Tudalen 1 o 8

Sut bo cymaint o "Psychos" wedi rheoli gwledydd???

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 3:56 pm
gan Meic P
Reit ta...off top fy mhen

Hitler
Saddam
Stalin
Milosovic
Pol Potts
Franco
Mugabe

dyma ychydig o arweinwyr sydd yn cael ei portreadu ini yma yng Ngymru fel "nutters" neu "psychos" oedd wrth eu bodd yn lladd

pam a sut bo nhw di dod i reoli gwledydd?
pam a sut bo nhw'n ladd cymaint?
ydy nhw mor ddrwg a ma'n nhw'n cael ei portreadu gan y wasg

Ai dyma sut mae Bush neu Blair yn edrych i bobl y Dwyrain-Canol?

Re: Sut bo cymaint o "Psychos" wedi rheoli gwledyd

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:00 pm
gan garynysmon
Meic P a ddywedodd:Ai dyma sut mae Bush neu Blair yn edrych i bobl y Dwyrain-Canol?


Mae Bush a Blair yn edrych fel hyn i llawer o bobl o Gymru hefyd :winc:

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:03 pm
gan Macsen
pam a sut bo nhw di dod i reoli gwledydd?
pam a sut bo nhw'n ladd cymaint?


Wel mae nhw'n dod i bwer trwy rym. I ddod i bwer trwy rym mae rhaid lladd. Felly roedden nhw angen bod yn bobl a fysai'n barod i ladd yn y lle cyntaf.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:07 pm
gan Meiji Tomimoto
Nes 'di anghofio Thatcher Meic. Oedd hi'n wirioneddol cracyrs erbyn y diwadd. A nath hi ddwyn llefrith fi.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 4:57 pm
gan Bol Cwrw
Gan nad oedd ganddyn nhw beth a elwir yn gydwybod yn eu dal nol, doedd na ddim am eu rhwystro nhw rhag cyrraedd eu nod. Hawdd.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 7:18 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
*peswch* *peswch* Pam dim son am Sharon? Fe yw'r seico mwyaf yn y byd gwleidyddol heddiw - arweinydd terfysgol sydd bellach yn arweinydd ffug-wleidyddol ar un o wledydd niwclear y byd. Dim cydwybod ganddo fe o gwbl, a chefnogaeth gan y wlad fwyaf grymus yn y byd.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 7:55 pm
gan Leusa
Ma pwer yn beth peryg.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 8:52 pm
gan RET79
Leusa a ddywedodd:Ma pwer yn beth peryg.


yn y dwylo anghywir

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 9:25 pm
gan Leusa
RET79 a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:Ma pwer yn beth peryg.


yn y dwylo anghywir


gwir. Ma'n dod law yn llaw a lot o gyfrifoldeb.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 9:32 pm
gan Hywel Ainsley
Ond o leia ma'r trenau yn rhedeg ar amser.