Sut bo cymaint o "Psychos" wedi rheoli gwledydd???

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dan Dean » Iau 22 Ebr 2004 10:31 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Mae john Pilger yn malwr cachwr o fri. full stop.

Malwr cachwr sydd yn siarad sens am bron i bob dim mae wedi dweud erioed. Ffwl sdop.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Leusa » Iau 22 Ebr 2004 10:55 pm

Rhaid fod o'n fywyd unig bod mor greulon. Nes i luchio cath dros gwrych pan on i'n fach a dwi dal yn gytted. A di rhedeg un drosodd blwyddyn diwetha. Ydi hynny'n cyfri fel mass murder?

hohoho! Diolch am wneud fy niwrnod!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan bartiddu » Iau 22 Ebr 2004 11:05 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Ar y llaw arall fe gafodd Milosevic ei daflu allan o swyddfa gyda cymorth y CIA.

.


Dwy'n cyfaddef rhyw ddarllenwr ysgafn ydw i am y pethau hyn,ond o beth dwy'n deall mae na lawer lawer mwy o hanes ddirgel ynglhwm a milosevic y cia a'r kla ayb

a dyw e ddim mor syml a good ousts bad..mae yna lawer o propoganda wedi mynd mlan...sai'n gwybod pwy i gredu a dweud y gwir :?

e.e. :-

http://www.mail-archive.com/kominform@lists.eunet.fi/msg11946.html
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Dylan » Gwe 23 Ebr 2004 2:33 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Mae john Pilger yn malwr cachwr o fri. full stop.

Malwr cachwr sydd yn siarad sens am bron i bob dim mae wedi dweud erioed. Ffwl sdop.


ehh, na ddim felly. 'Dw i ddim yn ffan o'r boi. Lot lot lot rhy sentimental. Dadleuon emosiynol ydi ei arbenigedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 23 Ebr 2004 2:36 pm

Dylan a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Mae john Pilger yn malwr cachwr o fri. full stop.

Malwr cachwr sydd yn siarad sens am bron i bob dim mae wedi dweud erioed. Ffwl sdop.


ehh, na ddim felly. 'Dw i ddim yn ffan o'r boi. Lot lot lot rhy sentimental. Dadleuon emosiynol ydi ei arbenigedd.


Dadleuon emosiynol sydd wastod yn dod i'r casgliadau canlynol

1) Mae America yn ddrwg.
2) Mae unrhyw un sy'n elyniaethus tuag at America yn dda.
3)Olew ydi gwraidd pob problem yn y byd heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Gwe 23 Ebr 2004 2:48 pm

wel, 'swn i ddim cweit yn dweud ei fod o'n symleiddio cymaint a hynny, ond ta waeth. :)

Nid trwy chwarae ar emosiynau pobl y dylid trio ennill dadleuon. Dyna fy mhrif broblem i efo fo.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 23 Ebr 2004 2:54 pm

1) Mae America yn ddrwg.



Sut yn union mae person yn mynd o gwmpas casau gwlad cyfan? A wyt ti wir yn casau pop person, tref, olwyn, darn o wair, pengwin, cwpan, a ffrij yn y wlad? Sut felly mae dweud dy fod ti'n casau gwlad cyfan?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 23 Ebr 2004 3:00 pm

O ffycin hel, nes i anghofio rhoid :winc: neu :lol: neu wbath ar ol y neges ddwytha 'na. Tafod mewn ffycin boch, blantos.

(Er, mae gas gen i Pilger)
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 23 Ebr 2004 3:30 pm

Dylan a ddywedodd:Nid trwy chwarae ar emosiynau pobl y dylid trio ennill dadleuon. Dyna fy mhrif broblem i efo fo.


Os chwarae ar emosiynau ydi unig gynnwys y ddadl (a dydi hynny ddim yn wir am Pilger), hawdd cytuno efo chdi, ond dw i'n meddwl bod 'na bobl yn y byd sydd dipyn yn fwy euog o hynny na Pilger, ac yn fwy dylanwadol o lawer na fo hefyd.

Neithiwr, mi ddes i ar draws datganiad gan ryw bwysigyn efo'r IMF neu beth bynnag oedd yn frwd o blaid delio efo gwastraff diwydiannol gwenwynig drwy ei orfodi ar wledydd Affrica achos (i) dydi pobl Affrica ddim wedi profi eu siâr teg o lygredd eto, a (ii) gan eu bod nhw'n farw'n gynharach yno (o newyn neu AIDS neu beth bynnag) mae'na lai o debygolrwydd bydd y gwastraff yn cael cyfle i effeithio ar eu hiechyd yn y tymor hir.

Rwan, ar un lefel, mae rhesymeg y ddadl yna yn hollol berffaith. Ar y llaw arall, os wyt ti isio bod yn rhyw wimp emosiynol pathetig, mae'n hollol seicopathig a gwrthun.

Bodau emosiynol ydi pobl, myn diân. Ylwch gasineb Garnet at Pilger, er enghraifft - hyd y gwela i, mae ei farn at gynnwys ei ysgrifennu yn seiliedig ar ymateb emosiynol i arddull 'emosiynol' y cyflwyno.

Wrth gwrs, os oes gen feirniaid Pilger rywbeth mwy sylweddol na "malwr cachu o fri. ffwl sdop" i'w ddweud amdano fo, mi fyswn i'n falch o'i glywed o.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dylan » Gwe 23 Ebr 2004 3:34 pm

Mae'r ffaith ei fod o'n mynnu rhoi ei lun ar glawr pob un o'i lyfrau yn fy nhroi i ffwrdd braidd hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron