Tudalen 1 o 1

YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH - DYDD LLUN / MAWRTH 24

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2003 5:03 pm
gan Hedd Gwynfor
YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH - DYDD LLUN MAWRTH 24

Bellach, mae Bush a Blair wedi cychwyn ar eu cyflafan yn Irac. OND, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros gymryd cam o’r fath a fydd yn arwain at ladd miloedd o bobl ddiniwed. Rhaid i ni godi llais dros heddwch!

Un ffordd syml o wneud hynny yw trwy ymuno mewn ympryd 24 awr a gynhelir ddydd Llun yma, Mawrth 24.

Trwy ymrwymo i fynd heb fwyd o 8.30am ar fore dydd Llun hyd at 8.30am y bore canlynol, gallwn bwysleisio, mewn modd tawel a di-drais, ddifrifoldeb ein gwrthwynebiad i’r rhyfel anghyfiawn hwn. Ar yr un pryd, bydd yn fodd i ni uniaethu gyda phobl Irac wrth iddynt wynebu cyfnod argyfyngus.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan, rhowch wybod trwy ddanfon ebost i hedd@cymdeithas.com neu trwy ffonio (01970) 624501. Bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr genedlaethol ac yn cael ei ddanfon ymlaen i Tony Blair yn 10 Downing Street ac hefyd at Rhodri Morgan yn y Cynulliad Cenedlaethol. Wrth gysylltu, dylech nodi eich enw llawn a'ch cyfeiriad.

Yn ogystal, os ydych yn cymryd rhan, dylech ddanfon neges at eich A.S. ac A.C. lleol, gan nodi eich bod wedi ymprydio ac eich bod yn disgwyl iddynt hwythau hefyd i godi llais dros heddwch.

Noder - trwy ymuno yn yr ympryd, rydych yn ymrwymo i beidio bwyta unrhyw fwyd nac yfed diodydd melys am gyfnod o 24 awr. Byddwch ond yn medru yfed dwr.

Re: YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH - DYDD LLUN / MAWRTH 24

PostioPostiwyd: Llun 31 Mai 2004 12:11 pm
gan Mwnci Banana Brown
Hedd Gwynfor a ddywedodd:YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH - DYDD LLUN MAWRTH 24

Trwy ymrwymo i fynd heb fwyd o 8.30am ar fore dydd Llun hyd at 8.30am y bore canlynol, gallwn bwysleisio, mewn modd tawel a di-drais, ddifrifoldeb ein gwrthwynebiad i’r rhyfel anghyfiawn hwn.


Na beth yw load o bull! Shwd ddiawl ti'n pwysleisio difrifoldeb trwy beidio a byta am 24awr!! Sim en mynd i helpu neb. Yr unig beth da syn mynd i ddod mas o fe yw bo chi gyd yn sylweddoli pa mor stiwpid 'y chi! Sim Tony Blair yn mynd i wrando ar bunch o dieters mwy na gold fish Anti Fanw drws nesa! O ie.. a chi gyd mynd i starfo cyn diwedd!

Re: YMPRYD GENEDLAETHOL DROS HEDDWCH - DYDD LLUN / MAWRTH 24

PostioPostiwyd: Llun 31 Mai 2004 12:25 pm
gan Macsen
Um, beth yn union oedd pwynt rhoi *bwp* i'r edefyn hwn? Mae'r peth wedi bod drosodd ers flwyddyn... :?

PostioPostiwyd: Llun 31 Mai 2004 1:22 pm
gan Mwnci Banana Brown
jyst wedi gweld e a wedyn rhoi fy marn- simple as!

PostioPostiwyd: Llun 31 Mai 2004 2:01 pm
gan Macsen
Wel tydi dy farn di ddim yn cyfri. :winc:

PostioPostiwyd: Llun 31 Mai 2004 3:21 pm
gan Cwlcymro
Digon hawdd deud nad ydi Blair am wrando blwyddyn yn hwyach tydi Mwnci!!

PostioPostiwyd: Maw 01 Meh 2004 11:45 am
gan Mwnci Banana Brown
:crio: :crio: :crio: :crio: :crio: :crio: :crio: :crio:

wel yndi tad ia!