd Blair yr holl 'dystiolaeth' na ei goblo fyny (hwnnw am 45 munud a cachu tebyg) a mi lwyddodd o i gonfinsho Ty'r Cyffredin fod gan Saddam arfau cudd, ag am nad oedd o yn ei datgelu mi oedd yn raid i ni fynd i'w nol ein hunan.
BYTH ddoth 'rhyddhau' pobl Irac i fewn i'r sdori. Mi odd Bush yn gwthio'r fersiwn yna ychydig, ond neb yn Brydain.

Felly mae dy '3 dewis' di yn anghywir. Dim tri dewis dros be i wneud am Saddam oedd yna, ond dau ddewis am be i'w wneud am ei WMD o.
Gadael i Hans Blix a'i dim chwylio a darganfod fod na bygar all yna.
Neu mynd mewn efo'r tancs a ffendio allan rhyw 6 mis yn gynt fod na bugger all yna.

Ti yn barod i ddadla dros y rhyfal am y rheswm o 'ryddhau'r Iraciaid. Ond dim dyna oedd y rheswm dros y rhyfal. Dim ond wedi'r rhyfal, ar ol i Blair sylwi fod yr WMD, ei holl reswm o dros y rhyfal, ar goll, wnaeth o ddechra gwthio'r fersiwn newydd ma.

Fel ddudis i yn gynt, ma Blair yn trio newid hanas i'w siwtio fo, ddylsa ddim un ohona ni adael iddo wneud hunna.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Mai 2004 4:57 pm

GT a ddywedodd:Wedyn ti'n gofyn i Dan Dean, Sioni Size et al - 'Wel beth fyddech chi yn ei yn ei wneud?'
Ateb 1 - Peidio cefnogi ac annog Saddam i ryfela yn y lle cyntaf.
Ateb 2 - Wedi peidio defnyddio ateb 1, dangos ychydig o wyleidd dra a pheidio a chymryd camau oedd am ladd mwy o Iraciaid. Mae yna waeth pethau na gwneud dim byd llawer - yn arbennig lle mae hynny yn golygu lladd y di niwed.

Dwi'n cytuno'n llwyr efo chdi ynglyn ac ateb 1. Gofyn ydw i sut mae mynd ati i ddatrys y problemau sydd wedi eu hachosi gan gefnogi Saddam dros y blynyddoedd. Gofyn ydw i be oedd yr ateb ddwy flynedd yn ol, a nid be oedd yr ateb ddeugain mlynedd yn ol. Erbyn hynny, mi oedd gormes Saddam - a rhan America yn y gormes hwnw - yn rhywbeth a oedd yn cael ei brofi bob dydd gan Iraciaid cyffredin. Mi fedri di fynd ati i ddadlau dros pwy sy'n bennaf gyfrifol am y gormes yma, ne mi fedri di fynd ati i wneud wbath am y peth. Pa un wyt ti'n ei feddwl sydd bwysicaf?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Gwe 21 Mai 2004 5:00 pm

Ond dwi'n deud (ETO!!) ma dim dyna natha ni flwyddyn a mwy yn ol. Dim mynd yno i stopio'r gorthrym oedd
yn rhywbeth a oedd yn cael ei brofi bob dydd gan Iraciaid cyffredin
natha ni. Mynd yna achos fod Saddam yn berrygl i NI natha ni.

Ma gan pawb ei barn be oedd rheswm Blair a Bush yn guddiedig (ella bo chdi'n meddwl fod Blair wedi pwsho'r WMD er mwyn cael pobl i'w gefnogi, ond ma 'rhyddhau' Iraciaid oedd o isho tu mewn. Ma Sioni yn meddwl ma er mwyn olew ydio) Da ni ddim yn gwtybod. Be da ni YN gwybod ydi'r rheswm swyddogol dros mynd i'r rhyfal. Y rheswm nath Ty'r Cyffredin bledleisio drosto. A doedd gan hwnnw DDIM i'w wneud a 'rhyddhau' Irac.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron