Zapatro-dewrder

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Chwadan » Maw 18 Mai 2004 4:59 pm

Garnet a ddywedodd:Er fod yr holl rethreg yn erbyn y rhyfel wedi ei wisgo mewn geiriau dyngarol, toes 'na ddim byd yn mynd i achosi mwy o ddioddefaint na sefyllfa lle mae gwledydd cyfoethog y byd yn troi ei cefnau ar y gwledydd tlawd, am eu bod nhw ofn gwneud llanast.

Ond nid rhyfel ydi'r unig ffordd o arbed gwlad rhag tlodi enbyd. Ma na wahaniaeth rhwng troi cefn ar artaith a thotalitariaeth a throi cefn ar dlodi fedsa gael ei arbed drwy roi cymorth dyngarol. Dwi'n cytuno a ti fod hunanoldeb gwledydd cyfoethog yn achosi dioddefaint ofnadwy, ond di'r ddadl ddim yn berthnasol i fynd i ryfel ag Irac, hyd yn oed os oedd gan Brydain ac UDA gymhellion dyngarol.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Garnet Bowen » Mer 19 Mai 2004 7:53 am

Chwadan a ddywedodd:
Garnet a ddywedodd:Er fod yr holl rethreg yn erbyn y rhyfel wedi ei wisgo mewn geiriau dyngarol, toes 'na ddim byd yn mynd i achosi mwy o ddioddefaint na sefyllfa lle mae gwledydd cyfoethog y byd yn troi ei cefnau ar y gwledydd tlawd, am eu bod nhw ofn gwneud llanast.

Ond nid rhyfel ydi'r unig ffordd o arbed gwlad rhag tlodi enbyd. Ma na wahaniaeth rhwng troi cefn ar artaith a thotalitariaeth a throi cefn ar dlodi fedsa gael ei arbed drwy roi cymorth dyngarol. Dwi'n cytuno a ti fod hunanoldeb gwledydd cyfoethog yn achosi dioddefaint ofnadwy, ond di'r ddadl ddim yn berthnasol i fynd i ryfel ag Irac, hyd yn oed os oedd gan Brydain ac UDA gymhellion dyngarol.

A fy nghwestiwn i - cwestiwn sy'n cael ei anwybyddu gan Dan a Sioni - ydi be yda chi'n ei gynnig fel ateb i broblemau Irac? Os ydych chi'n fodlon derbyn fod llywodraeth fel un Saddam Hussein yn annerbyniol, sut mae mynd ati i ddatrys y broblem, heb fynd i ryfel?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Mer 19 Mai 2004 4:23 pm

Mae'n well gen i rywun sy'n fodlon gwneud ymdrech i wella sefyllfa gachu, na rhywun sy'n trio anwybyddu'r ffaith fod y sefyllfa gachu hono'n bodoli.

Mae'n well geni i rywyn sydd ddim yn neidio mewn i ryfel heb drio meddwl be i wneud pan ma'r ymladd 'drosodd'. Mi oedd mynd mewn i Iraq heb gefnogaeth mwy na dyrniaid o wledydd, heb unrhyw blan at sut i ddelio a 'post-war' Irac yn gangymeriad uffernol, a cangymeriad oedd pawb yn ei ddisgwyl.
Mae'r ffaith ei bod nhw wedi dweud clwyddau i gael unrhyw fath o gefnogaeth i fynd yno yn ei gwneud hi LLAWER gwaeth.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Mer 19 Mai 2004 4:48 pm

Cwlcymro a ddywedodd:

Ac eto, dwi'n gofyn - be fysa chdi wedi ei wneud 'ta?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Mer 19 Mai 2004 4:56 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:
Mae'n well gen i rywun sy'n fodlon gwneud ymdrech i wella sefyllfa gachu, na rhywun sy'n trio anwybyddu'r ffaith fod y sefyllfa gachu hono'n bodoli.

