Postiwyd: Gwe 28 Mai 2004 3:25 pm
Sioni Size a ddywedodd:Yndi, 6000 yn ormod, Garnet, ond siawns, siawns, fod y rhesymeg o gyfiawnhau'r siambls llwyr yma a'r holl bobl sydd wedi dioddef oherwydd y ffigwr hwnnw dros 11 mlynedd, yn idiotic. Yn ol Garnet, mae Saddam yn waeth nac America, sydd wedi achosi oddeutu miliwn a hanner o farwolaethau dros yr un cyfnod gyda'r sancsiynau a'r rhyfela yn Irac yn unig, heb son am eu hanturiethau eraill dros y byd i gyd yn grwn.
Mi oedd Saddam yn cynnig dau ddewis i'r byd. Gadael iddo fel arweinydd Irac, gan adael iddo gario ymlaen i lofruddio (peidied ac anghofio'r 250,000+ a oedd wedi eu lladd ganddo yn y 30 mlynedd blaenorol), neu penderfynnu mynd i ryfel a fyddai'n lladd, ac yn brifio, am gyfnod byr, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y tymor hir.
Sioni Size a ddywedodd:Aha - mae Cosofo ddigon doji, ond dwi di cael llond bol ar fwy nac un yma yn rhoi Somalia fel enghraifft o ddaioni America. Felly dwi'n dechrau edefyn arall am hwnnw.
Gai sbec ar yr edefyn arall mewn eiliad ("Oedd na olew yn Somalia etc."), ond gai ofyn, ym mha ffordd oedd Cosofo yn "doji"?
Sioni Size a ddywedodd:
Ia, efallai dylid stopio meddwl mor 'orientalist' am y pethau yma. 6000 o bobl = bomiwch Saddam!
Eto, mae grym dy feddwl di'n frawychus.