Mae'n well geni i rywyn sydd ddim yn neidio mewn i ryfel heb drio meddwl be i wneud pan ma'r ymladd 'drosodd'. Mi oedd mynd mewn i Iraq heb gefnogaeth mwy na dyrniaid o wledydd, heb unrhyw blan at sut i ddelio a 'post-war' Irac yn gangymeriad uffernol, a cangymeriad oedd pawb yn ei ddisgwyl.
Mae'r ffaith ei bod nhw wedi dweud clwyddau i gael unrhyw fath o gefnogaeth i fynd yno yn ei gwneud hi LLAWER gwaeth.

Ac eto, dwi'n gofyn - be fysa chdi wedi ei wneud 'ta?

Peidio mynd i ryfel ella? Sa'r sefyllfa chydig gwell ma siwr bysa?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Jeni Wine » Mer 19 Mai 2004 5:02 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Ac eto, dwi'n gofyn - be fysa chdi wedi ei wneud 'ta?

Ti weld yn barod iawn i groesholi bobol ar y maes ma ynglyn â "be fasa chi'n gneud yn y sefyllfa yma", ond dydi'r rhan fwyaf o bobl ar y maes ma ddim yn gwybod sut i redag gwlad. Onid oes gan bobl hawl i wrthwynebu'r llywodraeth heb orfod cynnig ateb gwell? Onid oes gynnon ni hawl fel pobl i wrthwynebu mynd i ryfal, er nad oes gynnon ni ateb amgen i'r problemau?
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Cwlcymro » Mer 19 Mai 2004 5:43 pm

Os fyswn i yn gwybod yr ateb mi fyswn i yn brif weinigog Garnet.

Dwi ddim yn gwybod sut fysa'r ffordd ora i sortio Israel a Palestine chwaith, ond dwi dal yn credu fod genai'r hawl i ddeud fy marn ar dacteg anghygoel o ffwl George Bush a Ariel Sharon.

Ond ma hyd yn oed person fel fi sydd ddim yn gwybod be i'w wneud dal yn gwybod fod ffordd Blair a Bush yn anghywir.

Rwan mi oedden ni'n trafod pwnc newydd, sef ymddygiad Sbaen, a'r ffaith fod gwledydd Ewrop wedi methu a meddwl am ffordd arall o ymdrin a Saddam.

Dydi'r ffaith ma ffordd Bush ydi'r unig ffordd a gynigwyd ddim yn golygu ma honno ydi'r ffordd iawn o bell ffordd Garnet. Mae'n golygu fod y rhan fwya o'r Dwyrain wedi edrych ar ffordd Bush a sylwi ei fod yn un gwael.

Ond dydi'r meddylfryd 'Ma well gen i rywun driodd a fethodd na riwun nath wneud dim' ddim yn gweithio pan ma na 20,000 yn farw a £4m yn cael ei wastraffu pob diwrnod (gan Brydain yn unig, sgenaim clem faint ma America wedi ei wario!)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Iau 20 Mai 2004 7:59 am

Jeni Wine a ddywedodd:Ti weld yn barod iawn i groesholi bobol ar y maes ma ynglyn â "be fasa chi'n gneud yn y sefyllfa yma", ond dydi'r rhan fwyaf o bobl ar y maes ma ddim yn gwybod sut i redag gwlad. Onid oes gan bobl hawl i wrthwynebu'r llywodraeth heb orfod cynnig ateb gwell? Onid oes gynnon ni hawl fel pobl i wrthwynebu mynd i ryfal, er nad oes gynnon ni ateb amgen i'r problemau?

Mae gen ti bob hawl i feddwl be lici di, Jeni. Ond mae hyn yn golygu condemnio pobl gyffredin Irac i fwy o ddioddefaint. Tydw i ddim yn fodlon byw mewn byd lle mae fy nghyd-ddyn i yn gorfod dioddef y math o ormes a oedd yn asgwrn cefn i Irac Saddam Hussein. Ac os ydi dod a'r gormes i ben yn golygu fod 'na bobl yn cael eu lladd a'u niweidio, yna dwi'n meddwl ei fod o'n bris sy'n werth ei dalu.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Iau 20 Mai 2004 2:17 pm

Mae gen ti bob hawl i feddwl be lici di, Jeni. Ond mae hyn yn golygu condemnio pobl gyffredin Irac i fwy o ddioddefaint. Tydw i ddim yn fodlon byw mewn byd lle mae fy nghyd-ddyn i yn gorfod dioddef y math o ormes a oedd yn asgwrn cefn i Irac Saddam Hussein. Ac os ydi dod a'r gormes i ben yn golygu fod 'na bobl yn cael eu lladd a'u niweidio, yna dwi'n meddwl ei fod o'n bris sy'n werth ei dalu.

Ond eto ti yn fodlon byw mewn gwlad sy'n gormesu Iraciaid ei hun?
Sy'n ran o 'coelition' sy'n lladd a treisio carcharorion?
Ti'n hapus i fyw dan lywodraeth sy'n barod i ddweud celwydd i'n cael ni i gytuno i ryfela?

Os na rhyfal ydi yr atab gora i sefyllfaoedd fel hyn, pryd ti am ofyn i Blair fynd a milwyr i Zimbabwe, i Israel, i Gogledd Korea ac i bob un o'r gwledydd arall tebyg?

Hyd yn oed os fyswn i'n gallu anghofio'r 20,000 marw (peth annodd iawn i wneud) fyswn i methu cefnogi'r rhyfal yma am ein bod ni wedi mynd mewn iddo fo am y rhesyma hollol anghywir.

Atha ni ddim yna i 'ryddhau' yr Iraciaid. Mi atha ni yna achos fod Blair yn deud fod gan Saddam WMD oedd yn beryglus i ni. WMD fysa yn gallu cael ei saethu o fewn 45 munud (cofio?).
Mi ath Blair mor bell a deud, diwrnoda cyn y bomb cynta, y bysa nhw'n gadal Saddam i fod os fysa fo'n datgelu yr arfau. Mi ddudodd Saddam nad oedd ganddo fo. A mi odd y basdyn yn deud gwir am unwaith!
Felly mi benderfynodd Blair ddefnyddio y 'reverse gear' na ma'n trio cuddio a deud nad oedd y WMD yn bwysig, a ma'r unig reswm dros fynd i Irac oedd i 'ryddhau' y bobl. Mae'n trio ei ora i newid hanes, a ddylsa ni wneud popeth da ni'n gallu i'w stopio fo.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Iau 20 Mai 2004 3:39 pm

Yn union CwlCymro

Garnet Bowen
'Da ni wedi bod drwy hyn droeon yn yr edefyn arall, a twyt ti'n gneud dim byd ond rhoi cur pen i Nic drwy fod mor uffernol o ail-adroddus.

Ah, heb arlliw o eironi. Ysblennydd.
A fy nghwestiwn i - cwestiwn sy'n cael ei anwybyddu gan Dan a Sioni - ydi be yda chi'n ei gynnig fel ateb i broblemau Irac? Os ydych chi'n fodlon derbyn fod llywodraeth fel un Saddam Hussein yn annerbyniol, sut mae mynd ati i ddatrys y broblem, heb fynd i ryfel?

Reit. Mae Saddam wedi ei ddal. Arbennig. Hyd yn oed petai pawb yn Irac wedi eu lladd a'r byd wedi ei hitio i gwrs yr haul mi fysa ti dal yn dweud "Wel, digon hawdd beirniadu, ond sut fysa chi wedi delio a Saddam, y?"
Mae Garnet yn gofyn beth yw'r opsiwn arall i ymladd gormes. Rwan fe wnawn gymryd yn ganiataol mai dyma yw pwrpas America o amgylch y byd - achub dynol ryw rhag gormes ( :lol: :crio: :lol: ).
Hyn fyswn i'n neud:
a) Sefydlu a chefnogi'r unben ffiaidd yn y lle cyntaf gan ddisodli llywodraeth ddemocrataidd yn y broses
b) Arfogi'r unben hwnnw i ymladd yn erbyn gwledydd eraill
c) Sylweddoli fod na fwy o werth mewn niweidio gwlad yr unben hynny, yn enwedig gan nad oedd yn dilyn cyfarwyddiadau mor drylwyur ag yr oedd ynghynt
ch) Gosod sancsiynau ar ei wlad - dim byd yn cael mynd i fewn o gwbl, yn cynnwys moddion, offer meddygol na bwyd. Bydd hyn yn dinistrio yn y diwedd ei wlad lwyddiannus, oedd yn darparu iechyd ac addysg o safon arbennig i'w thrigolion a hefyd yn trin ei dinasyddion benywaidd gyda pharch a statws, oedd yn creu gelyniaeth eithriadol gyda'r ffacsiynau eithafol mwslemaidd. Boed i'r sancsiynau barhau am 10 mlynedd, gan ladd bron i ddeg y cant o'i phoblogaeth ac effeithio fwyaf ar blant a'r sal yn y wlad, y rhai gwanaf
d) Ymosodiadau milwrol ar y wlad honno yn rheolaidd dros y cyfnod hwn, er mwyn dangos grym
dd) Sicrhau, drwy ddefnyddio'r UN, nad oedd arfau gan y wlad i amddiffyn ei hun. Creu celwydd a thwyll i'r diben o argyhoeddi'r byd fod Irac yn dweud celwydd am ei harfau
e) Penderfynu, o'r diwedd, i oresgyn y wlad yn filwrol gan ei bod bellach yn llawer rhy wan i amddiffyn ei hun. Defnyddio'r celwydd i geisio perswadio'r byd fod angen gweithredu yn erbyn yr unben ffiaidd a'i arfau dinistriol. Wrth fethu perswadio'r byd am y celwydd, ymosod p'run bynnag. Bols i'r byd.
f) Malu'r wlad a'i strwythurau, gan ei gorchuddio unwaith yn rhagor a'r gwenwyn angeuol sy'n dod o dan yr enw 'Depleted Uranium' a sydd wedi achosi ffrwydriad anferth mewn canser a genedigaethau babanod heb lygaid, breichiau, coesau a nifer o bethau rhyfedd a hyll eraill, mor droedig ar brydiau nes eu bod tu hwnt i ddisgrifiadau
ff) Ar ol ei goresgyn yn llwyddianus, gan ladd 70,000+ o'i thrigolion drwy ddulliau amrywiol yn cynnwys bomio clwster, gwneud yn siwr fod yr adnoddau crai megis olew er enghraifft yn saff. Rhoi llwyth o filwyr i amddiffyn yr olew, a rhoi dim i amddiffyn yr ysbytai a'r ysgolion (wel, i ba fudd ynde). Yna rhoi cytundebau anferth i gwmniau o wledydd y goresgyn er mwyn manteisio ar y cyfleon arbennig yma i wneud arian.
g) Gwneud yn siwr fod y bobl lleol yn deall pwy yw'r bos. Er mwyn delwedd ryngwladol, sefydlu pwyllgor o hen elynion yr unben oedd wedi dinac i'n gwlad a gweithio gyda ni er mwyn esmwytho'r goresgyn.
ng) Dal yr hen unben mewn carchar yn rhywle heb ei roi ar brawf. Byddai hynny'n arddangos ychydig o wirioneddau anffodus, felly gwell i bawb anghofio
h) Gwneud $18,000,000,000 o arian o olew y wlad mewn blwyddyn, sydd yn eitha da. Rhoi £9 biliwn o'r arian i dalu cwmniau preifat ein gwlad, nifer yn gysylltiedig a unigolion ein llywodraeth, gan gadw'r $9 biliwn arall yn yr American Federal Reserve (banc y wlad) a chymryd mai America fyddai'n delio a'r gormes penodol yma wrth gwrs

Tecstbwc. Dyna lawlyfr perffaith ar gyfer delio a'r gormes ofnadwy sy'n rhemp yn y byd, i unrhyw ddarpar wleidyddion allan yn fana.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron